Yn gorwedd o fewn Gwarchodfa Natur 400 acer Waun Las ger Caerfyrddin, mae clytwaith o weirgloddiau llawn blodau, coetiroedd a rhaeadrau ysblennydd – a fferm Pantwgan.
Mae’r fferm organig hon yn rhan o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac mae’n cael ei rhedeg dan lygad barcud y rheolwr fferm arweiniol, Huw Jones. Mae gofalu am yr amgylchedd, cynnal cynefinoedd amrywiol a chynhyrchu bwyd yn hollbwysig.
Yma mae Huw yn gofalu am fridiau traddodiadol megis Gwartheg Duon Cymreig a defaid Balwen. Gyda niferoedd cymharol isel o dda byw, sef dim ond 70 o wartheg dros yr haf a 60 o famogiaid, mae’r fferm wedi bod yn organig am yr un mlynedd ar hugain diwethaf. Gydag ond ychydig o adeiladau i gadw’r defaid a’r gwartheg, mae Huw yn defnyddio’r fuches a’r ddiadell i’w potensial eithaf ar y 360 acer o laswelltir parhaol.
Sefydlwyd y fferm yn 1998, pan gymerodd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol y brydles ar y tir. Cenhadaeth graidd yr ardd o’r dechrau oedd bioamrywiaeth, addysg a chadwraeth.
Cadw’r Warchodfa Natur Genedlaethol i fynd ac i ffynnu yw canolbwynt y gwaith sy’n cael ei wneud yma, ond ni fyddai dim o hyn yn digwydd heb y da byw, oherwydd maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer pori sydd wedi’i dargedu.
Budd arall i’r Warchodfa Natur Genedlaethol a’r ffordd mae’n cael ei rheoli drwy arferion pori yw’r mathau amrywiol o Gapiau Cwyr sydd i’w gweld ar y caeau erbyn hyn. “Ry’n ni wedi cofnodi dros 40 o fathau gwahanol o ffwng glaswelltir ar un o’n caeau, gyda 10 ohonynt â’r un statws cadwraeth rhyngwladol â llewpard yr eira, arth y gogledd, ych gwyllt Ewropeaidd a’r orangwtan Swmatraidd.
Gyda’r holl waith a wneir ar y fferm, mae cynaliadwyedd yn allweddol. Fodd bynnag, mae Huw yn teimlo y gallent wneud mwy i wella’u hygrededd o ran cynaliadwyedd ac mae'n edrych ymlaen at wneud newidiadau i arferion ffermio yn y dyfodol.
Fodd bynnag, nid cadwraeth yw’r unig ystyriaeth yma ar y fferm. Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yr un mor bwysig i Huw. Mae’r fferm mewn sefyllfa unigryw am fod gan ymwelwyr fynediad uniongyrchol at y tir, a gallant weld y da byw drostyn nhw’u hunain.
Mae hyn, mae'n credu yn bwysig o ran y ffordd mae pobl yn gweld y diwydiant a chynhyrchu bwyd.
Mae Huw yn llawn cyffro am ddyfodol fferm Pantwgan ac mae’n gweld cymaint o gyfleoedd i dreialu pethau, i edrych ar y wyddoniaeth ac ystyried sut allwn ni fwydo poblogaeth sy’n tyfu o hyd mewn ffordd gynaliadwy.
Fferm Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru'n arwain y ffordd o ran cadwraeth a chynhyrchu bwyd