Taith fer o Ddolgellau, Meirionnydd, ychydig oddi ar y briffordd y mae fferm Cae Coch, Rhydymain, cartref y cyflwynydd teledu adnabyddus a'r hyrwyddwr ffermio Alun Edwards. Wrth yrru i fyny trac fferm fer, mae'n amhosibl peidio â sylwi pa mor wyrdd yw hi yma.
Mae’r bryniau cyfagos yn amlwg, gyda choed yn amgylchynu’r caeau bach gwasgaredig, nid oes yr un ohonynt yn fwy na 5 erw. Nid yw'r caeau yma yn sgwâr ac mae yna glytwaith ohonynt. Mae yna ychydig o anifeiliaid wedi'u gwasgaru arnynt - gwartheg Duon Cymreig a'u lloi yn gorffwys, yn cnoi cil; mae ychydig o ddefaid i'w gweld ar gribau'r mynydd.
Mae'n amlwg bod y tir hwn yn derbyn gofal gan rywun. Mae yna gaeau gwair gyda blodau ynddynt, blodau menyn a llygad y dydd. Nid yw'r tir yn cael ei wthio yma ac mae yna ddail tafol, ysgall a dant y llew. Mae gan y caeau wrychoedd a waliau cerrig fel ffiniau, ac maent wedi bod yma ers yr oesoedd canol.
Wrth symud i fyny trwy'r tir, mae'n serth ac yn wynebu'r gogledd, llwyni neu dir ffridd fel y'i gelwir yma ac yna tir heb ei wella sy'n cynnwys eithin. Mae yna rug porffor ar y fflat cribog ac yna byddwch chi'n cyrraedd y mynydd gwyn - lle byddwch chi'n dod o hyd i hesg a'r defaid yn pori yn yr haf.
Lle bynnag rydych chi'n edrych mae'n teimlo fel cyfuniad o dir gwyllt a thir wedi'i reoli.
Mae'r fferm ei hun yn cynnwys 735 erw gyda throsiant o £60-70k y flwyddyn. Mae'n fferm fynydd ac mae'n werth nodi’r gwahaniaeth hwnnw rhwng ffermydd tir uchel a mynydd, gan ei fod yn ymestyn hyd at bron i 3000 troedfedd. Mae'r fferm wedi'i lleoli ar grib Aran Fawddwy ac allan o'r 735 erw hynny nid oes modd mynd a thractor yn agos i 480 erw ohono.
Mae yna wellt y gweunydd a heswellt ar y mynydd ac islaw hynny tua 100 erw o gors flanced a grug lle mae rhai o'r gwartheg. Mae Alun yn gwneud silwair ar oddeutu 33 erw i ddarparu porthiant gaeaf i'r 18 o wartheg duon Cymreig, y tarw ac ychydig o loi. Mae’r fferm hefyd yn gartref i 600 o ddefaid mynydd Cymreig. Dyma, ynghyd â thaliadau'r cymhorthdal a'r cynllun amgylcheddol sy'n cadw Alun Edwards i fynd, rhywbeth y mae'r diwydiant yn dibynnu arno.
Er ei fod wedi hen ennill ei blwyf yn y gymuned ffermio heddiw, nid o ddewis oedd gyrfa ffermio Alun yn y dechrau. Eglura: “Pan gymerais y fferm ym 1997 wedi marwolaeth fy nhad, roeddwn yn 37 oed ac yn actor proffesiynol. Ni chefais fy magu fel ffermwr. Mi oeddwn yn medru cneifio ond cefais fy annog i fynd i ffwrdd. Rwy'n gynnyrch o'r genhedlaeth honno lle'r oedd eich rhieni eisiau rhywbeth gwell i chi ac fe ddaethon nhw o'r oes ar ôl y rhyfel lle y gwelwyd rhai cyfnodau anodd fel ffermwyr.
“Roeddent yn meddwl os yw'ch plentyn yn ddigon galluog, dylent fynd i ffwrdd a chael bywyd llawer haws a chyflog gwell nag a gawsom. Fodd bynnag, erbyn hyn rwyf wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf yn ceisio annog pobl i edrych ar ffermio a gwaith cefn gwlad fel dyfodol hyfyw ac mae llawer o hynny yn ganlyniad i waith amgylcheddol ond wrth gwrs, nid yw hynny i bawb.
“Mae pobl yn siarad yn rhamantus am y tir a’u cysylltiad ag ef ond mae’n anodd yma. Mae'r gaeafau'n hir, yn oer ac yn wlyb. Rydym yn brwydro trwyddynt i gyrraedd mis Mai. Mae'n heriol yma. Ond rwy'n gweithio gyda natur nid yn ei erbyn. Os ydych chi'n gweithio yn erbyn natur ni fyddwch chi byth yn ennill. Fodd bynnag, roeddwn i'n teimlo cyfrifoldeb moesol i ddod adref i'r fferm ar ôl i'm tad farw a bod fy mam eisiau cadw'r fferm. Mae gan bobl wahanol gysylltiadau â'r tir a pham maen nhw'n gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud. Teyrngarwch teuluol oedd fy un i. Fy nghydwybod a ddaeth â mi a'm cadw yma i ddechrau.”
Mae Alun yn deall yr angen i edrych ar ôl yr amgylchedd o'i gwmpas a'r rôl y mae cynhyrchu bwyd yn ei chwarae wrth gynnal bioamrywiaeth a chynefinoedd, ond hefyd y rôl y mae ffermwyr yn ei chwarae yn yr economi wledig, diwylliant a chymdeithas ehangach. Meddai: “Rydyn ni'n wlad fach, mae ein diwylliant yn unigryw ac rydw i'n byw trwy gyfrwng y Gymraeg yma. Rydym yn hapus i warchod waliau, adar, coed a'r iaith Gymraeg. Gallwch chi glywed traffig, felly nid ydym yn rhy bell o'r ffordd a gwareiddiad. Gallaf wneud fy holl fusnes o fewn 8 milltir i'r fferm. Mae'n lle bywiog ac mae pobl yn brysur yn gweithio, yn ennill bywoliaeth ac yn magu teuluoedd.
“Gwrthododd fy nhad y cynllun peilot amgylcheddol a gyflwynwyd gyntaf - Tir Cymen - oherwydd ei fod yn golygu cael gwared a thua 100 o ddefaid. Teimlai mai defaid a gwartheg oedd ei arbenigedd ac nid oedd yn argyhoeddedig y byddai'n cydbwyso o ran incwm. Roedd llawer o ffermydd yr ardal yn teimlo’r un fath ar y pryd.
“Pan ddes i yma ac edrych ar y sefyllfa ariannol, roeddwn i’n teimlo y byddai’n rhesymol, o safbwynt ariannol, mynd mewn i gynllun amgylcheddol, a oedd bryd hynny yn Tir Gofal. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, es i mewn iddo am yr arian i ddechrau. Roeddwn yn darllen yn gyson am bethau ac erbyn hyn rydym wedi cyrraedd pwynt lle sylweddolwn fod ffermwyr yn gwneud llawer o waith amgylcheddol cyn bod cynlluniau o'r fath yn bodoli. Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth ohono bryd hynny ac yn sicr nid o safbwynt nwyddau cyhoeddus.”
Sbardunodd cynllun Tir Gofal frwdfrydedd yn Alun i wneud mwy dros yr amgylchedd o'i gwmpas. Wrth gerdded i lawr trac y fferm i edrych ar rai o'r gwartheg sy'n pori rhan isaf y caeau, dywedodd: “Cefais fy swyno gan chynlluniau amgylcheddol. Gweithiodd Tir Gofal yn dda a gallech dyfu eich dealltwriaeth o lawer o bethau fel cysylltedd coridor bywyd gwyllt.
“Fe wnaethon ni edrych ar yr amgylchedd hanesyddol, rydyn ni wedi bod yn adfer waliau cerrig sych, ac o ystyried eu bod nhw wedi bod yma ers dros 1000 o flynyddoedd a dyna beth mae pobl yn dod i'w gweld pan ddônt i ymweld. Mae hynny'n nwydd cyhoeddus ond hefyd yn fendith i ni.
Ar ôl i chi ddechrau edrych ar bethau fel yna rydych chi'n edrych ar y garreg yn y wal yna sydd wedi'i gorchuddio â chen a mwsogl - mae bywyd arni. Mae bylchau i gwningod, a'r diwrnod o'r blaen, roeddwn i'n cerdded heibio i adeilad fferm ac roeddwn i'n gallu clywed adar yn nythu mewn crac yn y wal.
“Rwy’n gwneud ychydig bach o ail-hadu arwyneb yma hefyd ac yn cynnwys pethau fel pelenni gwenyn ar ymylon garw; rhaid i chi weld y darlun mwy. Nid yw'n ymwneud â gwartheg a defaid yma yn unig. Mae'r amgylchedd a'n rheolaeth ohono bellach wedi dod yr un mor ganolog i'n bodolaeth a'n hamcanion.”
Gyda chymorth ffrindiau a chymdogion mae Alun wedi plannu 20 mil o goed gwrych ar y tiroedd isaf ond mae'n poeni am uchelgeisiau plannu coed Llywodraeth Cymru. “Ble maen nhw'n mynd i'w rhoi? Rwy'n gwybod lle byddwn i'n rhoi mwy o goed - ar fy nhir gwaelaf ond ni allaf wneud hynny oherwydd ei fod wedi'i ddynodi'n gynefin ac mae'r llywodraeth wedi penderfynu bod yn rhaid i ni rewi cynefin yn ei gyflwr presennol. Felly'r unig le ar ôl i blannu coed yw'r hyn rydyn ni'n ei alw'n dir heb ei neilltuo - tir sydd wedi'i wella ac rydyn ni'n ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd.
“Nid ydym yn mynd i wneud hynny, felly'r unig ffordd y gallaf wneud hynny yma yw eu plannu ar hyd pob ffin sydd wedi'i ffensio. Mae gen i lawer o wrychoedd â ffens ddwbl nawr ac rydw i hefyd wedi ychwanegu sgiliau newydd at fy mhortffolio. Rydw i wedi dod yn blygwr gwrych ac mae'n beth hyfryd, boddhaol i'w wneud yn y gaeaf. Gallwch weld y gwahaniaeth mewn bywyd gwyllt yn y gaeaf.”
Dechreuwyd ar waith gwella ar yr afon sy'n rhedeg trwy'r fferm ac yn 2000 gofynnwyd i Alun ffensio glan yr afon i gadw'r gwartheg allan. Mae hefyd wedi plannu coed ar y glannau hynny gan gynnwys yr aethnen du. “Y broblem oedd, wrth gwrs, unwaith i ni ffensio’r cyfan i ffwrdd, mi dyfodd tipyn o chwyn ar y banc, gan gynnwys Canclwm Japan. Cawsom ychydig o gefnogaeth gan y Parc Cenedlaethol i ddelio â hynny, a oedd yn beth dda.”
Ychydig flynyddoedd yn ôl, rhoddodd Alun dir i Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer pwll bridio pysgod, lle cafodd 8,000 o frithyll y môr ac eog eu tagio a'u magu cyn cael eu rhyddhau yn ôl i’r afon Wnion. “Doedd y canlyniadau ddim yn wych serch hynny a thua 5 mlynedd yn ôl fe wnaethon nhw gau’r holl ddeorfeydd oherwydd y teimlad oedd nad oedden nhw eisiau bridio’n artiffisial ac yn hytrach gadael i natur ddilyn ei chwrs. Nawr rydyn ni'n edrych ar y cynefinoedd ar gyfer pysgod yn yr afon.
“Rydyn ni wedi ychwanegu creigiau mawr yn y canol i adfer pyllau, felly mae'r graean yn casglu y tu ôl iddyn nhw ac yn gwneud lleoedd nythu delfrydol ar gyfer yr eog a'r brithyll môr. Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu coed mawr i'r afon a'u pinio i lawr, i greu llochesi gorffwys i bysgod mudol ar eu ffordd i silio. Rydym yn bachu pob cyfle y gallwn i wella bioamrywiaeth, gan barhau i gynnal ein prif rôl o gynhyrchu bwyd. Mae pobl yn hoff iawn o gig oen a chig eidion o Gymru,” meddai.
Mae'n amlwg bod y gwaith amgylcheddol yma yn cael ei wneud gydag angerdd a brwdfrydedd, o waliau cerrig sych, plannu coed, a phlygu gwrychoedd ac yn ddiweddar ymunodd Alun â chynllun atal llifogydd gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Eglura: “Daeth Rhys Owen o Barc Cenedlaethol Eryri atom gan fod cynllun ar y gweill ac wrth gwrs, mae ffynonellau gwreiddiol ein hafonydd yn nalgylchoedd yr ucheldir yn bennaf. Mae gennym 10 fferm yn cymryd rhan ac mae'r dyffryn uchaf hwn i gyd bellach mewn cynllun atal llifogydd.
“Fel rhan o'n gwaith gyda'r cynllun, rydyn ni'n arafu unrhyw ddŵr sy'n rhedeg oddi ar ein bryniau ac rydyn ni wedi cau rhai o'r ffosydd ar orsydd mawn yr ucheldir; rydym yn plannu gwrychoedd ar draws bencydd fel bod y dŵr yn eu taro ac yn amsugno rhywfaint ohono.
“Rydyn ni'n adeiladu argaeau a ffosydd i gamu dŵr i lawr i'r afon a gwneud pyllau. Yn fuan, byddaf yn creu pwll a fydd yn casglu dŵr o'r briffordd. Mae maint y llygryddion o'r briffordd yn anghredadwy - darnau o deiars, halen o’r graeanu. Os gallwn ei ddal cyn iddo fynd i'r afonydd a chreu swmp, dylem fod yn gwneud hynny. Wrth gwrs, bydd y swmpau hynny hefyd yn gynefinoedd bioamrywiol ar gyfer brogaod a rhai adar. Mae gen i ddiddordeb gweld sut y bydd hynny'n gweithio. Mae pethau bob amser yn newid.”
Yn sefyll mewn 6 erw o goetir ar dir llethrog, sydd ddim yn addas ar gyfer pori da byw, cafodd ei ffensio a phlannwyd 300 o goed derw. “Arweiniodd ymchwil i mi gredu bod coetir derw yn rhoi’r opsiynau gorau i chi o ran bioamrywiaeth. Er yr hyn sydd wedi digwydd yw bod rhai o'r derw wedi cael ychydig o drafferth, tra bod y fedwen wedi tyfu’n arbennig o dda. Pe byddem yn eu gadael mae'n debyg y byddent yn cymryd drosodd. Y cam nesaf ar gyfer rhywbeth fel hyn yw torri ychydig o goed i wneud coedlan. Os nad oes golau haul yn cyffwrdd â'r ddaear, byddwch yn colli bioamrywiaeth,” meddai Alun.
Mae garlleg a mefus gwyllt yn tyfu yma yn y goedwig ac mae yna ymdeimlad o dawelwch yn cymryd drosodd. Nid yw Alun yn gwrthwynebu agor rhannau bach o'r tir i ymwelwyr. “Gellid agor y tir hwn i bobl ymweld ag ef. Gallaf ddychmygu bod y gofod hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio gofal. Rydym weithiau'n anghofio faint o fuddion sydd i dreulio amser yn yr awyr agored ac mae rhai pobl angen mynediad i ofodau o'r fath. Byddai’n fedith i rai pobl fod allan yma. Mae'r cyfan yn gwmpasog, yn bleserus ac yn ddigynnwrf. Mae cymaint o arogleuon yma, creaduriaid byw. Mae’r foll fywyd yma yn y microcosm bach hwn ac rwy'n siŵr pe baem yn gadael pobl i mewn, y gallem helpu eu stad feddyliol yn fawr,” meddai.
Wrth fynd i fyny i'r mynydd, lle mae'r golygfeydd panoramig yn syfrdanol, mae Alun yn esbonio manteision cadw cymysgedd o dda byw. “Rydyn ni'n cadw gwartheg yma ac rydyn ni'n eu pori'n eithaf uchel. Rwy'n gwybod fy mod yn cosbi'r gwartheg yn eu pori'n uchel ar rostir y grug, oherwydd nid ydynt yn cynhyrchu cystal, ond maent yn cyflawni rhyfeddodau i’r tir. Mae gennym ychydig o rugieir i fyny yno o hyd.
“Rwy’n cofio amser, pan oedd fy nhad yma, pan oedd y grug i gyd yr un uchder. Roeddent bron fel coed ar y 100 erw hynny ac ni fyddai unrhyw beth yn mynd yno. Ni allech ei losgi oherwydd coetir coniffer gerllaw, felly'r ateb amlwg yw gadael i'r da byw wneud y gwaith. Ond ni allwch fod yn rhy lawdrwm gyda'r da byw oherwydd nid yw hynny'n helpu'r sefyllfa chwaith. Rwy'n gobeithio, yn y ffordd rydyn ni'n ei wneud nawr, ein bod ni'n creu opsiwn llawer mwy amrywiol ar gyfer adar sy'n nythu ar y ddaear fel y gïach.
“Un o’r pethau mae ffermwyr yn cael eu hannog i ganolbwyntio arnyn nhw, yw cael cymysgedd o ddefaid a gwartheg yn pori’r cynefin brithwaith. Mae'n dda iawn yma ar yr orgors a'r rhostir grug oherwydd mae gennym ni’r Cliradain Cymreig yma. Mae'n rhaid i chi fod yn bwyllog i'w gweld ond mae'r pethau bach yr un mor bwysig â'r pethau mawr,” ychwanega.
Yn ogystal ag ychwanegu paneli solar ar y siediau gwartheg, sy'n golygu bod y fferm bellach fwy neu lai yn annibynnol o ran trydan, mae Alun wedi penderfynu dechrau cadw gwenyn. “Y llynedd, dechreuais ar y fenter honno a chofrestru gyda mentor o Gyswllt Ffermio ac mae'n edrych fel eu bod wedi gaeafu yn dda ond mae rhai ohonynt wedi heidio. Mae hanner ohonyn nhw'n dal gyda mi ac rydw i nawr yn adeiladu ail gwch gwenyn.
“Wrth blannu’r holl goed hynny yma ar y fferm, rydyn ni wedi creu blodau trwy gydol y flwyddyn ac mae hynny’n dda iawn i’n peillwyr. Gwrychoedd helyg yn yr ardaloedd corsiog, yna bydd y Cyll yn blodeuo, mae gennym y Ddraenen Ddu yn blodeuo pan nad oes unrhyw beth arall yn ei flodau a'r eithin, ac yna rydyn ni'n cael y Ddraenen Wen, sydd wedi bod yn aruthrol eleni. Rydym yn adeiladu portffolio o'r hyn yr oeddem ni fel ffermwyr bob amser yn ei wneud ond efallai nad oeddem yn ymwybodol o ba mor fuddiol ydoedd,” meddai.
Gan ystyried yr holl waith cadwraeth ac amgylcheddol sy'n cael ei wneud ar y fferm hon, mae'n hawdd deall y rhwystredigaeth y mae Alun yn ei deimlo ynglŷn â sut mae'r diwydiant yn cael ei bortreadu. “Nid wyf yn siŵr pam mae ein diwydiant wedi cael ei ddewis fel enghraifft wael pan mae diwydiannau fel ynni, trafnidiaeth ac adeiladu sydd hefyd â rôl i'w chwarae wrth leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
“Rwy’n synnu bod cymaint o bwyslais yn cael ei roi ar wartheg. Fodd bynnag, os edrychwch ar gyd-destun ehangach pwy sydd y tu ôl i'r pethau hyn - y corfforaethau mawr. Rwy'n poeni pwy sy'n prynu'r holl dir. Unwaith y bydd y ffermydd bach yn cael eu gwasgu allan, a dyna fydd yn digwydd ac mae'n ddigon posib y bydd fy fferm yn un ohonyn nhw, y ffermydd mawr fydd yn cymryd drosodd. Mae ffermydd teuluol bach yn cael eu hystyried yn anghyfleustra yn y darlun byd-eang o fusnes mawr. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod pobl fel Bill Gates yn gwneud pethau fel yr ‘impossible burger’. Maent yn gosod tueddiadau ac yn dod o hyd i ffyrdd o werthu'r ddelwedd ddelfrydol honno. Nid wyf yn siŵr pwy sy'n dilyn pwy, yn enwedig gan fod fegan a llysieuaeth yn dal i fod yn lleiafrif o'r defnyddwyr."
Mae’n ychwanegu, rydyn ni i gyd yn ymwybodol o newid yn yr hinsawdd, ond mae'n cael trafferth gweld beth arall y gall ei wneud fel unigolyn. “Rydw i bob amser yn ymdrechu i fod yn gydwybodol. Rydyn ni'n ailgylchu ein plastigau, rydyn ni'n ailgylchu ein gwastraff buwch. Ar gyfer pob buwch rwy'n ei chadw sy'n allyrru methan, mae hi hefyd yn darparu gwrtaith fel bod y porfa’n tyfu a’r porfa wedyn yn amsugno CO2 - mae'n gydbwysedd. Mae'n debyg, os edrychwn ar y ffigurau sy'n dod allan o ran allyriadau, nid yw'r darlun cyfan yn cael ei ystyried ac ond yn edrych ar y pethau negyddol yn hytrach na'i gydbwyso yn erbyn y pethau cadarnhaol. Rydyn ni'n gwneud yr hyn a allwn ond mae angen i'r llywodraeth wneud mwy ac mae angen gwneud pethau ar raddfa.
“Y cyfan rydyn ni ei eisiau fel ffermwyr yw gweithio mewn partneriaeth ond mae’r bartneriaeth honno ar chwal ar hyn o bryd. Mae'n drueni mewn gwirionedd. Ni allwch fod benben os ydych chi eisiau canlyniadau,” meddai.