Bu Swyddogion Gweithredol siroedd Gogledd Cymru Undeb Amaethwyr Cymru yn cwrdd â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Arfon Jones a'r Tîm Troseddau Gwledig ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn yn ddiweddar. Pwrpas y cyfarfod oedd trafod y sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â phlismona gwledig, a cafodd Alaw Mair Jones, Swyddog Gweithredol Sirol newydd Ynys Môn, ei chyflwyno i'r tîm am y tro cyntaf. Mae hwn yn gyfarfod cyswllt blynyddol sy’n cael ei gynnal bob mis Gorffennaf ac yn gyfle i godi amryw o faterion a chlywed y newyddion diweddaraf gan Dîm Troseddau Gwledig Gogledd Cymru.
Y prif faterion dan sylw oedd dwyn da byw a pheiriannau, ymosodiadau cŵn ar dda byw a'r pryder cynyddol am seiberdrosedd. Edrychwyd ar seiberdrosedd yn fanwl, a’r pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth o hyn ymhlith y gymuned ffermio. Cafwyd trafodaeth adeiladol ar y ffordd orau o ymdrin â phroblemau o'r fath ac i godi ymwybyddiaeth mewn ardaloedd gwledig.
Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr heddlu, yn aml iawn, ddim yn cael gwybod am droseddau gwledig, ac mewn llawer o achosion mae angen i ffermwyr sôn am y troseddau sy’n digwydd, fel gall y Tîm Troseddau Gwledig eu helpu'n fwy effeithiol a thargedu troseddwyr gwledig. Trafodwyd bod y mwyafrif o ladrata ar ffermydd yn fanteisgar, gyda lladron yn gweld eu cyfle ac yn dwyn beth sydd ar gael mewn cyfnod byr iawn o amser.
Ystyriwyd y gwahanol ffyrdd y gall y gymuned ffermio gysylltu â'r Tîm Troseddau Gwledig, sef 101 er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiadau, lle mae blaenoriaeth yn cael ei roi i gudd-wybodaeth.
Trafodwyd atebion ymarferol a rhagofalon, megis peidio gadael allweddi mewn peiriannau a beiciau cwad a sicrhau bod offer o dan glo pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Trafodwyd y pwysigrwydd o gloi gatiau, yn ogystal â theledu cylch cyfyng. Ystyriwyd y manteision o osod tracwyr ar dractorau a pheiriannau, a'r angen o bosib i weithgynhyrchwyr ystyried gosod teclynnau o’r fath cyn gwerthu peiriant. Os bydd yna ymweliad amheus a fferm, awgrymwyd y dylid gwneud pob ymdrech i gymryd nodyn o rifau cofrestru cerbydau a disgrifiad byr o'r person/pobl sydd yn y cerbyd. Hefyd, ystyriwyd y manteision o dynnu lluniau â ffonau symudol, pan mae'n ddiogel ac yn gywir i wneud hynny.
Roedd cynrychiolwyr UAC yn falch o glywed bod y Tîm Troseddau Gwledig yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda'r Tîm Troseddau Gwledig newydd yn Dyfed Powys, a’r posibilrwydd o Dîm Troseddu Gwledig Cymru Gyfan yn y dyfodol.
Wrth gloi, dywedodd Gwynedd Watkin, Swyddog Gweithredol Sir Gaernarfon: "Mae'r Tîm Troseddau Gwledig wedi gwneud gwaith ardderchog ers eu ffurfio ym mis Medi 2013 ac roedd cyfarfod heddiw yn enghraifft arall o gyfarfod wyneb-yn-wyneb adeiladol, sydd wedi bod yn fuddiol iawn i'r heddlu a'r cynrychiolwyr amaethyddol sy'n bresennol. Roeddem yn ddiolchgar iawn unwaith eto am y cyfle i gwrdd â'r tîm yn eu pencadlys ac edrychwn ymlaen at barhau â'r cyswllt agos yn y dyfodol."