Brecwastau FUW wedi codi bron £15,000 i elusen

Mae wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol FUW wedi codi mwy nag ymwybyddiaeth o'r bwyd gwych sy'n cael ei gynhyrchu gan ffermwyr trwy gydol y flwyddyn.Yn ystod yr wythnos (21-27 Ionawr) cynhaliwyd dros 27 o frecwastau ledled Cymru, sydd wedi codi bron £15,000 ar gyfer apêl elusen Llywydd yr FUW.

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd FUW: "Mae ein staff, aelodau a’r gwirfoddolwyr gwych wedi gwneud gwaith anhygoel unwaith eto eleni. Bydd yr arian sydd wedi cael ei godi yn mynd i'n hachosion elusennol - Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r FCN - ac mae bron £35,000 yn y gronfa hon hyd yn hyn.

"Mae cymunedau ffermio yn gymunedau clos ac mae hyn yn brawf o beth y gellir ei gyflawni pan pawb yn dod at ei gilydd, ac yn rhannu’r un nod gyffredin. Drwy'r digwyddiadau hyn, rydym wedi eistedd o amgylch bwrdd y gegin i siarad, rhannu ein syniadau am #AmaethAmByth, ac wedi cryfhau cysylltiadau cyfredol, yn ogystal â sefydlu rhai newydd.

"Bydd yr arian a godwyd yn ein cymunedau gwledig yn mynd tuag at helpu eraill yn ein cymunedau - ni ddylem byth anghofio mai pobl sy’n ffurfio ein cymunedau a bod modd cyflawni pethau anhygoel”.