FUW yn siomedig gyda dyfarniad Comisiynydd Gwybodaeth yn dilyn Llywodraeth Cymru yn rhyddhau manylion fferm

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn siomedig gyda dyfarniad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth nad oes angen ‘gweithredu ymhellach’ yn dilyn Llywodraeth Cymru yn rhyddhau manylion personol ffermydd yn ddamweiniol.

Cafodd enw a lleoliad y ffermydd hynny a ddewiswyd ar gyfer difa moch daear fel rhan o Raglen Dileu TB Gwartheg newydd Llywodraeth Cymru eu rhyddhau yn ddamweiniol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf y llynedd yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Yna cafodd y wybodaeth hon ei roi ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhai eithafwyr gwrth-ddifa yn galw am ymgymryd ag ymddygiad a allai fod wedi bygwth diogelwch teuluoedd ffermio.

Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi FUW: "Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi dulliau gweithredu ar waith i leihau'r tebygrwydd y bydd y camgymeriad hwn yn digwydd eto ac rydym yn gobeithio bod yna wersi wedi cael eu dysgu.

"Fodd bynnag, mae’r diffyg ymateb mwy cadarn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddim yn lleddfu’r posibilrwydd o hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhyddhau’r fath wybodaeth yn fwriadol neu'n anfwriadol yn debygol o arwain at dargedu gan eithafwyr hawliau anifeiliaid, gan gynnwys gweithgarwch anghyfreithlon a bod bygythiadau'n cael eu gwneud.”

Dywedodd Dr Wright y dylid cofio hefyd bod llawer sy’n cadw gwartheg yng Nghymru yn parhau i weithredu eu busnesau o dan nifer o reolaethau TB beichus a chostus, a bod ffermwyr yn gallu derbyn cosbau ariannol am gamgymeriadau neu ffactorau sydd wirioneddol allan o’i rheolaeth.

"Yn naturiol, byddai ffermwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gael eu trin yn yr un modd, camgymeriad ai peidio.

"Mae'r FUW yn bryderus iawn, heb fesurau cadarn i ddiogelu teuluoedd ffermio, bydd y rhai sy’n cadw gwartheg yng Nghymru yn parhau i gael eu gosod mewn sefyllfa fregus.

"Rydyn ni wedi gwneud ein sefyllfa ar y mater hwn yn glir i swyddogion Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro," meddai Dr Wright.

Mae FUW yn parhau i fod yn rhwystredig iawn ac yn poeni ynglŷn â phorth gwybodaeth TB sy’n agored ar hyn o bryd ac wedi ysgrifennu sawl gwaith at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â hyn.

"Mae’r ffaith bod ffermwyr gwartheg yn agored i gael eu poeni gan grwpiau gwrth-ddifa bellach wedi'i gofnodi'n dda. Mae'r defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol wedi darparu porth ar gyfer lledaenu gwybodaeth yn gyflym, rhad a chyffredin. Byddwn yn parhau i bwyso am gael mynediad cyfyngedig i wybodaeth TB er mwyn sicrhau bod teuluoedd ffermio'n cael eu diogelu rhag gwarcheidwadaeth ac ymddygiad bygythiol gan eithafwyr hawliau anifeiliaid," ychwanegodd Dr Wright.

Diwedd