Mae ffermwr llaeth o Sir Benfro wedi cael ei benodi fel Cadeirydd Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyfarfod diweddar yn Aberystwyth.
Cymerodd Dai Miles a’i wraig Sharron denantiaeth Fferm Barnsley, Crowhill, Hwlffordd ym 1997. Bryd hynny, roedd y fferm yn ymestyn i 143 o erwau ac yn uned stoc/âr cyn i’r cwpwl ei newid hi i uned llaeth organig gan ddechrau gyda buches o 33 a chwota llaeth ar brydles.
Yn 2001 cymerwyd 90 erw ychwanegol o dir pori ac yna yn 2005, cymerwyd y fferm gyfagos o fewn yr un stad. Ar hyn o bryd maent yn cadw 100 o fuchod, 65 o ddilynwyr ac yn ffermio oddeutu 300 o erwau.
Ar hyn o bryd mae’r cwpwl yn cynllunio i adleoli'r uned laeth i safle newydd gyda chyfleusterau modern ar fferm gyfagos i Barnsley sydd yn y broses o gael ei brynu.
Dai hefyd yw un o’r 4 cyfarwyddwr a sefydlodd Calon Wen, cwmni llaeth organig cydweithredol sydd nid yn unig yn gwerthu llaeth eu haelodau i broseswyr, ond hefyd wedi creu brand ei hunain o gynnyrch llaeth sydd ar gael drwy holl fanwerthwyr mawr yng Nghymru a ledled y DU drwy ddosbarthwyr.
Gan ei fod wedi bod yn rhan allweddol o reolaeth y busnes ers blynyddoedd, cymerodd Dai swydd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2013. Mae’r swydd yn cynnwys rheolaeth lwyr o ochr broceriaeth llaeth y busnes (trosiant £7.2 miliwn), a goruchwylio staff y swyddfa a’r staff sy’n gwerthu’r brand (£1.6 miliwn o werthiant).
Cardi yw Dai gan iddo gael ei fagu yn Felin Fach ger Llanbedr Pont Steffan a mynychodd Ysgol Gyfun Aberaeron. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl, ac ar ôl ysgol, mynychodd y Coleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth lle dderbyniodd Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth a chwblhau blwyddyn ryngosod yn Godor, Nantgaredig.
Ar ôl gadael coleg, treuliodd Dai 5 mlynedd fel heusor yn gofalu am 160 o wartheg ar fferm Waun Fawr, Glynarthen, Llandysul, ac yna 5 mlynedd arall yn gweithio fel heusor wrth gefn yn IGER Trawscoed yn gweithio rhwng y ddwy fuches godro, Lodge Farm a'r fuches organig yn Nh? Gwyn.
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Dai: “Un rheswm pam rwy’n falch o fod yn aelod o UAC yw bod pob aelod yn cael llais, boed nhw’n ffermio busnesau mawr neu ffermydd llai o faint. Roedd y ffaith bod yr Undeb hefyd yn rhoi cymaint o bwyslais ar dreftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol Cymru hefyd yn ffactor pwysig wrth i fi benderfynu ymuno a’r Undeb.
“Rwy'n credu'n gryf, os ydych yn aelod o sefydliad dylech gyfrannu’n llawn at y sefydliad hwnnw a’i chefnogi hyd eithaf eich gallu i sicrhau bywiogrwydd a dyfodol y sefydliad. Felly, ar ôl blynyddoedd lawer o fod wedi elwa o fod yn aelod o UAC rwyf bellach yn credu bod gennyf brofiadau a allai fod o ddefnydd i’r undeb a rhoi rhywbeth yn ôl ac felly rwy’n falch o gael fy mhenodi’n gadeirydd y pwyllgor pwysig yma a helpu UAC a’i haelodau i ymladd dros ddyfodol gwell ar gyfer ein ffermwyr llaeth.”