gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd a heriol i ni gyd. Rydym wedi gorfod addasu’n ffordd o fyw, mae’r blaenoriaethau wedi newid, a phawb yn gwerthfawrogi’r pethau bach, a oedd o bosib, yn cael eu cymryd yn ganiataol cyn Covid.
Ond mae un ferch ifanc wedi addasu ac wedi mynd ati i helpu eraill drwy’r cyfnod clo. Mae teulu Betsan Jane Hughes, sy’n aelodau o’r Undeb yng Ngheredigion yn ffermio gerllaw pentref Langwyryfon, a datblygodd diddordeb Betsan mewn gwnïo i sefydlu busnes ar y fferm gartref wrth lethrau’r Mynydd Bach yn edrych allan ar y melinau gwynt.
Mae Betsan yn cyfaddef bod adre’n bwysig iawn iddi, ac yn rhoi’r cyfle iddi fedru cyfuno’r ddau beth sy’n agos at ei chalon sef gwnïo ac amaethyddiaeth. Yn ystod ei hamser yn y coleg, cafodd Betsan gryn lwyddiant yn dylunio ar gyfer nifer o gwmnïau adnabyddus, ond erbyn hyn adre sy’n cynnig yr ysbrydoliaeth fwyaf iddi.Ar ôl prysurdeb y tymor wyna, cafodd Cornel Clecs gyfle i gael sgwrs gyda Betsan am bopeth o’r gwnïo i’r ffermio, a’r hyn sy’n ysbrydoli ei gwaith creadigol. Dyma Betsan i egluro mwy i ni:
Fy enw i yw Betsan Jane ac o ddydd i ddydd dwi’n rhedeg busnes dylunio ac adnewyddu dillad sef Betsan Jane design & alterations. Sefydles i fy musnes nôl yn 2017 ar ôl graddio o Ysgol Gelf Caerfyrddin wrth wneud gradd mewn ‘Fashion: Design & Construction’. Yn ystod fy mlwyddyn ddiwethaf yn y Brifysgol bues i yn ffodus o ennill ysgoloriaeth er cof am Miriam Briddon, gwnaeth hyn fy ysbrydoli i ddechrau busnes fy hunan.
Dwi wrth fy modd yn helpu allan ar y fferm gyda Dad a Gethin, fy mrawd. Yng nghanol y prysurdeb wyna, godro a’r gwartheg ydw i hapusaf. Oedd yn bwysig iawn i mi fy mod i’n medru sefydlu busnes gwnïo ar y fferm yn ogystal â helpu allan ar y fferm cymaint ag y gallaf - dwi mor ddiolchgar i Dad, Mam, a Gethin am bob cefnogaeth yn ystod y cyfnod yma.
Erbyn hyn mae’r busnes wedi tyfu tipyn, mae gen i ddau weithdy. Un ar y fferm deuluol yn Llangwyryfon a’r ail yn Bow Street unwaith yr wythnos.
Mae’r cyfnod yma wedi bod yn heriol dros ben gan fod y busnes wedi gorfod cau dros nos yn ystod y cyfnodau clo a’r gwaith yn lleihau gan fod nifer o ddigwyddiadau wedi’u gohirio. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf nôl ym mis Mawrth llynedd es i ati i sefydlu label dillad ‘Beti Bwt’.
Ges i syniad nôl ym mis Ionawr i greu casgliad o siwmperi â’r bwriad oedd codi arian at dair elusen sef DPJ Foundation, Tir Dewi a CFfI Ceredigion. Gan fod nifer o elusennau yn colli allan yn ystod y cyfnod yma gyda nifer o ddigwyddiadau codi arian wedi cael eu gohirio, ro’n i’n meddwl y bydden i’n medru eu helpu nhw mewn ffordd greadigol gyda’r gobaith o godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol. Y rheswm arall dros ddewis yr elusennau yma yw fy mod i yn dioddef gydag iechyd meddwl fy hunan, ac mae sefydliadau fel yr CFfI wedi fy helpu i yn bersonol i ddod trwy sawl cyfnod anodd. Yn ogystal â’r CFfI, mae DPJ Foundation a Tir Dewi yn gwneud gwaith arbennig yn y gymuned amaethyddol wrth godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ac yn cynnig cymorth i ffermwyr yn ddyddiol.
Erbyn hyn dwi wedi codi £1,500 wrth werthu’r siwmperi a byddaf yn rhannu’r arian rhwng y tair elusen yma. Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch o galon am y gefnogaeth dwi wedi derbyn wrth werthu’r casgliad a hefyd yn ystod y cyfnod anodd yma - mae wir yn meddwl y byd i mi, diolch x.
Mor braf yw gweld merch ifanc yn datblygu busnes yng nghefn gwlad, ond hefyd yn meddwl am eraill, ac mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni gyd gymryd ysbrydoliaeth ohono. Roedd un o siwmperi casgliad diweddar Betsan yn arddangos y geiriau ‘Cofia fod ‘na werth i dy wên’, ac mae hynny’n dweud cyfrolau, ac yn rhywbeth pwysig i ni gyd gofio. Llongyfarchiadau mawr i ti Betsan am lwyddo i godi swm gwych o arian ar gyfer y tair elusen hanfodol yma a phob lwc i ti yn y dyfodol - edrychwn ymlaen at weld dy fusnes yn parhau i ffynnu.