Image
Ffermwyr yn Nyffryn Gwy Uchaf yn manteisio ar gadwraeth, twristiaeth a chynhyrchu bwyd

Ychydig filltiroedd y tu allan i Raeadr Gwy, yng Nghanolbarth Cymru, yn swatio rhwng cwm Elan ac afon Gwy, mae fferm Nannerth Fawr, cartref Andre ac Alison Gallagher. Mae'r tŷ fferm un cae o lan yr afon sy’n 2 filltir ac mae'r tir yn ymestyn o'r afon i'r tir comin.

Mae'n dir amrywiol ac mae'r fferm 200 erw yn cynnwys 103 erw o laswelltir, gan gynnwys ardaloedd gwlyptir, 62 erw o borfa goed, a 30 erw o goetir, mewn 9 cae ar wahân. Ar hyn o bryd mae'r cwpwl yn ffermio 200 o ddefaid, yn cadw ychydig o geffylau a dofednod, yn ogystal â geifr Boer ar gyfer cig.

Prynodd Andre ac Alison y fferm dros 30 mlynedd yn ôl, trwy dendr wedi'i selio. Heb unrhyw brofiad blaenorol o ffermio, roedd yn rhaid i’r cwpwl ddysgu wrth fynd ymlaen.

Yn ogystal â gwella'r fferm ac adnewyddu’r adeiladau a’r tŷ'r fferm, mae'r cwpwl wedi gweithio i gynnal cynefinoedd amrywiol a chefnogi bioamrywiaeth ar y fferm. Pan brynon nhw'r fferm roedd llawer o goetir yno’n barod, ffensiwyd hwnnw i ffwrdd, yn ogystal â chreu coetir pellach dros y blynyddoedd.

Mae cynaliadwyedd y fferm yn bwysig i Andre ac Alison ac mae gofalu am y tir yn chwarae rhan fawr yn hynny. Yn gyffredinol, mae'r cwpwl yn anelu at arferion ffermio cynaliadwy, llai o gost wrth fagu'r da byw, ac i'r system fod yn fewnbwn isel.

O ran gofalu am laswelltir y fferm, mae Andre yn falch o'r dolydd hynafol yma yn Nannerth. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd ar y dolydd flynyddoedd lawer yn ôl fod dros 60 o rywogaethau o blanhigion yn tyfu yno. Er bod y cnwd yn ysgafn, dywed Andre fod y borfa cystal ag y gall fod.

Mae tua 66 rhywogaeth o adar yn galw'r tir o amgylch y fferm yn gartref iddynt ac mae Andre ac Alison wrth eu bodd gyda’r adar sy’n ymweld dros yr haf, fel Gwybedog Brith a’r Tingoch. Mae’r gwyfyn Cliradain Cymreig hefyd yn ffynnu yn Nannerth Fawr. Er bod y cwpwl yn cefnogi bioamrywiaeth yn frwd ac yn ymwybodol iawn o ddirywiad rhywogaethau, maent yn cydnabod rôl bwysig da byw.

O ran cynhyrchu bwyd, mae'r cwpwl yn glir na fyddai unrhyw beth heblaw da byw yn gweddu i'r tir. Fel eiriolwyr cryf dros fwyd o ansawdd da, maent yn osgoi bwydydd a chig wedi'i brosesu'n drwm. Maent yn credu bod hi’n well cael cig lleol o ansawdd da dwy neu dair gwaith yr wythnos na chig o ansawdd gwael wedi'i brosesu bob dydd. Mae ffermio da byw, yn ein ffordd ni yma yng Nghymru, yn weddol gynaliadwy ac mae’r cwpwl yn annog defnyddwyr sy'n pryderu i chwilio am gynnyrch Cymreig sydd wedi ei dyfu yma.

Gyda chyngor cyson i ffermwyr i arallgyfeirio er mwyn goroesi ac yn manteisio ar brofiad blaenorol o redeg gwesty fe wnaeth Andre ac Alison arallgyfeirio i fythynnod gwyliau hunanarlwyo gan ddechrau bron i 30 mlynedd yn ôl. Gyda thwristiaid o bell ac agos yn dod i aros yn Nannerth, mae Andre ac Alison yn mwynhau'r cyfle i ddangos i bobl beth yw pwrpas ffermio yng Nghanolbarth Cymru.


Image
Image