Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn galw am sicrwydd pellach gan Lywodraeth y DU y bydd sectorau bregus yng Nghymru, megis y diwydiant defaid, yn cael eu hamddiffyn mewn sefyllfa o Brexit Heb Gytundeb. Daw'r alwad yn dilyn adroddiadau bod y llywodraeth yn bwriadu torri 80-90% o'r holl dariffau a osodir ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Brydain.
Wrth siarad ar ei fferm yng Ngogledd Cymru, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: "Rydym wedi cwrdd â swyddogion y Llywodraeth a'r cyn Weinidog dros Ffermio George Eustice dros yr wythnosau diwethaf, ac wedi pwysleisio bod da byw, ac yn arbennig y diwydiant defaid, ymhlith y mwyaf bregus yn sgil pob un o'r sefyllfaoedd Brexit posibl.
"O gofio dylanwad y sector da byw yng Nghymru a bod gennym 30% o boblogaeth defaid y DU, mae ein cenedl yn agored iawn i'r peryglon, felly mae angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod tariffau a Chwotâu Cyfradd Tariff wedi'u gosod ar lefelau sy'n diogelu ein diwydiant."
Dywedodd Mr Roberts bod hi’n galondid gweld y nifer o ymrwymiadau i ddiogelu amaethyddiaeth y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove a George Eustice dros yr wythnosau diwethaf.
Fodd bynnag, roedd aelodau eraill o'r Cabinet wedi bod yn lleisiol wrth argymell tariffau isel neu sero a fyddai'n niweidiol i nifer o ddiwydiannau, a dydd Mawrth (Mawrth 6) adroddodd Sky News fod yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) yn bwriadu torri 80-90% o'r holl dariffau a osodir ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Brydain, gan gynnwys llawer o gynhyrchion amaethyddol.
"Byddai gweithredu toriadau o'r fath yn ddinistriol ac yn cynrychioli brad gan y llywodraeth. Felly, rydym yn galw am sicrwydd na fydd y dogfennau tariff sydd i'w cyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf yn cynnig toriadau o'r fath," meddai Mr Roberts.
Ychwanegodd Llywydd yr Undeb y byddai FUW hefyd yn annog ASau i atal unrhyw gynigion o'r fath pe baent yn cael eu cyhoeddi.
"Mae angen tariffau a chwotâu ar fewnforion sy'n rhoi'r amddiffyniad angenrheidiol i bob un o'n diwydiannau, ac yn y sefyllfa waethaf o Brexit heb gytundeb, rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU a'r Senedd ddiogelu ein hanghenion ffermio a diwydiant bwyd," dywedodd.