Mae’r ffermwr llaeth o Sir Gaerfyrddin Brian Walters wedi cael ei anrhydeddu gyda Gwobr UAC-HSBC am wasanaethau neilltuol i’r diwydiant llaeth Cymreig yn Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin.
Yn ôl y beirniaid, mi roedd yn enillydd teilwng tu hwnt oherwydd ei angerdd dros y diwydiant llaeth a’r cyfraniadau gwirfoddol diddiwedd dros 30 mlynedd.
Ynghyd a Colin Evans, Cadeirydd Pwyllgor y Sioe Laeth a Sarah Raymond, Rheolwr Cysylltiadau Amaethyddol HSBC, roedd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi UAC yn ffurfio’r panel beirniadu, ac mi ddywedodd: “Mae Brian yn gymeriad gwych ymhlith y diwydiant llaeth, ac rydym yn diolch iddo am eu holl gyfraniad dros y blynyddoedd.
“Er ei fod wedi ymddeol yn ddiweddar o Dîm Llywyddol yr Undeb, mae ei gyfoeth o brofiad yn parhau i fod yn rhinwedd gwerthfawr i'r Undeb ac mae’r ffaith ei bod wedi cael ei gyfethol yn ddiweddar i bwyllgor canolog Llaeth a Cynnyrch Llaeth yr Undeb yn dyst i hyn. Mae'r wobr yn haeddiannol iawn."
Mae Brian Walters yn ffermio 500 erw yn Clunmelyn, Ffynnonddrain, Caerfyrddin, gyda'i wraig Ann a dau fab, Aled a Seimon. Yma, mae'r teulu'n ffermio buches laeth o 220 o wartheg gyda 200 o ddilynwyr, rhai ohonynt yn Ayrshires pedigri, ar system lloia yn yr Hydref gyda’r pwyslais ar laeth o laswellt.
Mae'r teulu hefyd yn cadw 100 o wartheg biff a hefyd yn rhedeg uned gwyliau sef ffermdy hunanarlwyo, gan ymfalchïo mewn addysgu'r preswylwyr ar y problemau a llawenydd ffermio.
Wrth longyfarch Brian Walters ar ei gyflawniadau, dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: "Nid oes yna lawer o bobl sydd ddim yn nabod Brian. Mae wedi cyfrannu cymaint i'r diwydiant llaeth, gan rannu ei wybodaeth a'i brofiad ac rwy'n si?r bod y 18 o fyfyrwyr Coleg Amaethyddol Gelli Aur, sydd wedi cael y pleser o weithio gydag ef ar y fferm dros yr 20 mlynedd diwethaf, drwy brofiad gwaith yn cytuno.
"Dros y blynyddoedd mae wedi siarad yn angerddol am gau ffatrïoedd llaeth, megis Castell Newydd Emlyn a Llangadog, gan bwysleisio goblygiadau'r cau ar ffermwyr a'r gymuned amaethyddol yn gyffredinol, a bob amser yn pwysleisio pam bod amaeth o bwys - mae wedi gwneud gwahaniaeth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru ac rwy'n ei longyfarch ar ennill y wobr hon."
Mae Brian hefyd yn gefnogwr angerddol ac ymroddedig o UAC, ac wedi bod yn aelod ers iddo ddechrau ffermio. Bu’n Is-Gadeirydd Sir Gaerfyrddin ym 1995, a’r Cadeirydd ym 1997. Mae'n gyn-gadeirydd pwyllgor canolog Llaeth a Cynnyrch Llaeth yr Undeb, o 1996 hyd at 2000. Hefyd, bu Brian yn Is-Lywydd UAC o 2000-2017. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n cynrychioli'r Undeb mewn cyfarfodydd o’r Bwrdd Llaeth Ewropeaidd ym Mrwsel.