Dywed Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ei bod yn barod i herio unrhyw fethiannau gan Lywodraeth y DU i orfodi rheolaethau tollau yn iawn mewn ffordd sy'n caniatáu mewnforion di-dariff trwy’r 'drws cefn' ar ôl Brexit, ac yn gwneud hynny trwy'r llysoedd os bydd angen.
Wrth siarad ar ôl cyfarfod diwydiant yn Llanfair ym Muallt a gynhaliwyd i drafod y dirywiad niweidiol ym mhrisiau gwartheg, dywedodd llywydd FUW, Glyn Roberts: “Ers i gyfraddau tariff mewnforio drafft a’r cynnig i ganiatáu mewnforion di-dariff o Weriniaeth Iwerddon i Ogledd Iwerddon gael eu cyhoeddi ym Mawrth, rydym wedi ysgrifennu dro ar ôl tro at Ysgrifenyddion y Wladwriaeth yn tanlinellu'r difrod y byddai'r cyfraddau isel hynny yn ei achosi i amaethyddiaeth yng Nghymru, yn ogystal â chodi pryderon mewn nifer o gyfarfodydd.
“Rydyn ni hefyd wedi cwestiynu cyfreithlondeb gosod tariffau ar sero ar ffin Iwerddon, ac wedi tynnu sylw at y tebygolrwydd y byddai hyn yn agor y drws cefn i smyglo i’r tir mawr oni bai bod rheolaethau tollau mewn porthladdoedd fel Lerpwl yn cael eu gorfodi’n gaeth.”
Dywedodd Mr Roberts, heb reolaethau o'r fath, gall cynhyrchion fel cig eidion Gwyddelig, a ddylai fod yn amodol ar dariffau wrth ddod i mewn i Gymru, Lloegr neu'r Alban, groesi o Ogledd Iwerddon i borthladdoedd fel Lerpwl yn ddi-dariff.
“Byddai hynny'n cael effaith ddinistriol ar ffermwyr y DU o ystyried y byddem yn gorfod talu tariffau’n llawn ar ein hallforion ein hunain, a byddai hefyd yn agor y drws cefn i fewnforion di-dariff o rannau o'r UE heblaw'r Weriniaeth."
Dywedodd Mr Roberts bod hi’n ymddangos bod paratoadau i orfodi rheolaethau o'r fath yn fach iawn er gwaethaf dyddiad Brexit sef 31 Hydref a rhwymedigaethau o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd i sicrhau cydymffurfiad â rheolau tariff. Dywedodd hefyd fod rhai yn ofni y gallai’r methiant hwn fod yn gyfystyr â ‘dadgriminaleiddio’ smyglo i Brydain Fawr.
“Rydyn ni eisoes wedi trafod gydag eraill y posibilrwydd o gamau cyfreithiol os bydd hyn yn digwydd ac rydyn ni’n hyderus y byddai’n achos agor a chau.
“Y ffordd amlwg o gwmpas hyn yw sicrhau nad ydym yn gadael yr UE heb gytundeb, fel sy’n parhau i gael ei fygwth gan y Prif Weinidog er gwaethaf y ddeddfwriaeth sydd wedi’i rhoi ar waith i atal hyn rhag digwydd.”