Bob blwyddyn mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant llaeth yng Nghymru.
Eleni, mae’r Undeb yn falch o anrhydeddu Abi Reader, ffarmwraig llaeth o Fro Morgannwg, gyda’r Wobr ‘Gwasanaeth Rhagorol i Ddiwydiant Llaeth Cymru’.
Yn ffermio ochr yn ochr â’i thad a'i hewythr, mae Abi yn bartner yn y busnes teuluol ym Mro Morgannwg. Mae'r fferm yn un cymysg a'r brif fenter yw'r fuches laeth.
Abi sydd â'r prif gyfrifoldeb am weithredu’r fuches laeth. Atgyfnerthwyd ei hyder yn y sector llaeth trwy osod uned laeth newydd yn ddiweddar, sy'n cynnwys parlwr godro newydd, system trin gwartheg, ac oriel wylio i groesawu plant ysgol i weld gwaith fferm laeth yng Nghymru.
Ond mae ei chyfraniad yn mynd y tu hwnt i’r fferm a dechreuodd yn ystod ymgyrch DairySOS yn 2012. Daeth ei hangerdd a’i brwdfrydedd dros y diwydiant yn amlwg wrth iddi ymddangos ar amryw o ddarllediadau cyfryngau, gan egluro’r trafferthion roedd ffermwyr llaeth yn ei wynebu bryd hynny.
Mae hi'n hynod o awyddus i addysgu plant a'r cyhoedd yn gyffredinol ac mae hi bob amser yn awyddus i groesawu plant ysgol i'r fferm er mwyn hyrwyddo'r gwaith y mae ffermwyr yn ei wneud o ran cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel wrth ofalu am yr amgylchedd a'i wella.
Mae Abi yn aelod blaenllaw o bwyllgor adran Da Byw Sioe Sir Forgannwg. Gan adeiladu ar lwyddiant ei phrofiad Open Farm Sunday, nid yn unig y mae hi’n arddangos gwartheg (cyfyngiadau TB yn caniatáu) yn y sioe, mae hi hefyd wedi bachu ar y cyfle i gynnal arddangosfa odro trwy gydol y dydd i bobl sy’n mynd i’r sioe.
Mae'n cael boddhad mawr o adrodd y stori ffermio a thrwy ei chysylltiad â Open Farm Sunday, daeth mab ffermwr lleol ati, i ymgymryd â'r her o ddysgu’r stori, ‘O’r fferm i’r fforc’ i blant mewn ysgol yng nghanol y ddinas.
A hithau byth yn un i wrthod her, ynghyd a thîm o 15 ffermwyr lleol o Forgannwg aethpwyd â'r ymgyrch at 300 o blant ysgol yn Ysgol Gynradd Pakeman, Holloway, Llundain. Enwyd y daith yn #CowsOnTour a cafodd yr ysgol gyfan ddiwrnod grêt.
O dan ei chyfarwyddyd mae Cows On Tour wedi mynd o nerth i nerth. Daeth gweithgareddau eleni i ben gyda thaith wythnos o amgylch ysgolion Cymru. Cyn hynny ac i godi ymwybyddiaeth, aeth Abi ynghyd â'i chydweithwyr a model maint llawn o fuwch odro o amgylch Cymru.
Aeth y fuwch i Ogofâu Dan Yr Ogof, cafodd ei chario i fyny'r Wyddfa a'i chymryd i lawr ar wifren zip ym Mhlaenau Ffestiniog. Ochr yn ochr ag addysgu cannoedd o blant ysgol cododd gweithgareddau Cows on Tour £2500 i RABI a’r elusen iechyd meddwl, DPJ Foundation yn 2019.
Mae gafael Abi ar y cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu iddi hyrwyddo'r cysylltiad rhwng ffermio, maeth ac iechyd a lles anifeiliaid. Heb anghofio'r cyfraniad amgylcheddol y mae ffermwyr yn ei wneud i gymdeithas. Dros y blynyddoedd, mae Abi wedi delio â materion yn uniongyrchol - o faterion ansawdd dŵr lle mae cyflwynwyr teledu wedi ymosod ar y diwydiant llaeth - i TB - mae hi wedi gwneud fideos cyfryngau cymdeithasol i gael portreadu ffermio yn gadarnhaol. Nid yw’n ofni ymdrin â chyhoeddusrwydd gwael ac mae hi'n gwneud hynny mewn modd pwyllog, rheoledig a chydlynol.
Ar hyn o bryd yn Is-Gadeirydd Bwrdd Llaeth Cymru NFU, mae Abi wedi bod yn aelod o Fwrdd NFU Cymru a Lloegr, ac yn 32 oed, hi oedd y person ieuengaf i ymgymryd â rôl Cadeirydd Sir Morgannwg NFU Cymru. Mae hi hefyd yn Gadeirydd y Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg (CHeCS) ac yn aelod o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.
Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Trwy’r wobr hon, rydym yn cydnabod y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad gwych tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth a’r rhai sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant llaeth yng Nghymru. Mae Abi yn un o hoelion wyth y diwydiant hwn ac rwy'n ei llongyfarch yn galonnog ar ei chyflawniadau. Mae ymroddiad ac ymrwymiad Abi yn ysbrydoliaeth a dymunaf y gorau iddi ar gyfer y dyfodol.”
Mae Abi Reader yn ymuno â'r rhestr o enillwyr blaenorol, sy'n cynnwys cyn Lywydd FUW Sir Gaerfyrddin Ogwyn Evans (2008); ffermwr o Sir Gaerfyrddin Bryan Thomas - cyn aelod o gyngor Cymdeithas Holstein Friesian a sylfaenydd Sioe Laeth Cymru (2009), ffermwr llaeth o Sir y Fflint Terrig Morgan, sylfaenydd y grŵp trafod llwyddiannus ar gyfer cynhyrchwyr llaeth ifanc yn Sir y Fflint sydd bellach yn cael ei redeg gan DairyCo, “The Udder Group” (2010); Cadeirydd DairyCo Tim Bennett (2011); cyn Gadeirydd Pwyllgor Llaeth FUW Eifion Huws o Ynys Môn (2012); cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Lloegr a Chymru Mansel Raymond (2013); ffermwr o Wynedd Rhisiart Tomos Lewis (2014); perchennog Daioni Organig Laurence Harris (2015), Gareth Roberts o Llaeth y Llan (2016), cyn is lywydd FUW Brian Walters o fferm Clunmelyn (2017) a dirprwy lywydd NFU Cymru Aled Jones (2018).