Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud wrth y Prif Weinidog bod rhaid rhoi blaenoriaeth i geisio estyn cyfnod Erthygl 50 os yw Brexit caled ym mis Ebrill 2019 yn dod yn fwy tebygol.
Yn siarad ar ôl cyfarfod gyda'r Prif Weinidog Theresa May ar faes y Sioe Frenhinol, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Byddai canlyniadau Brexit caled mor ddifrifol i’n diwydiannau, gan gynnwys ffermio, ac i economi'r wlad yn gyffredinol a ni ddylid caniatáu hyn i ddigwydd.
"Eglurais yn glir i'r Prif Weinidog y dylid rhoi blaenoriaeth i geisio estyn cyfnod Erthygl 50 sy'n caniatáu mwy o amser i drafod cytundeb synnwyr cyffredin gyda'r UE os bydd Brexit caled yn dechrau dod yn fwy tebygol."
Dywedodd Mr Roberts y byddai colli mynediad i farchnad yr UE yn arbennig o ddinistriol i ddiwydiant ffermio Cymru, ond byddai hefyd yn achosi difrod mawr i economi'r DU.
“Gellir ymestyn cyfnod dwy flynedd Erthygl 50 a daniwyd gan Theresa May ym Mawrth 2017, gyda chytundeb yr UE, a byddai'n gwbl ddiofal i beryglu'r difrod trychinebus Brexit caled ym mis Ebrill 2019 yn hytrach na cheisio cael mwy o amser i ddod i gytundeb."
Dywedodd Mr Roberts fod yr UAC wedi ei gwneud hi'n glir ers refferendwm yr UE y dylai Brexit ddigwydd dros amserlen ddiogel a realistig.
"Mae'r miloedd o fusnesau sy'n bresennol yma heddiw ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn ficrocosm o'n heconomi wledig sy'n cyflogi cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru yn unig.
"Mae peryglon caled Brexit yn achosi chwalfa ar raddfa enfawr, a rhaid i ni ymladd i atal hynny rhag digwydd."