Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd (FUWIS) wedi penodi Guto Bebb fel ei Reolwr Gyfarwyddwr newydd.
Mae Mr Bebb, sy'n hanu o Gaernarfon, Gwynedd, yn gyn Aelod Seneddol Aberconwy a chyn hynny roedd yn Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn Weinidog Amddiffyn.
Cyn dechrau ei yrfa wleidyddol roedd Mr Bebb yn ymgynghorydd busnes a chyfarwyddwr cwmni. Roedd ei brofiad masnachol o fantais iddo fel aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan ac wrth reoli cyllideb caffael gwerth miliynau i’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Wrth groesawu ei benodiad, dywedodd Tom Jones, Cadeirydd FUWIS: “Mae’n bleser mawr croesawu Guto atom. Mae FUWIS yn gwmni sy'n tyfu ac sy'n darparu gwasanaethau allweddol i'r sector amaeth yng Nghymru.
“Gyda Guto wrth y llyw, rwy’n hyderus y gwelwn y twf hwnnw’n parhau. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sydd hefyd yn agos at ein cwsmeriaid yn eu cymunedau amrywiol ledled Cymru. Rydym wedi dod o hyd i bennaeth newydd sy'n deall y berthynas sylfaenol hon ac a fydd yn gwybod sut i adeiladu ar y sylfaen gadarn honno."
Ychwanegodd Glyn Roberts, Llywydd FUW (Undeb Amaethwyr Cymru): “Mae gwasanaethau FUWIS yn rhan allweddol o’r gwasanaethau rydyn ni fel Undeb yn eu cynnig, nid yn unig i’n haelodau ond i’r gymuned wledig yn ei chyfanrwydd. Gwn fod Guto yn deall y sector amaeth yng Nghymru a bydd yn gwybod sut i lunio gwasanaethau yn y dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag ef.”
Dywedodd Guto Bebb: “Mae'n dda bod yn ôl yng nghanol byd busnes Cymru. Mae hon yn her gyffrous newydd yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr ati."
Bydd Mr Bebb yn ymgymryd â'i rôl newydd yn FUWIS ar 6 Ebrill.