Mae Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gamarwain i wneud argymhelliad llym fydd yn fêl ar fysedd cwmnïau telathrebu aml-filiwn, meddai Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae'r undeb hefyd wedi awgrymu efallai bod y pwyllgor wedi bod yn wirion i beidio mynd i wraidd gwir amcanion y rhai oedd yn gyfrifol am y fath benderfyniadau.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad o'r enw Seilwaith Digidol yng Nghymru, a oedd yn cynnwys argymhelliad y dylai 'Llywodraeth Cymru ystyried darparu cymhorthdal ??cyhoeddus yn y dyfodol yn amodol ar gefnogi polisi'r llywodraeth i wella seilwaith digidol, ac i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion defnyddwyr yn y dyfodol, yn enwedig unrhyw gyfuniad posib rhwng cysylltedd rhyngrwyd band eang a symudol.'
Wrth ymateb i'r adroddiad mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor, Russell George AC, dywedodd Gavin Williams, cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol UAC: "Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi awgrymu ers tro y dylid cynyddu signal band eang a ffôn symudol yng Nghymru, ac mae wedi gweithio'n agos gydag Ofcom ac eraill ers dros ddegawd i dynnu sylw at anghenion cymunedau Cymru o ran y ddau beth."
Mae Mr Williams yn mynd ymlaen i dynnu sylw at y ffaith nad yw'r undeb yn ymwybodol o unrhyw achosion lle mae ffermwyr wedi gwrthod ymrwymo i gytundeb teg gyda chwmnïau masnachol sy'n gyfrifol am seilwaith digidol - ond mae'n ymwybodol o lawer o achosion lle mae ffermwyr a chwmnïau cyfathrebu wedi dod i gytundeb ond gwrthodwyd caniatâd cynllunio, ac o achosion lle mae cwmnïau wedi ymddwyn mewn ffordd annerbyniol ac amhroffesiynol er mwyn ceisio gosod seilwaith cyfathrebu ar dir preifat.
"Efallai bod llond llaw o achosion lle mae tirfeddianwyr wedi bod yn anghydweithredol, ond byddem yn awgrymu bod aelodau'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cael eu camarwain os ydynt yn credu bod hyn mor gyffredin ei fod yn gwarantu argymhelliad llym i'r Llywodraeth, meddai Mr Williams.
"Yn hytrach, byddem yn awgrymu mai'r cymhelliad sylfaenol ar gyfer y rhai hynny sydd wedi awgrymu rhwystr o'r fath ar unrhyw raddfa yw'r dymuniad o roi hwb i elw cwmni trwy ofyn am newidiadau a fyddai'n caniatáu i ffermwyr a thirfeddianwyr gael eu gorfodi i lofnodi contractau sydd ddim yn cynrychioli natur fasnachol y gwaith a'r gosodiadau."
Mae Mr Williams yn cloi ei lythyr trwy ddweud, "Rydym yn rhannu rhwystredigaeth y Pwyllgor yngl?n â’r rhwystrau i signal band eang a ffonau symudol, ond mae’n gwbl annerbyniol i bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei arwain i gredu - byddai rhai yn dweud yn wirion – y bod hi’n iawn i gwmnïau masnachol aml-filiwn hybu eu helw trwy orfodi ffermydd teuluol i dderbyn cytundebau unochrog sydd ddim yn adlewyrchu natur fasnachol seilwaith band eang a symudol mewn unrhyw ffordd."