Mae cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at sioe sirol ddeuddydd prysur (dydd Mawrth 13 - dydd Mercher 14 Awst), gyda sgyrsiau #AmaethAmByth, cystadlaethau plant a digon o adloniant ar yr agenda.
Mae croeso i’r rhai hynny sy’n awyddus i drafod materion ffermio penodol ymuno â Rhun ap Iorwerth AC mewn sesiwn agored am 11yb dydd Mawrth ar stondin yr undeb a gwahoddir y rhai sy’n poeni am droseddau gwledig i alw am gyngor ar sut i gadw eu heiddo a’u da byw yn ddiogel.
Yn ymuno â’r stondin mae ‘Quad Claw’, a fydd ar y safle am y ddau ddiwrnod, a bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru Arfon Jones ar y stondin dydd Mawrth am hanner dydd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan ffermwyr.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ynys Môn, Alaw Jones: “Mae ffermio yn wynebu dyfodol ansicr am nifer o resymau ac edrychwn ymlaen at godi rhai o'n pryderon gyda Rhun ap Iorwerth yn y sioe a gobeithio y bydd llawer ohonoch yn ymuno â ni.
“Mae troseddau gwledig, gan gynnwys lladradau peiriannau fferm ac aflonyddu da byw, hefyd yn parhau i fod yn broblem fawr i’n ffermwyr ac rydym yn edrych ymlaen at drafod hyn gydag Arfon Jones yn y sioe.”
Hefyd yn ymuno â thîm UAC ar y stondin i dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl da fydd DPJ Foundation a'r Samariaid, sydd yno am ddau ddiwrnod y sioe.
Elfen ysgafn o’r digwyddiad gyda’r baler cord, cap stabal a’r ‘rigger boots’ fydd y Welsh Whisperer, a fydd yn perfformio ar stondin UAC brynhawn dydd Mercher, yn ogystal â thynnu'r raffl am 3yp.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r Welsh Whisperer i’n stondin - mae un peth yn sicr, mae'r Welsh Whisperer yn denu sylw pob oedran ac yn dod â'r sirioldeb sydd ei angen yn fawr.
“Yng nghanol ansicrwydd dyddiol Brexit, mae angen i gefn gwlad fod yn ddeniadol ac mae’r Welsh Whisperer yn diwallu’r angen hwnnw. Felly chwiliwch am y baler cord a’r crys siec, ac ymunwch â ni am brynhawn hwyliog,” ychwanegodd Alaw Jones.
Bydd cystadlaethau i’r plant hefyd, gan gynnwys dyfalu o ble mae ‘Beryl, Cheryl a Meryl’ wedi dod ar wyliau.