Roedd y cordyn bêls, cap stabal, rigger boots a mwstash allan gyda ffermwyr Sir Benfro wrth i'r Welsh Whisperer ddod i Faenclochog ar gyfer cyngerdd elusennol arbennig.
Trefnwyd y noson gan gangen Sir Benfro o Undeb Amaethwyr Cymru er mwyn codi arian ar gyfer dwy elusen leol anhygoel, The DPJ Foundation, a Farms For City Children yn Nhŷ Ddewi.
Ac roedd yn ‘gwd thing’, gyda'r digwyddiad yn codi dros £850.
Dywedodd Rebecca Voyle, Swyddog Gweithredol FUW Sir Benfro: “Diolch i bawb a ddaeth draw i gefnogi ein noson gyda’r Welsh Whisperer, gan fod chi wedi helpu ni i godi swm gwych o arian, a fydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y ddwy elusen leol.
“Cafodd pawb amser gwych ac yn sicr byddai aelodau iau’r gynulleidfa wedi cysgu’n dda'r noson honno!”