Mae ffermwr defaid o Sir Gaerfyrddin a chyn Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Ian Rickman, wedi cael ei ethol yn Ddirprwy Lywydd newydd yr FUW mewn cyfarfod o’r Prif Gyngor yn Aberystwyth (dydd Mercher, 16 Hydref).
Mae wedi bod yn aelod gweithgar o’r undeb am fwy nag 20 mlynedd ac roedd yn gadeirydd sir Caerfyrddin rhwng 2010 a 2012. Bu hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Tir Uchel a Thir Ymylol am bedair blynedd. Yn 2017, etholwyd Ian yn Is-lywydd FUW.
Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae wedi gweithio’n ddiflino i gynrychioli’r Undeb a’i haelodau mewn amrywiaeth o gyfarfodydd Llywodraeth Cymru, mewn ymweliadau fferm gydag ASau ac ACau sy’n tynnu sylw at faterion #AmaethAmByth ac yn cynrychioli’r Undeb mewn llu o gyfweliadau’r cyfryngau.
Mae Ian yn briod â Helen ac mae ganddynt dri mab. Mae'r teulu'n byw yng Ngurnos, fferm fynydd sy’n cadw defaid ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Mae'r fferm yn ymestyn i 220 erw gyda Hawliau Pori Cyffredin ar y Mynydd Du, ac mae Ian yn aelod o Bwyllgor Rheoli Cymdeithas Porwyr Gorllewin y Mynydd Du.
Ar wahân i ffermio, roedd yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Ffairfach ac mae hefyd yn mwynhau rygbi. Mae'n ddilynwr brwd o'r Scarlets ac mae'n ddysgwr Cymreig gweithgar.
Wrth benodi Ian i’w swydd newydd, dywedodd Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts: “Mae Ian eisoes wedi gwneud cymaint dros ein diwydiant, gan gynrychioli barn ein haelodaeth ar lawr gwlad, gwasgu ar y Llywodraeth a gweithio’n ddiflino i ledaenu neges #AmaethAmByth.
“Mae’n amser ansicr, mewn nifer o ffyrdd, ac felly mae’n hanfodol bod gennym arweinyddiaeth gref yn yr FUW. Heb os nac oni bai, bydd Ian, yn parhau i wneud gwaith rhagorol yn cynrychioli’r Undeb a’i aelodau, wrth i ni frwydro trwy storm wleidyddol.”
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Ian Rickman: “Mae’n anrhydedd i mi gael fy ethol yn ddirprwy lywydd yr FUW. Mae'r rhain yn esgidiau mawr i'w llenwi a diolchaf i'n cyn dirprwy lywydd Brian Thomas am bopeth y mae wedi'i wneud dros amaethyddiaeth yng Nghymru.
“Wrth edrych ymlaen, mae gennym lawer o waith i’w wneud. Mae'r rhain yn amseroedd ansicr ac mae dyfodol ein diwydiant yn y fantol. Fe wnaf fy ngorau glas i sicrhau bod llais ffermwyr ledled Cymru yn parhau i gael ei glywed yn uchel ac yn glir. ”