Mae Dirprwy Lywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi cael ei gydnabod am ei wasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin gyda Gwobr Undeb Amaethwyr Cymru – Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.
Mae wedi bod yn aelod gweithgar o’r undeb am fwy nag 20 mlynedd ac roedd yn gadeirydd sir Caerfyrddin rhwng 2010 a 2012. Bu hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Tir Uchel a Thir Ymylol am bedair blynedd. Yn 2017, etholwyd Ian yn Is-lywydd FUW ac yn Ddirprwy Lywydd yn 2019.
Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae wedi gweithio’n ddiflino i gynrychioli’r Undeb a’i haelodau mewn amrywiaeth o gyfarfodydd Llywodraeth Cymru, mewn ymweliadau fferm gydag ASau ac ACau sy’n tynnu sylw at faterion #AmaethAmByth ac yn cynrychioli’r Undeb mewn llu o gyfweliadau’r cyfryngau.
Mae Ian yn briod â Helen ac mae ganddynt dri mab. Mae'r teulu'n byw yng Ngurnos, fferm fynydd sy’n cadw defaid ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Mae'r fferm yn ymestyn i 220 erw gyda Hawliau Pori Cyffredin ar y Mynydd Du, ac mae Ian yn aelod o Bwyllgor Rheoli Cymdeithas Porwyr Gorllewin y Mynydd Du.
Ar wahân i ffermio, roedd yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Ffairfach ac mae hefyd yn mwynhau rygbi. Mae'n ddilynwr brwd o'r Scarlets.
Dywedodd David Waters, Swyddog Gweithredol FUW Sir Gaerfyrddin: “Mae Ian Rickman wedi gweithio’n ddiflino dros y diwydiant ledled Cymru ac yma yn Sir Gaerfyrddin. Yn ei rôl fel Is-lywydd ac yn awr fel Dirprwy Lywydd mae wedi mynychu llawer o gyfarfodydd yn yr ardal, wedi cwrdd ag ACau, ASau a Chomisiynwyr Trosedd ledled y rhanbarth - gan fynegi barn yr Undeb ac aelodau bob amser.
“Mae’n angerddol iawn am #AmaethAmByth ac yn un o hoelion wyth ein diwydiant ac rydym am ei gydnabod gyda’r wobr hon heddiw.”