Image
Ffermwyr Cwm Penmachno - addasu i newid a ffurfio cymuned wydn

Boed hynny o goedwigaeth, newidiadau demograffig yn y gymuned neu bolisïau’r llywodraethau, mae ein hardaloedd mwyaf anghysbell yn wynebu heriau a bygythiadau posib nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Yn fwy nag erioed, mae ffermwyr yng Nghymru yn gyfrifol am ddiogelu ein tir a’n cymunedau ac mae Cwm Penmachno yn enghraifft berffaith o hyn - yma cawn gwrdd â phum teulu amaethyddol sydd â gwreiddiau dwfn yn y cwm.

Yn fasn o fryniau crwn ym mhen uchaf Dyffryn Conwy, roedd Cwm Penmachno yn gartref i gymuned amaethyddol o dyddynnod hunangynhaliol, gweithgar a llewyrchus.

Yr hyn a newidiodd bethau i Benmachno oedd ei fod yn swatio ar ochr arall y mynydd i Flaenau Ffestiniog. Pan ddaeth Blaenau yn brifddinas llechi'r byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sylweddolodd Robert Pennant - a ddaeth yn Arglwydd Penrhyn yn ddiweddarach - fod y ddaeareg yn debygol o fod yr un fath yng Nghwm Penmachno ac agorodd chwarel.

Mae’r pentyrrau o wastraff llechi i’w gweld o hyd yn y cwm, yn atgoffa rhywun o’r chwareli hynny a sefydlwyd ym 1880. Mae'r ffermydd fel petai nhw wedi rhewi mewn amser, ond mae'r cefndir yn flanced werdd dywyll o goedwigaeth a blannwyd fel rhan o gytundeb i setlo trethi marwolaeth yr Arglwydd Penrhyn ym 1951.

Mae ffermwyr fel Robert Davies yn cofio ceffylau yn tynnu trelars ac yn aredig caeau, a’r tractor cyntaf i gael ei ddefnyddio yn y cwm. Mae newidiadau mewn arferion amaethyddol bob amser yn her ond mae rheoli cynaladwyedd yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol i ffermwyr fel Robert a’i fab Gwynfor, wedi’u trwytho yn y dulliau traddodiadol a’r rhwydweithiau dosbarthu lleol sydd wedi bodoli ers cenedlaethau.

Mae ffermwyr trydedd genhedlaeth fel Dafydd Gwyndaf yn adrodd hanes sut mae gwartheg fel arfer yn cael eu gwerthu i gigyddion lleol neu yn yr arwerthiant lleol ac, yn aml, gellir eu holrhain o enedigaeth yr anifail hyd at y plât - gan bwysleisio pa mor gynaliadwy yw ffermio yn y cwm.

I’r rhai sy’n byw yng Nghwm Penmachno mae cynaliadwyedd yn ymwneud â llawer mwy na sicrhau y gellir ffermio’r tir am flynyddoedd i ddod. Mae ffermwyr yma yn deall ei fod yn ymwneud â chadw ffordd o fyw gyda diwylliant ac iaith yn greiddiol i hynny.

Wrth gwrs, mae ffermio modern yn dod â heriau, nid lleiaf sicrhau cydbwysedd rhwng cynhyrchu bwyd a ffermio cadwraeth. Mae teuluoedd amaethyddol fel y Morganiaid, Cyril Lewis a hefyd newydd-ddyfodiaid fel Iwan Jones, yn adrodd hanes sut mae ffermio yn cadw cymunedau gyda’i gilydd, wrth gadw ffordd o fyw, gofalu am yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon.

Image
Image