Yn sgil cyfnod o ansicrwydd llwyr o ran yr hyn bydd Brexit yn ei olygu i ffermio a Chymru fel cenedl, mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Glyn Roberts, wedi galw ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, am lywodraethu da er mwyn diogelu ffermydd teuluol Cymru mewn cyfarfod o Brif Gyngor yr Undeb yn Aberystwyth, heddiw, dydd Llun 17 Mehefin.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau sefydlogrwydd i'n diwydiannau ac osgoi camau a fyddai'n ychwanegu at y cythrwfl y mae ein ffermydd teuluol yn debygol o'i wynebu yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf o ganlyniad i Brexit," meddai Mr Roberts.
"Fe'n calonogwyd gan ymateb diweddar Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Brexit a'n Tir a gynhaliwyd llynedd, ac edrychwn ymlaen at y papur ymgynghori nesaf," meddai Mr Roberts.
"Ond rwy'n pwysleisio os na fydd yr hyn sy’n cael ei gyflwyno yng Nghymru yn adlewyrchu cefnogaeth yr UE i ffermwyr, byddai hyn yn ergyd llwyr i'n cenedl a datganoli.” Dywedodd.
Dros y tair blynedd diwethaf, eglurodd fod y diwydiant, a'r DU gyfan, wedi mynd trwy gyfnod o bryder, ac ansicrwydd, ac yna daeth i’r amlwg bod holl broffwydoliaethau a rhybuddion FUW yn wir.
"Boed o ran y peryglon o danio Erthygl 50 yn gynnar, y problemau a gynrychiolir gan ffin Iwerddon, yr angen i ymestyn cyfnod Erthygl 50, neu lawer o'n proffwydoliaethau eraill, yr ydym, yn anffodus, wedi bod yn gywir," meddai Mr Roberts .
"O bosib, rwy’n falch bod ein rhagwelediad wedi bod yn gywir ynglŷn â Brexit, ond balchder gwag yw hwn, oherwydd bob tro y dangosir bod ein rhybuddion yn gywir, mae'r peryglon a wynebwn yn cynyddu.
Ni roddir rhybuddion am y broses Brexit a materion eraill i brofi gwerth dealltwriaeth FUW, nac i ymosod ar y gwleidyddion neu'r unigolion hynny y mae'r undeb yn anghytuno â hwy.
Fe'u gwneir gyda phwrpas yr undeb mewn golwg, sef diogelu ffermydd teuluol Cymru, ac i gyflawni gweledigaeth FUW i sicrhau ‘Ffermydd teuluol cynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru.
"Pe na baem yn codi pryderon am ddifrod neu drychineb posibl i'r ffermydd teuluol hynny, ni fyddem yn cyflawni ein hamcanion cyfreithiol," meddai Mr Roberts. Yn unol â'r amcanion hynny, cadarnhaodd Tîm Polisi Llywyddol FUW wythnos diwethaf ei gefnogaeth i'r egwyddor o gapio taliadau fferm - polisi a gytunwyd yn wreiddiol gan yr undeb ddeuddeg mlynedd yn ôl.
O ran cynigion ar gyfer Polisi Amaethyddol Cyffredin nesaf yr UE, cytunwyd:
● Dylai'r cap talu presennol o 300,000 Ewro gael ei ostwng yn sylweddol, ar ôl ystyried llafur fferm;
● Dylid cryfhau'r rheol ffermwr actif er mwyn sicrhau bod arian yn aros o fewn cymunedau gwledig;
● Dylid rhoi pwyslais ar gefnogi ffermydd bach a chanolig i gydnabod arbedion maint a diogelu ffermydd teuluol, asgwrn cefn ein cymunedau gwledig.
Mae FUW yn credu bod y cynigion hyn ar gyfer dyfodol polisi'r UE yn gwbl gywir, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, ni fydd ffermwyr Cymru yn amodol i'r polisïau hynny, ac mae Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar ffordd ei hun ymlaen.
"Cawsom ein calonogi gan y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â FUW ac eraill ar gynllunio wrth gefn Brexit, ac yn gwerthfawrogi'r angen i archwilio polisïau sy'n ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu - yn enwedig newid yn yr hinsawdd, "meddai Mr Roberts.
"Ond o ran Brexit, does dal ddim unrhyw syniad gyda ni beth fydd yr heriau hynny, sy’n gwneud hi’n amhosibl drafftio polisïau mewn ymateb i anghenion Cymru," ychwanegodd.