Mae adnabod eich ffermwr, gallu gofyn cwestiynau am eu cynnyrch a sut maent yn edrych ar ôl y tir o'r pwys mwyaf i un teulu ffermio llaeth o Geredigion. Y drydedd genhedlaeth i ffermio yn Pantfeillionen, Horeb, Llandysul, Ceredigion, yw Lyn a Lowri Thomas. Mae Lyn wedi bod yn ffermio ers pan oedd yn 16 mlwydd oed ac yn dathlu ychydig dros 32 mlynedd yn y diwydiant eleni. Mae'r teulu'n edrych ar ôl 170 erw ac yn rhentu 100 erw arall, gyda'r tir i lawr i borfa. Mae'r bryniau gwyrdd yn gartref i 70 o fuchod godro, ychydig o wartheg sugno a lloi sy'n cael eu gwerthu fel gwartheg stôr.
Mae ffermio, meddai'r cwpwl, wedi newid cryn dipyn yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf ac mae'r diwydiant wedi symud gyda'r oes. Y ffordd ymlaen i'r teulu yw cynnal ethos ar raddfa fach y fferm deuluol a chysylltu ar lefel bersonol â'u cwsmeriaid sy'n prynu llaeth amrwd yn uniongyrchol o'r fferm.
Wrth ddisgrifio eu system ffermio, dywedodd Lyn: “Rydyn ni'n gwneud silwair ein hunain ac mae popeth yn cael ei wneud yn fewnol. Nid ydym yn defnyddio llawer o wrtaith, ychydig ie, ond ni allwn ddefnyddio gormod oherwydd natur y tir. Rydyn ni'n ffermio ar graig felly mae hynny'n golygu bod angen i ni fod yn ofalus, fel arall byddai ein porfa yn llosgi ar y llethrau sy'n wynebu'r de.
“Nid oes llawer o uwchbridd yma felly mae’n rhaid i ni ddefnyddio rhywfaint o wrtaith i gadw’r borfa i dyfu, ond fel arfer ni ddefnyddir mwy na bag yr erw ar gyfer silwair gyda rhywfaint o slyri. Nid ydym yn mynd dros ben llestri gyda slyri. Mae slyri wedi'i gyfyngu i tua 1700-2000 galwyn yr erw.”
Ychwanegodd Lowri: “Mae ein poblogaeth pryf genwair yn iach iawn. Rydyn ni'n ceisio compostio tail buarth y fferm ac yn hoffi ei gadw am fwy na blwyddyn, ond wrth gwrs gyda'r rheoliadau NVZ newydd, ni fydd hynny'n bosibl yn y dyfodol. Mae'n well i'r tir os yw wedi'i gompostio am 2 i 3 blynedd ond mae honno'n stori wahanol. Rydyn ni'n ceisio gwneud pethau mor gynaliadwy ag y gallwn ni yma, dydyn ni ddim yn prynu llawer o bethau i mewn ac yn ceisio tyfu'r hyn rydyn ni ei angen ein hunain."
Mae'r gwartheg yn cael rhywfaint o gêc ond mae'r rhan fwyaf o’r llaeth yn dod o borfa a silwair yn y gaeaf, eglura Lyn. “Rydyn ni'n edrych ar ôl ein gwartheg, os nad ydyn ni'n edrych ar eu hol nhw - fydden nhw ddim yn edrych ar ôl ni. Rydyn ni'n eu gweld nhw bob dydd ac os oes rhywbeth o'i le yna mae'n cael sylw ar unwaith. Daw'r trimiwr traed yma bob chwe wythnos, mae'r milfeddyg yma bob mis ar gyfer yr ymweliad ffrwythlondeb arferol, ac mae’n gyfle i sgwrsio am iechyd y fuches. Rydyn ni'n cofnodi llaeth yn fisol gydag NMR, dyma pryd mae profion Johne yn cael eu gwneud, ac rydyn ni'n ceisio cadw'r gwartheg mor iach â phosib. Po fwyaf iach yw ein gwartheg, y mwyaf cynhyrchiol ydyn nhw ac mae hynny hefyd yn dibynnu ar iechyd yr amgylchedd o'u cwmpas,” ychwanega.
“Nid oes gennym fuches fawr, rydyn ni'n adnabod pob buwch, mae gan rai enwau hyd yn oed diolch i'r plant. Oherwydd ein bod ni'n eu godro ein hunain, rydyn ni'n eu gweld ddwywaith y dydd. Mae ganddynt grwpiau bach penodol ac rydyn ni'n gwybod pa fuwch sy'n perthyn i ba grŵp o ffrindiau. Mae ganddyn nhw fynediad i'r siediau, trwy'r flwyddyn, fel y gallant fynd i mewn ac allan fel y dymunant dros y gwanwyn a'r haf. Os ydyn nhw'n dod i mewn rydyn ni'n gwybod mai dyna le maen nhw eisiau bod. Mae ganddyn nhw 2 le diogel,” esboniodd Lowri.
Mae'r teulu wedi dechrau busnes llaeth amrwd wrth y botel, y gall cwsmeriaid ei brynu'n uniongyrchol o'r fferm. Dechreuodd gyda chymdogion yn gofyn a allent brynu rhai, ac ar ôl ychydig o ystyriaeth yn 2018 fe wnaethant sefydlu'r busnes, gan gofrestru gyda'r ASB a'r awdurdod lleol, a dyna ddechrau'r stori.
“Dechreuwyd gwerthu llaeth yn uniongyrchol i gwsmeriaid ym mis Mawrth 2019 ar raddfa fach er mwyn helpu adeiladu’r busnes yn raddol. Rydym yn adnabod pob un o'n cwsmeriaid, ac ni wnaethom osod peiriant gwerthu yn bwrpasol.
“Rydyn ni eisiau gwybod pwy yw ein cwsmeriaid a siarad â nhw, ac mae'n dda iddyn nhw wybod pwy ydyn ni hefyd. Mae'n rhoi cyfle i ni egluro sut rydyn ni'n ffermio ac yn edrych ar ôl yr amgylchedd a'r gwartheg. Wrth i Covid ddod i'r amlwg y llynedd, daeth pobl yn fwy ymwybodol o ble roedd eu bwyd yn dod o a beth oedd o'u cwmpas. Enillon ni mwy o gwsmeriaid trwy hynny hefyd. Mae'n hollol wych ac mae mwy a mwy o bobl bellach yn chwilio am gynhyrchion bwyd lleol, yn ymwybodol o ble mae eu bwyd yn dod a sut mae'n cael ei gynhyrchu,” meddai Lowri.
Mae Lyn yn angerddol am y tir sy'n bwydo ei wartheg, gan ddeall y cysylltiad uniongyrchol rhwng yr amgylchedd ac iechyd a lles y gwartheg. Meddai: “Nid ydym yn gwthio’r tir yn ormodol. Rydyn ni'n ei ffermio'n gynaliadwy, mae'n rhoi digon o borfa i'r gwartheg ond nid yw wedi gor-stocio. Gallem gadw mwy o stoc ond yna byddai angen mwy o wrtaith a mwy o fwyd ar gyfer y gwartheg. Byddai'n well gen i beidio â gwneud hynny. Mae gennym tua 0.8 o fuchod yr erw yma, sy'n is na'r cyfartaledd. Ond gyda mwy o stoc i'w fwydo, byddai'n rhaid i ni ail-hadu'r borfa yn amlach.
“Nid wyf wedi ail-hadu cae yma ers 7 mlynedd ac yna dim ond oherwydd ei fod yn hen dir pan wnaethon ni ei brynu. Mae'n parhau i fynd ac mae gennym borfa yma sydd wedi bod yn mynd ers 25 mlynedd. Felly mae hynny'n storio tipyn o garbon. Rydym yn awyru'r caeau, yn torri slotiau i mewn i ddraenio'r dŵr i ffwrdd ac yn rhoi cyn lleied â phosibl o wrtaith - mae'r cyfan yn helpu i gynnal amgylchedd iach a phridd sy'n storio tunelli o garbon.”
“Pan ddaw’r gwartheg i mewn dros y gaeaf, rydyn yn rhoi slyri ar y caeau fesul tipyn. Mae'r pori cyntaf yma ym mis Mawrth yn ardderchog, mae'r borfa'n barod oherwydd ei fod wedi cael slyri fesul tipyn dros y gaeaf. Dim ond ychydig bach rydyn ni'n ei roi bob hyn a hyn ac mae'n gwneud gwyrthiau. Felly, rydym yn eithaf pryderus am y rheoliadau NVZ fydd ddim yn caniatáu i ni barhau i edrych ar ôl y tir yn y ffordd honno,” ychwanega Lowri.
Mae'r bywyd gwyllt ar y fferm yn doreithiog gyda barcutiaid, bwncathod, tylluanod, crehyrod, cnocellau’r coed, ystlumod, brogaod a llwynogod, cwningod a moch daear yn ogystal â cheirw sy'n byw yn y gwrychoedd a'r tir na ellir ei gyrraedd â thorwyr gwrychoedd.
“Mae yna ddigon o isdyfiant a chynefin yma i’r bywyd gwyllt ffynnu. Rydym yn sicr wedi gweld cynnydd mewn bywyd gwyllt ers y cyfnod clo ac mae'n bleser gweld,” meddai Lowri.
Mae'r teulu hefyd wedi plannu rhai coed ar ddechrau'r flwyddyn i lenwi bylchau mewn gwrychoedd. Gan gymryd rhan mewn prosiect tyfu cymunedol yn Llandysul, derbyniodd Lowri 100 o goed brodorol a oedd dros ben a oedd yn cynnwys coed derw, afalau bach surion, coed ceirios, cwyrwiail, helyg a bedw. Mae Lowri yn edrych ymlaen at weld sut maent yn tyfu mewn blynyddoedd i ddod.
“Dewison ni lleoedd ar hap i blannu’r coed, yn bennaf lle'r oedd gennym ni fylchau mewn gwrychoedd ac ar dir sy’n rhy wlyb i’r da byw. Bydd hyn oll yn darparu cynefinoedd ychwanegol i fywyd gwyllt mewn blynyddoedd i ddod. Plannwyd gwrychoedd y Ddraenen Ddu hefyd ar hyd caeau sydd wedi’u cyfuno a byddant yn darparu cysgod o'r gwynt i’r gwartheg a hefyd cynefinoedd nythu ar gyfer adar tir fferm,” meddai Lowri.
Mae Lyn a Lowri yn falch o gynhyrchu bwyd ac edrych ar ôl yr amgylchedd maent yn ei alw'n gartref, ond yn teimlo’n ddigalon gyda'r straeon negyddol sy'n ymwneud â'r diwydiant. Dywed Lyn: “Mae llawer o’r wybodaeth a roddir nawr yn cyfeirio at ffermio ar lefel fyd-eang. Ffermio dwys ar raddfa fawr. Ac mewn rhai rhannau o'r byd mae hynny'n wir. Ond mae ein systemau ffermio yma yng Nghymru yn wahanol - rydyn ni'n ffermio gyda'r amgylchedd. Mae gennych chi'ch ffermydd teuluol bach traddodiadol o hyd, yn gofalu am y tir. Oherwydd os ydych chi'n gofalu am y tir, mae'r tir yn gofalu amdanoch chi. Mae hynny'n wahaniaeth pwysig. Mae angen i bobl hefyd ofyn o ble mae eu bwyd yn dod a sut mae wedi'i gynhyrchu ac mae gan ffermwyr yng Nghymru stori wych i'w hadrodd.”
“Dydyn ni ddim yn dda iawn am ddweud wrth bobl sut rydyn ni'n cynhyrchu bwyd. Rwy'n deall sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu trwy fy nghefndir o fod yn filfeddyg. Felly pan fyddaf yn mynd i mewn i'r archfarchnad ac yn edrych o ble mae'r bwyd yn dod - rwy'n gwybod am beth i edrych ac rwy'n gwahaniaethu rhwng pecynnu'n lleol a'i gynhyrchu'n lleol. Ond i fod yn wirioneddol siŵr - ewch i'ch cigydd lleol, siop ffrwythau a llysiau, a’r siop fach neu siop fferm ac yna gallwch fod yn sicr, fel cwsmer, bod eich bwyd wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy a'i fod wedi'i ffermio mewn cytgord â'r amgylchedd. Nid ydym yn bobl ofnadwy, mae ffermwyr wedi cael eu portreadu fel llygrwyr a ddim yn abl i edrych ar ôl eu hanifeiliaid. Mae'n hen bryd i ni ddweud wrthyn nhw pa mor dda rydyn ni'n gofalu am ein tiroedd a'n hanifeiliaid,” meddai Lowri.