Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru o Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych wedi amlinellu eu pryderon a’u gwrthwynebiadau i’r cytundeb masnach rydd gydag Awstralia mewn cyfarfod diweddar ag AS Aberconwy, Robin Millar.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, a gynhaliwyd gan Lywydd UAC Glyn Roberts ar ei fferm, Dylasau Uchaf, ger Betws y Coed, dywedodd Dafydd Gwyndaf, Aelod o Bwyllgor Gweithredol UAC Sir Gaernarfon: “Gwnaethom yn glir iawn yn ein cyfarfod â Robin Millar AS bod cytundebau masnach yn rhwymo Llywodraethau'r DU presennol a rhai’r dyfodol, ac felly bod angen amser ac ystyriaeth drylwyr ohonynt.
“Ni ddylid eu rhuthro o dan unrhyw amgylchiadau, ond dyna sy’n digwydd yma, ac ar ben hynny ni fydd Senedd y DU yn gallu archwilio na chael y gair diwethaf ar gytundeb yn y ffordd y mae cenhedloedd democrataidd eraill yn ei wneud.”
Dywedodd Mr Gwyndaf fod UAC felly wedi gofyn iddo wneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu cytundeb masnach o'r fath a sicrhau bod yna archwiliad manwl yn digwydd.
“Mae’r problemau eithafol rydyn ni’n eu gweld yng Ngogledd Iwerddon oherwydd y protocol yn dangos beth sy’n digwydd pan nad yw gwleidyddion yn gwrando ar rybuddion clir ac yn rhuthro pethau drwodd er mwyn cwrdd ag amserlen hunanosodedig, ond dyna’n union beth sy’n digwydd o ran cytundeb Awstralia.
“Byddai ailadrodd o ran cytundeb masnach ag Awstralia yn drychinebus oherwydd byddai bron yn amhosibl dadwneud oni bai bod yna rywbeth fel cymal terfynu,” ychwanegodd.
Caniataodd cytundeb blaenorol yr UE ag Awstralia 7,150 tunnell o gig eidion a 19,186 tunnell o gig oen i wledydd yr UE, ond yn dilyn Brexit rhannwyd y cwota, gan ganiatáu i Awstralia fewnforio 3,761 o gig eidion a 13,335 tunnell o gig oen i'r DU.
“Mae honiadau na ddylid ofni cytundeb rhydd ag Awstralia gan fod y cyfeintiau mewnforio cyfredol yn isel iawn ac yn annhebygol o gynyddu yn nonsens llwyr. Pe bai gan ddadleuon o’r fath unrhyw rinwedd, yna ni fyddai cynnal y cwota presennol yn ddadleuol ac ni fyddai’n cael ei wrthwynebu gan Awstralia,” ychwanegodd Mr Gwyndaf.
Dywedodd Mr Gwyndaf wrth yr AS bod gwleidyddion Awstralia a chynrychiolwyr y diwydiant wedi bod yn onest wrth fynegi eu barn bod y DU yn darged mawr ar gyfer ehangu gwerthiant cig coch yn benodol.
Ychwanegodd Aelod o Bwyllgor Gweithredol UAC Sir Ddinbych Elwy Williams: “Fel y mae - nid oes gennym ni yng Nghymru unrhyw allu o dan y ddeddfwriaeth bresennol i ostwng ein safonau i’r graddau eu bod yn dod yn agos at gwrdd â’r fantais gystadleuol y byddai mewnforion Awstralia yn manteisio arnynt. Byddai gwneud hynny i unrhyw raddau fel hynny yn cyfateb i ‘ras i’r gwaelod’ a fyddai’n ychwanegu at ffrithiant i’n hallforion i’n prif farchnadoedd yn Ewrop.”
Pwysleisiodd Beca Glyn, Cadeirydd CFfI Eryri, ymhellach fod gwahaniaethau rhwng rheolau a safonau'r DU a Chymru yn bennaf ymhlith amrywiaeth o bryderon ynghylch unrhyw gytundeb sy'n caniatáu cynnydd mewn mewnforion bwyd o Awstralia a gwledydd eraill o'r fath, yn y dyfodol agos. “Mae’n sarhad ar ein diwydiant y bydd yn rhaid i ni gystadlu â mewnforion a gynhyrchir mewn ffyrdd sy’n gyfreithlon yn Awstralia ond a fyddai’n mynd a ffermwr o Gymru i'r llys,” meddai Beca Glyn.
Ymhlith y pryderon eraill a amlygwyd yn y cyfarfod oedd gwahaniaethau rhwng rheoliadau a safonau cyflogaeth, graddfa, argaeledd tir a chyfundrefnau treth.