Ydych chi'n gwybod beth yw eich hawliau o ran pryniant gorfodol a gwaith gan gwmniau dŵr, nwy a ffôn ar eich fferm? Os ydych chi eisiau darganfod beth y gellir ac na ellir ei wneud ar eich tir, yna cofrestrwch ar gyfer gweminar Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n cael ei gynnal ar y cyd â Davis Meade Property Consultants.
Bydd y gweminar hon, a gynhelir ar Zoom, yn cael ei chyflwyno gan Eifion Bibby a Charles Cowap o Davis Meade Property Consultants, gan adeiladu ar eu cysylltiad hir â'r Undeb.
Fe’i cynhelir nos Fawrth 7 Gorffennaf am 7yh a bydd yn ymdrin â hanfodion pryniant gorfodol gan gynnwys hawliau cyfreithiol yr awdurdodau sy’n prynu a gweithredwyr y cwmniau dŵr, nwy a ffôn.
Syrfëwr siartredig a phrisiwr amaethyddol sydd â phrofiad helaeth yw Eifion Bibby a bydd llawer yn ei nabod gan ei fod yn gweithio o’i swyddfa ym Mae Colwyn. Bydd Charles Cowap, syrfëwr siartredig ac ymgynghorydd i'r cwmni, yn ymuno ag Eifion. Bu Charles yn Brif Ddarlithydd mewn Rheoli Tir yn Harper Adams am lawer o flynyddoedd, ac mae'n dal i fod yn athro gwadd yn y Brifysgol.
“Mae iawndal yn agwedd wirioneddol bwysig o’r pwnc hwn a bydd yn cael sylw, ond cyn i chi gyrraedd y cam hwnnw mae'n bwysig iawn deall yr hyn y gall ac na all yr ymgymerwyr ei wneud, a beth ddylech chi ei wneud i sicrhau eich bod chi'n cyrraedd pen draw’r broses cystal â phosib,” meddai Eifion Bibby.
“Ni all neb addo na fydd yna broblemau yn codi pan fydd cwmniau dŵr, nwy a ffôn ar eich tir, ond mi allwn sicrhau eich bod chi’n barod i amddiffyn eich fferm a'ch busnes rhag y gwaethaf,” ychwanegodd.
Dywedodd Caryl Roberts, Rheolwr Gweithrediadau ac Aelodaeth FUW: “Bydd y sesiwn tua 90 munud o hyd a bydd digon o amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth, gyda chyfle ychwanegol ar gyfer trafodaethau dilynol wedi hynny o dan y telerau arferol sydd gennym gyda Davis Meade Property Consultants.
“Bydd cyflwyniad byr i unrhyw sydd ddim yn gyfarwydd â Zoom ac anfonir manylion pellach ar ôl i chi gadarnhau eich diddordeb mewn ymuno â’r sesiwn. Mae'r sesiwn ei hun wedi'i chyfyngu i aelodau FUW sydd wedi archebu ymlaen llaw. "
Er mwyn cofrestru ar gyfer y gweminar, cysylltwch â’ch swyddfa sir leol.