O ystyried nifer yr achosion o Covid-19 yn fyd-eang, mae'n bwysig bod pob busnes fferm yn barod am y posibilrwydd y bydd aelodau o'r teulu neu weithwyr y fferm yn dal y firws. Os fydd y gwaethaf yn digwydd, bydd y ffaith bod yna fesurau priodol ar waith yn help i leihau'r effaith ar eich busnes fferm. Mae sawl cynllun ar gael a allai fod o help i ddod o hyd i wirfoddolwyr i ymgymryd â gwaith y fferm os fydd rhywun o'r fferm yn mynd yn sâl ac mae'r rhain yn cael eu rhestru ar ddiwedd y ddogfen.
Bydd cytuno ar gynllun gweithredu cyn i rywun fynd yn sâl yn helpu i leddfu straen ac yn helpu'r busnes fferm i weithredu'n fwy effeithlon nes bod pethau'n dychwelyd i normal. Dylai'r cynllun gynnwys pwy fydd yn cymryd awenau’r busnes fferm a pha waith sydd angen blaenoriaeth.
Mae'r FUW yn darparu rhestr wirio er mwyn paratoi ar gyfer Covid-19 a thempled cynllun paratoi fferm i helpu i darfu cyn lleied â phosib ar fusnesau pe bai angen gwirfoddolwyr neu'r rhai sy'n llai cyfarwydd ag arfer cyfredol y fferm i weithio ar y fferm.
Rhestr Wirio Covid-19 FUW
1 Blaenoriaethu
Cyn i Covid-19 gael effaith ar y fferm, rhowch flaenoriaeth i’r gwaith sydd angen ei wneud. Rhestrwch yr hanfodion sydd angen eu gwneud yn nhrefn blaenoriaeth a, lle bo hynny'n briodol, diweddarwch y rhestr yn fisol i gynnwys newidiadau tymhorol mewn arferion y fferm. Gadewch waith sydd ddim yn hanfodol nes bod busnes y fferm nôl i normal. Efallai y bydd angen i chi feddwl faint o ddyddiau y bydd angen gwirfoddolwr neu gynorthwyydd i weithio ar y fferm a bydd hyn yn cynnwys ymgymryd â thasgau ailadroddus fel bwydo anifeiliaid.
2 Siaradwch
Trafodwch eich cynllun gydag eraill o fewn busnes y fferm. Gwnewch restr o gysylltiadau allweddol y bydd angen eu hysbysu os bydd yna achos o Covid-19. Dylai'r rhain gynnwys milfeddyg y fferm, contractwyr, cyflenwyr, cwmnïau nwy/trydan/olew, cyfrifydd y fferm, cneifwyr, ffrindiau a theulu. Gall eich swyddfa sir FUW hefyd ddarparu help a chymorth yn ystod yr amser hwn.
3. Helpwch y Cynorthwy-wyr
Mae'n bwysig bod cyfleusterau golchi dwylo a chitiau diheintio ar gael i wirfoddolwyr sy'n gweithio ar eich fferm. Meddyliwch am y gwaith bydd angen ei wneud, a dywedwch lle mae offer pwysig ar gyfer y gwaith megis cyfleusterau golchi dwylo, allweddi, tapiau, meddyginiaethau, diheintyddion, cemegau ac unrhyw eitemau eraill fydd cynorthwy-ydd fferm angen. Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a gwybodaeth bwysig am y fferm ar gael yn hawdd. Dylai hyn gynnwys y rhestr o waith pwysig, eich cysylltiadau fferm, llyfr meddygaeth y fferm, cynllun iechyd y fuches neu'r ddiadell, rhestr o’r tir lle mae’r da byw ac ati.
Cynllun Paratoi Fferm Covid-19 FUW
Nodwch, cyn y gall gwirfoddolwr ymweld â'ch fferm, rhaid bod gennych Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus cyfredol a dilys. Cliciwch yma i gysylltu â'ch swyddfa Gwasanaethau Yswiriant FUW leol i sicrhau bod yr yswiriant cywir gyda chi.
Gwasanaeth Paru Sgiliau Lantra
Mae Gwasanaeth Paru Sgiliau Lantra yn cysylltu busnesau gyda darpar weithwyr. Cliciwch yma i weld y Gwasanaeth Paru Sgiliau ar gyfer Busnesau.
Cliciwch yma i weld y cwestiynau cyffredin ynglŷn â’r gwasanaeth.
Menter Mon a Conwy Cynhaliol
Mae gan raglen Menter Mon yn Ynys Môn a Gwynedd linell gymorth bwrpasol ar gyfer y rhai sydd angen cefnogaeth ymarferol ar y fferm yn ystod Covid-19. Dylai aelodau sydd am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ffonio 07739 948883 neu e-bostio
Bydd y rhaglen yn cysylltu â gwirfoddolwr sydd wedi cofrestru ar ei gronfa ddata. Bydd y gwirfoddolwr yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth ac arweiniad ar yr hyn sydd angen ei wneud. Fel rhan o'r rhaglen, gofynnwch am y gwaith mwyaf sylfaenol a phwysig YN UNIG gael ei wneud.
Mae’r gwasanaeth yma ar gael yng Nghonwy hefyd drwy - Conwy Cynhaliol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhys Evans 01492 576671/07733 013 328 neu
Gwybodaeth bwysig i’n haelodau a chwsmeriaid
Ar hyn o bryd mae'r holl staff yn gweithio o bell, sy'n golygu bod ein tîm yn parhau gyda'r union un gwasanaeth ond, yn hytrach dros y ffôn/e-bost/skype neu ddulliau eraill o gyfathrebu o bell.
Dylai aelodau a chwsmeriaid barhau i gysylltu gyda ni yn yr un modd ag arfer, gellir cysylltu â’r staff trwy ddefnyddio’r rhifau ffôn arferol.
Byddwn yn sicrhau bod safon ein gwasanaethau yn parhau. Caiff apwyntiadau SAF/IACS barhau fel yr arfer ond fe cant eu gwneud dros y ffôn.
Linciau pwysig ynglŷn â'r Coronafeirws:
- Mae Hwb TB wedi paratoi rhestr o gwestiynnau a ofynnir yn aml parthed sut caiff prosesau TB eu heffeihtio gan y feirws: https://tbhub.co.uk/statutory-tb-testing-of-cattle-in-gb-during-the-covid-19-pandemic/
- Tractor Coch (Red Tractor) dwieddariad yma: https://assurance.redtractor.org.uk/contentfiles/Farmers-7085.pdf?_=637206600290507095
- Cymdeithas Arwerthwyr Da-byw - 25/03/2020: https://www.laa.co.uk/news/3989/coronavirus-covid-19-guidance-to-members-and-farmers/
- Busnes Cymru (sy’n cynnwys gwybdooaeth am gefnogaeth i fusnesau oherwydd y Coronafeirws): https://businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws
- Cynllun benthyg Coronafeirws oherwydd ymyriad i fusnes ar gael trwy fenthycwyr sy'n cymryd rhan: https://www.british-business-
bank.co.uk/ourpartners/ coronavirus-business-interruption-loan-scheme- cbils/ - Canllawiau Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol (NAAC) ar Coronafeirws: https://www.naac.co.uk/coronavirus-guidance-issued-to-contractors/
- Gwasanaethau Cofnodi Llaeth Cenedlaethol 24/03/2020: https://www.nmr.co.uk/about-us/coronavirus
- Ymchwil y Senedd: https://seneddymchwil.blog/2020/03/17/coronafeirws-cefnogaeth-etholaethol/
- Cyngor Cymdeithas Milfeddygon Prydain i ffermwyr a milfeddygon ynghylch rhyngweithiadau diogel: https://www.bva.co.uk/coronavirus/coronavirus-advice-for-farm-vets-farmers-and-livestock-keepers/