Mae ffermwr bîff a defaid blaenllaw o Sir Benfro, Brian Thomas, sydd wedi gwasanaethu Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ers dros ddau ddegawd, wedi sefyll lawr fel Dirprwy Lywydd yr Undeb.
Mae Brian yn gyn-gadeirydd FUW Sir Benfro ac wedi eistedd ar bwyllgor tenantiaid canolog FUW.
Cafodd ei ethol yn aelod De Cymru o'r pwyllgor cyllid a threfn ganolog yn 2011, yn Is-lywydd FUW yn 2013 ac yn Ddirprwy Lywydd yn 2015.
Yn ystod yr achos BSE ym 1996, arweiniodd Mr Thomas yr ymgyrch yn Ne Orllewin Cymru yn gwrthwynebu mewnforio cig eidion gwael i Gymru. Ym 1997 arweiniodd grŵp o ffermwyr i stondin Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru er mwyn amlygu’r ffordd annheg yr oeddent yn trin y diwydiant ac mae wedi bod yn ffigwr blaenllaw yn y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg.
Wrth ddiolch i Mr Thomas am ei wasanaeth hir yng nghyfarfod Prif Gyngor yr Undeb yn Aberystwyth ddydd Mercher, 16 Hydref, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae Brian wedi bod yn ffrind cadarn ac yn gydweithiwr ers dros 20 mlynedd. Mae bob amser yn barod i helpu, cefnogi a rhoi cyngor. Mae'n deg dweud bod Brian yn rhywun y gallwn ac y gallaf ddibynnu arno.
“O’r cychwyn cyntaf, mae Brian wedi mynd y tu hwnt i’r galw, nid yn unig gyda’r Undeb, ond gyda’r diwydiant yn gyffredinol. Nid yw'n ofni corddi’r dyfroedd os yw'n golygu bod ffermwyr yn cael gwell bargen, boed hynny trwy arwain protestiadau neu ymgyrchu ar lefel y Llywodraeth.
“Mae'n deg dweud bod y diwydiant yng Nghymru wedi elwa'n fawr o lobïo ac ymdrechion gweithredol Brian i wneud ein sector yn lle gwell i bawb.”. Ac ar ran ein holl aelodau, diolchaf i Brian am ei wasanaeth hir a’i ymroddiad i Undeb Amaethwyr Cymru.”
“Hoffwn ddiolch i chi i gyd am y cyfle i fod yn ddirprwy lywydd i chi dros y blynyddoedd hyn. A hoffwn hefyd ddiolch i'm cydweithwyr ar y cyn pwyllgor Cyllid a Threfn am eu cefnogaeth. Rwy’n dymuno pob lwc i’r dirprwy lywydd nesaf,” meddai Brian Thomas.