Mae ffermwr ac entrepreneur o Orllewin Cymru, Brian Jones a sefydlodd Castell Howell yn yr 1980au cynnar, wedi cael ei gydnabod am ei wasnaethau i amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin gyda Gwobr UAC - Sioe Amaethyddol y Siroedd Unedig a Chymdeithas Helwyr.
Wrth ei longyfarch, dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae Brian wedi gwneud cymaint dros y diwydiant yma yn Sir Gaerfyrddin – mae ei angerdd dros Gymru fel cyrchfan bwyd yn heintus, dylai ei gefnogaeth i'r diwydiant drwy ddewis cynnyrch Cymreig fod yn esiampl i bawb, ac rwyf yn ei longyfarch ar y wobr."
Dechreuodd Brian Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell Cyf, drwy werthu ieir, ac mae’r busnes wedi parhau i dyfu o nerth i nerth.
Bwydydd Castell Howell yw un o’r prif gyflogwyr yn Sir Gaerfyrddin, yn cyflogi 670 ac yn gyfrifol am greu trosiant o £110 miliwn.
Mae Brian yn frwdfrydig dros roi Cymru ar y map bwyd, yn ymfalchïo mewn prynu a hyrwyddo cynnyrch cynhenid, ac yn cynnig amrywiaeth eang o fwydydd Cymreig gan gynnwys cig eidion Celtic Pride.
Fe'i dewiswyd i gynrychioli'r diwydiant bwyd fel Llysgennad Gwir Flas ar gyfer 2006-07 ac yn 2008, cafodd ei gynnwys ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd a cafodd yr MBE am ei wasanaethau i'r diwydiant bwyd.
Mae Brian hefyd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol ac yn Llywydd y Sioe Frenhinol eleni. Gwnaethpwyd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth yn 2014.
Diddordeb mawr arall Brian yw rygbi ac mae'n Gadeirydd Clwb Rygbi Caerfyrddin Quins. Mae'n gefnogwr pybyr o’r gamp ac mae'n cynorthwyo clybiau ledled y wlad gymaint â phosib trwy nawdd.
"Mae ei haelioni a chefnogaeth yn ymestyn i bob agwedd o’r gymuned p'un a yw'n ddigwyddiadau artistig, chwaraeon, gwledig, neu’n codi arian ar gyfer elusennau lleol. Mae'n un o hoelion wyth y diwydiant amaethyddol, nid yn unig yma yn Sir Gaerfyrddin, ond drwy Gymru gyfan," ychwanegodd David Waters.