Roedd hi’n rhyddhad i Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru lwyddo i amddiffyn y Trwyddedau Cyffredinol i reoli adar gwyllt penodol yn yr Uchel Lys, ar ôl i’r corff ymgyrchu Wild Justice ddod â her gyfreithiol. Mae'r dyfarniad yn golygu y gellir parhau i ddefnyddio'r Trwyddedau Cyffredinol a heriwyd i reoli rhai rhywogaethau penodol o adar gwyllt.
Mae'r Trwyddedau Cyffredinol ar gael at ddibenion atal difrod neu afiechyd difrifol i gnydau neu dda byw, amddiffyn iechyd y cyhoedd a gwarchod rhai rhywogaethau penodol o adar gwyllt.
Mae'n golygu y gall ffermwyr defaid wynebu’r tymor ŵyna yn gwybod y gallant amddiffyn ŵyn newydd-anedig rhag ymosodiadau gan frain, yn yr un modd ag y gallant geisio atal colomennod coed rhag achosi difrod a cholledion economaidd hyd at £1250 yr hectar mewn cnydau bresych.
Fodd bynnag, mae yna rwystr arall, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu eu dull o reoleiddio saethu a thrapio adar gwyllt yng Nghymru.
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir UAC, Tudur Parry: “Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn golygu bod hawliau ffermwyr i reoli rhywogaethau penodol o adar drwy’r Trwyddedau Cyffredinol yn medru parhau, ond mae angen synnwyr cyffredin yn ystod yr adolygiad cyfredol hwn er mwyn osgoi niweidio ymhellach gallu ffermwyr i amddiffyn eu busnesau.”
Wrth ymateb i’r adolygiad o ddull Cyfoeth Naturiol Cymru o reoleiddio saethu a thrapio adar gwyllt yng Nghymru, amlygodd UAC o’r blaen y dylai unrhyw alwad am dystiolaeth yn y broses adolygu werthfawrogi profiad a gwybodaeth pobl y wlad sydd wedi byw a gweithio ar y dirwedd wledig, gan fod hynny'r un mor bwysig â thystiolaeth academaidd gyhoeddedig.