Yn aml iawn, mae cynllunio ar gyfer olyniaeth yn bwnc tabŵ o fewn teuluoedd amaethyddol. Ac eto mae'n bwnc sydd angen sylw a thrafodaeth. Er mwyn helpu mynd at wraidd rhai o’r cwestiynau anghyfforddus a thaflu goleuni ar faterion sy’n mynd y tu hwnt i gynlluniau ymddeol, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymuno â chwmni cyfreithiol RDP Law o Dde Cymru i gynnal seminar rithwir.
Bydd y digwyddiad, sydd am ddim i aelodau FUW, yn cael ei gynnal trwy Zoom, ar nos Fercher Gorffennaf 8 am 7.30yh.
Yng ngofal y sgwrs ar y noson fydd Sioned Thomas, sy'n arwain yr adrannau Cleientiaid Amaethyddol a Phreifat yn RDP Law. Mae ganddi brofiad helaeth mewn gweinyddiaeth ystadau a chynlluniau olyniaeth ar gyfer cleientiaid ffermio ynghyd â phrynu, gwerthu ac ail-ariannu eiddo amaethyddol. Mae gan Sioned gefndir amaethyddol ac mae'n deall nad yw'r berthynas deuluol o fewn busnes fferm yn debyg i unrhyw berthynas arall.
“Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol i unrhyw deulu amaethyddol sydd am amddiffyn dyfodol eu busnes. Mae cynllun olyniaeth yn gynllun tymor hir am ddyfodol y busnes ffermio, yn ogystal â nodau a gweledigaeth y busnes, a’r cynllun ar sut i'w cyflawni.
“Mae'n rhan o'r cynllun busnes cyffredinol ac yn delio â mwy nag ymddeol a marwolaeth yn unig. Camsyniad cyffredin yw meddwl bod ewyllys yn ddigonol, a bydd y sesiwn hon yn archwilio’r pwnc yn fwy manwl,” meddai Sioned Thomas.
Dywedodd Caryl Roberts, Rheolwr Gweithrediadau ac Aelodaeth FUW: “Mae llawer o’r cyfreithwyr yn RDP yn dod o deuluoedd amaethyddol ac yn deall yn iawn pa mor denau yw’r llinell rhwng llwyddiant a methiant ffermio i’w cleientiaid amaethyddol.
“Rydym felly yn gyffrous i gynnal y seminar hon gyda nhw a gobeithio y bydd aelodau FUW yn ymuno â ni, yn rhithiol, ar y noson. Mae'n argoeli i fod yn noson addysgiadol gyda'r cyfle i ofyn cwestiynau i Sioned ar y pwnc."
Cysylltwch â’ch swyddfa sir leol er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Diwedd