Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi beirniadu penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyfyngu ymhellach ar allu ffermwyr a chadwraethwyr i reoli adar sy'n niweidio cnydau neu dda byw, yn lledaenu afiechyd neu'n achosi niwed i rywogaethau sy'n peri pryder cadwraethol.
Bydd Trwyddedau Cyffredinol newydd ar gyfer rheoli rhai rhywogaethau adar yn dod i rym ar 7 Hydref 2019, gan gyflwyno cyfyngiadau ychwanegol sylweddol i ffermwyr a chadwraethwyr, o’u cymharu â’r drwydded gyfredol - ac maent hyd yn oed yn rhwystredig ar gyfer staff CNC sy’n ceisio amddiffyn rhywogaethau prin ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSIs) yng Nghymru.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir FUW, Tudur Parry: "Mae CNC wedi dychryn yn dilyn her gyfreithiol yn gynharach yn y flwyddyn gan y grŵp o Loegr Wild Justice. Ni wnaed unrhyw her gyfreithiol o'r fath yng Nghymru.
"Yn sicr, roedd yn iawn i CNC adolygu'r ddeddfwriaeth gyfredol yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr, ond mae'r trwyddedau newydd yn mynd yn llawer pellach na'u gwneud yn 100% gyfreithlon - yn ein barn ni mae'r adolygiad wedi'i lywio gan y rhai sy'n dymuno cyflwyno cyfyngiadau ychwanegol a diangen nad ydynt yn gysylltiedig â'r risg o her gyfreithiol."
Dywedodd Mr Parry fod y cyngor a roddwyd gan FUW ac eraill sydd â diddordeb mewn ffermio a chadwraeth mewn cyfarfodydd rheolaidd â CNC ers mis Chwefror wedi cael eu hanwybyddu i bob pwrpas, gan olygu y byddai'r rheolau newydd yn atal neu'n cyfyngu ar waith cadwraeth bwysig yn ogystal ag atal ffermwyr rhag amddiffyn eu cnydau a'u da byw.
"Mae gan CNC rwymedigaethau statudol o ran amddiffyn bioamrywiaeth, ond maent wedi cyflwyno newidiadau a fydd mewn gwirionedd yn ei gwneud hi'n anoddach rheoli rhywogaethau sy'n achosi difrod aruthrol i fywyd gwyllt.
“Maent hyd yn oed wedi ychwanegu haen ychwanegol o gyfyngiadau yn agos at Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a bydd llawer ohonyn nhw nawr yn fwy agored i ymosodiadau gan rai rhywogaethau o adar,” ychwanegodd Mr Parry.
Gan ymateb i'r penderfyniad i beidio â chaniatáu rheoli ydfrain mwyach lle maent yn niweidio cnydau neu'n lledaenu afiechyd, dywedodd Mr Parry: "Mae ydfrain yn achosi difrod enfawr i gnydau ledled Cymru, a gallant ddirywio ardaloedd helaeth er enghraifft lle mae hadau wedi'u hau, ac mae atal difrod o'r fath rhag cael ei achosi gan rywogaeth gyffredin iawn yn chwerthinllyd."
Nid yw trwydded newydd bellach yn caniatáu rheoli brân dyddyn, y bioden, jac-y-do, ydfran, pioden y coed, colomen dorchog neu ysguthan i amddiffyn iechyd y cyhoedd - gyda'r golomen wyllt yr unig rywogaeth sydd ar ôl ar y rhestr.
Mae un arall o’r trwyddedau newydd yn cyfyngu’n aruthrol ar gamau y gellir eu cymryd i warchod adar gwyllt, ac nid yw’n caniatáu camau i amddiffyn rhywogaethau sydd fwyaf o dan fygythiad yng Nghymru.
Ni fydd y trwyddedau cyffredinol newydd yn berthnasol yn, nac o fewn 300 metr i 203 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy'n golygu y bydd gweithredoedd CNC, ffermwyr a chadwraethwyr yn yr ardaloedd hyn ac o'u cwmpas yn cael eu cyfyngu ymhellach, er bod rheoli rhai rhywogaethau adar fel brain a phïod yn hanfodol ar gyfer amddiffyn da byw ac adar sy'n nythu ar y ddaear.
“Bydd ffermwyr yn dod i’r casgliad o’r penderfyniad hwn fod gan CNC fwy o ddiddordeb mewn cyflwyno biwrocratiaeth a chyfyngiadau hurt am resymau gwleidyddol yn hytrach nag amddiffyn bywyd gwyllt Cymru a helpu ffermwyr i amddiffyn eu da byw a’u cnydau," ychwanegodd Mr Parry.