Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod ffermwyr a'r rhai hynny sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth am eu hincwm yn parhau i deimlo’n fwyfwy rhwystredig gyda’r diffyg eglurder ar ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn crefu am sefydlogrwydd er mwyn parhau i redeg eu busnesau.
Wrth siarad ar ôl derbyniad yn 10 Stryd Downing ddoe (dydd Mercher 27 Chwefror) dywedodd Llywydd FUW Glyn Roberts: "Rydym wedi treulio'r diwrnodau diwethaf yn siarad â ffigurau allweddol yn y Comisiwn Ewropeaidd a'r Senedd i drafod Brexit a'i oblygiadau ac rydym wedi trafod pryderon ein ffermwyr ymhellach yn ystod derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn 10 Stryd Downing.
"Mae’r sefyllfa yn rhwystredig iawn i’n haelodau gan nad ydynt yn gallu bwrw ymlaen â chynllunio eu busnes, ac mae'r newidiadau cyson a'r newidiadau arfaethedig i'r cytundeb gadael yn achosi cur pen go iawn. Nid oes neb yn gwybod beth fydd yn digwydd ac rydym ond 29 diwrnod i ffwrdd o adael.
“Mae’n hen bryd bod Llywodraeth y DU yn galw Erthygl 50 yn ôl er mwyn diogelu’r wlad rhag sefyllfa o beidio cael cytundeb. Mae Ffrainc eisoes wedi crybwyll ei gwrthwynebiad i ymestyn Erthygl 50, sy’n gadael ni mewn sefyllfa fregus iawn.
"Gallai ymestyn cyfnod yr Erthygl 50 dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd wanhau sefyllfa'r DU ac arwain at y DU yn straffaglu ymlaen nes yr argyfwng ac anghytundeb gwleidyddol nesaf.
"Ni ddylai unrhyw gorff cyfrifol byth arwain gwlad i'r sefyllfa lle mae'r heddlu a'r fyddin yn trefnu cynlluniau wrth gefn ar gyfer aflonyddwch sifil posib, a'r ffordd fwyaf synhwyrol o gymryd rheolaeth dros y broses yw diddymu Erthygl 50 gyda'r bwriad o'i gyflwyno unwaith bod yna gynllun cydlynol sydd â chefnogaeth wleidyddol eang."
Pwysleisiodd Llywydd yr Undeb ymhellach, er bod y cyfrifoldeb cyffredinol am sefydlogrwydd yr economi yn parhau gyda Llywodraeth y DU, bod angen i Lywodraeth Cymru hefyd gymryd camau i leihau lefelau ansicrwydd, sy'n achosi straen dianghenraid a phryder i'r gymuned amaethyddol.
"Nid oes yr un ffermwr yng Nghymru ar hyn o bryd sydd ddim yn poeni am eu marchnadoedd allforio, y tariffau, y broblem TB parhaol a'r ail-lunio llym arfaethedig o’r polisïau cartref.
"Nid yw rheoliadau NVZ Cymru-gyfan, cynlluniau i roi'r gorau i gefnogaeth uniongyrchol a diwygiadau yn cyfrannu fawr ddim i greu'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y diwydiant yma ar frys. Rwy'n gobeithio bod y rhai sy'n gyfrifol yn Llywodraeth Cymru yn teimlo'r pwysau i sicrhau na fydd ein diwydiant yn chwalu oherwydd eu cynigion anghyfrifol.
"Ac er bod y ffocws bron yn gyfan gwbl ar yr hyn sy'n digwydd neu ddim yn digwydd yn Llundain, mae llawer y gallwn ei wneud nawr yng Nghymru i leddfu poen ac ansicrwydd. Galwaf ar y ddwy Lywodraeth i weithredu ar unwaith er budd ein ffermwyr ac economïau gwledig," ychwanegodd Glyn Roberts.