Gall y rhai sy'n ymweld â stondin Undeb Amaethwyr Cymru (B13, ger y prif gylch) yn sioe Sir Benfro (dydd Mawrth 13 tan ddydd Iau 15 Awst) edrych ymlaen at raglen brysur o ddigwyddiadau, sgyrsiau #AmaethAmByth a digon o weithgareddau i gadw plant o bob oedran yn hapus.
Wrth siarad cyn y sioe, dywedodd Swyddog Gweithredol FUW Sir Benfro, Rebecca Voyle: “Mae gennym ni dridiau prysur o weithgareddau ar y gweill ar gyfer y sioe, gan gynnwys ardal newydd i blant lle bydd cyfle i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth liwio i ennill cefnither Puddle the Pig, Polly.
“Ac mae croeso i’r rhai hynny sydd angen cyngor ar sut i adnabod sgamiau, cymorth iechyd meddwl, storio slyri a gwybodaeth am newidiadau i drwyddedu tynnu dŵr, diogelwch tân ar y fferm, cyngor ar sut i losgi’n ddiogel neu unrhyw ymholiadau asiant tir, ymuno â ni ar y stondin hefyd.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at drafod #AmaethAmByth a #CyllidFfermioTeg gyda'n haelodau a'n gwleidyddion etholedig ac estynnwn groeso cynnes i bawb. Rwy'n gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn sioe ragorol arall."
Bydd Gwasanaethau Yswiriant FUW hefyd yn cynnal raffl fawr felly peidiwch ag anghofio cystadlu er mwyn cael cyfle i ennill taleb stryd fawr gwerth £50.
Dydd Mawrth 13 Awst
10.30yb i 11.30yb a 2.30yp i 3.30yp - Bydd staff o’r Tîm Diogelu Safonau Masnach Defnyddwyr gyda ni i gynnig cyngor a chymorth ar sut i adnabod sgamiau ac amddiffyn eich hun.
10.30yb i 2.00yp - Bydd staff o'r Adran Gwaith a Phensiynau gyda ni i gynnig cyngor ac arweiniad sy'n gysylltiedig â chymorth iechyd meddwl, cadw staff a recriwtio.
11.00yb i 3.00yp - Bydd staff o KeBek Ltd, wrth law i gynnig cyngor ymarferol ar reoli maetholion, gan gynnwys gwahanu dŵr glân a budr, storio slyri a gwybodaeth am newidiadau i drwyddedu tynnu dŵr.
2.00yp i 3.30yp - Bydd Jeremy Turner o Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, wrth law i gynnig cyngor ar ddiogelwch tân ar y fferm, llosgi’n ddiogel ac i egluro pa gymorth y gall y gwasanaeth tân ei ddarparu i ffermwyr.
Dydd Mercher 14 Awst
10.00yb i 3.00yp - bydd Philip Meade, o Davis Meade Property Consultants, un o asiantau tir yr Undeb, gyda ni i ddarparu cyngor ar amrywiaeth o faterion yn amrywio o adolygiadau rhent i gytundebau mastiau ffôn.
10.00yb i 1.00yp - Bydd Emma Taylor, o Building Resilience in Catchments (BRICs), gyda ni i roi gwybodaeth am eu prosiect ymchwil i leihau lefel y maetholion sy'n mynd i mewn i Ddyfrffordd Aberdaugleddau trwy wella rheolaeth dŵr, maetholion a chynefinoedd ar ffermydd.
10.30yb i 11.30yb a 2.30yb i 3.30yb - Staff o'r Tîm Diogelu Safonau Masnach Defnyddwyr.
10.30yb i 2.00yp - Staff o'r Adran Gwaith a Phensiynau.
11.00yb i 3.00yp - Staff o KeBek Ltd.
2.00yp i 3.30yp - Jeremy Turner o Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dydd Iau 15 Awst
10.30yb i 2.00yp - Staff o'r Adran Gwaith a Phensiynau.
11.00yb i 3.00yp - Staff o KeBek Ltd.
2.00yp i 3.30yp - Jeremy Turner o Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Diwedd