Cynhaliodd cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar y thema ‘Y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru fel gweinyddwyr ffermio, a ffermwyr fel ymarferwyr yn y dyfodol’ ar ddydd Gwener 25ain o Ionawr yng nghlwb rygbi Dolgellau.
Siaradwyr gwadd y noson oedd Pennaeth yr Is-adran Amaeth – Cynaliadwyedd a Datblygu Llywodraeth Cymru, Gary Haggaty, enillydd Categori Newydd-ddyfodiaid Gwobrau Ffermio Prydain sy’n ffermwyr tenant o Abercegir, ger Machynlleth Rhidian Glyn a Rheolwr Defnydd Tir RSPB Arfon Williams.
Dywedodd Llywydd Sirol FUW Meirionnydd Olwen Ford a gadeiriodd y cyfarfod: "Cawsom drafodaethau bywiog a diddorol iawn ac ymhlith nifer o sylwadau a chwestiynau gan ein haelodau, roedd yn amlwg bod angen partneriaethau gwell a sgwrs gadarnhaol rhwng ffermwyr a Llywodraeth Cymru. Yn enwedig o ran unrhyw benderfyniadau polisi yn y dyfodol. "
"Ar adeg cyhoeddiadau pwysig diweddar yng nghyd-destun cefnogaeth amaethyddol yn y dyfodol a ffurfio polisi amaethyddol yn dilyn Brexit, roedd hyn yn sicr yn ddigwyddiad i brocio meddwl unrhyw un sy'n ymwneud â'r diwydiant amaethyddol.
"Cawsom gynulleidfa wych a hoffwn ddiolch i'n haelodau a'n siaradwyr gwadd am sicrhau noson lwyddiannus," meddai Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol FUW Meirionnydd.