Mae ffermwr llaeth o Sir Benfro, Dai Miles, wedi’i ethol yn Is-lywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yng nghyfarfod Prif Gyngor yr FUW yn Aberystwyth (dydd Mercher, 16 Hydref).
Mae Dai wedi bod yn gadeirydd pwyllgor llaeth a chynnyrch llaeth yr FUW ers 2017 ac mae hefyd yn un o 4 cyfarwyddwr sefydlu Calon Wen, cwmni cydweithredol llaeth organig sydd nid yn unig yn gwerthu llaeth yr aelodau i broseswyr ond sydd wedi creu ei brand ei hun o gynnyrch llaeth sydd ar gael trwy'r holl brif fanwerthwyr yng Nghymru a'r DU gyfan trwy ddosbarthwyr.
Yn gardi, bu Dai yn byw yn Felin Fach ger Llanbed yn blentyn ac aeth i Ysgol Gyfun Aberaeron. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl a mynychodd Goleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth lle derbyniodd Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth a chwblhau blwyddyn yn Godor Nantgaredig.
Ar ôl coleg treuliodd Dai 5 mlynedd yn gofalu am 160 o fuchod yn Waun Fawr, Glynarthen, Llandysul, yna 5 mlynedd arall yn IGER Trawscoed yn gweithio fel heusor wrth gefn rhwng y ddwy fuches laeth -Lodge Farm a'r fuches organig yn Nhŷ Gwyn.
Ym 1997, mewn partneriaeth â'i wraig Sharron, cymerodd y cwpl denantiaeth Barnsley Farm, fferm 143 erw yng Ngorllewin Cymru. Ar y pryd, roedd yn uned stoc/cnydau ac aethom ati i drosi'r uned i fferm laeth organig gan ddechrau gyda buches o 33 a chwota llaeth ar brydles.
Yn 2001 cymerwyd 90 erw arall o dir pori ac yna yn 2005 y fferm gyfagos o fewn yr un ystâd. Ar hyn o bryd mae gan y cwpl 120 o fuchod a 65 o stoc ifanc. Y cnwd yn bennaf yw porfa, ond mae silwair âr, rêp porthiant a betys porthiant yn rhan o'r cylchdro ffermio sydd oddeutu 300 erwau.
Yn 2018 fe wnaethant brynu'r fferm gyfagos o'r ystâd a gosod system odro robotig fodern ar y daliad.
Wrth siarad am ei benodiad dywedodd Dai: “Un rheswm pam fy mod yn falch o fod yn aelod o FUW yw bod gan bob aelod lais p'un a ydyn nhw'n ffermio busnesau mawr neu ffermydd llai.
“Hefyd, mae’r pwysigrwydd mae’r Undeb yn ei roi i dreftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol Cymru yn ffactor pwysig yn fy mhenderfyniad i ymuno â’r Undeb hon.
“Rwy’n credu’n gryf, os ydych yn aelod o sefydliad y dylech gymryd rhan lawn yn y sefydliad hwnnw a chynorthwyo hyd eithaf eich gallu i sicrhau ei ddyfodol.
“Felly, rwy’n falch iawn o ymgymryd â’r swydd heriol newydd hon yn yr Undeb a helpu’r FUW a’i aelodau i ymladd am ddyfodol gwell i’n holl ffermwyr yng Nghymru.”
Wrth groesawu Dai i dîm Polisi Llywyddol yr Undeb, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Ar adegau fel yma mae angen arweinwyr agwedd arnom, a all ein helpu i lywio, lobïo a thrafod y polisïau cywir ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru i sicrhau bod gennym ffermydd teulu ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
“Mae gan Dai ddigon o brofiad a gwybodaeth am amaethyddiaeth ledled Cymru ac ymdeimlad gwirioneddol o #AmaethAmByth. Rwy’n ddiolchgar o’i gael ar y tîm Polisi Llywyddol ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef.”