Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) Sir Drefaldwyn yn cwrdd yn rhithwir â'r AS Craig Williams i godi pryderon am y bygythiad y mae rhwystrau di-dariff yn eu cynrychioli i ladd-dy mawr yn yr etholaeth a'r diwydiant yn ei gyfanrwydd.
Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd ffatri brosesu cig Randall Parker Foods, ger Llanidloes, sy'n prosesu miliwn o ŵyn y flwyddyn - y mae hanner ohono'n cael ei allforio i'r Undeb Ewropeaidd -y gallai golli traean o'i 150 o weithwyr os na ellir goresgyn y gost ychwanegol a'r gwaith papur o werthu cig i mewn i'r UE o dan y trefniadau masnachu newydd ar ôl Brexit.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Drefaldwyn Emyr Wyn Davies: “Mae'r cynnydd mewn gwaith papur a chostau cysylltiedig i bob allforiwr wedi cael cyhoeddusrwydd da, yn enwedig y diwydiant pysgod cregyn.
“Fodd bynnag, mae’r bygythiad i swyddi yn Sir Drefaldwyn a’r ffermwyr defaid ledled Cymru sy’n cyflenwi Randall Parker yn dod â’r neges yn nes adref, ac mae angen cymryd camau i leihau’r effaith.”
Dywedodd Mr Davies y byddai pryderon aelodau yn y sir ac ar draws Cymru yn cael eu codi mewn cyfarfod yr wythnos nesaf gyda’r AS Ceidwadol Craig Williams.
“Fel ein cynrychiolydd etholedig lleol ac aelod o’r Pwyllgor Masnach Ryngwladol, mae’n hanfodol bod Mr Williams yn clywed yn uniongyrchol ein pryderon ynghylch beth mae bygythiad y rhwystrau newydd hyn yn ei olygu i’n hetholwyr a phobl a phroseswyr ledled Cymru,” meddai.
“Gwyddom ers y dechrau y byddai penderfyniad y DU i dynnu allan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau yn creu costau a rhwystrau ychwanegol, ond cafodd y rhain eu gwaethygu gan baratoadau araf.
“Mae bellach yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau'r rhain i’r lleiafswm yn gyflym,” ychwanegodd.