Mae ffermwyr o Feirionnydd wedi codi pryderon difrifol y diwydiant gydag Aelod o’r Senedd, Ken Skates, mewn ymweliad fferm ddiweddar â Chadeirydd cangen Sir Feirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru, Edwin Jones a swyddogion yr Undeb.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Mr Jones a'i wraig Eirian, yn Nhŷ Mawr, Carrog, Corwen, Sir Ddinbych, yn gyfle i weld y fferm, sy'n ymestyn o lannau’r afon Dyfrdwy i oddeutu 1500 troedfedd uwchben lefel y môr, ac er mwyn i aelodau dynnu sylw a thrafod materion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, polisïau fferm y dyfodol a'r rheoliadau llygredd dŵr amaethyddol.
Mae'r fferm deuluol nodweddiadol, sy'n ymestyn i 149 hectar, ac yn fryniau ac ucheldir yn bennaf, yn gartref i 730 o ddefaid Mynydd Cymreig a 190 o ddefaid blwydd.
Etholwyd Edwin Jones yn Gadeirydd Cangen UAC Meirionnydd ym mis Mehefin 2021 ac mae'n gyn Brifathro Cynorthwyol yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Mae ei wraig Eirian hefyd yn gyn Bennaeth Cymraeg a Drama yn yr ysgol. Mae Edwin ac Eirian wedi ffermio Tŷ Mawr ers 2002, gydag Eirian wedi cael ei magu ar y fferm. Ymddeolodd y ddau o'u swyddi dysgu yn 2012.
Mae Tŷ Mawr yn fferm borfa, dwysedd isel, allbwn isel, gyda'r gwrtaith lleiaf yn cael ei ddefnyddio. Wrth siarad am bryderon amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, dywedodd Mr Jones: “Mae cyfartaleddau byd-eang i drafod allyriadau amaethyddol mor annheg a chamarweiniol wrth ystyried y math hwn o fferm. Mae gennym borfa o ansawdd da, ac mae gwella iechyd y pridd yn bwysig iawn i ni.
“Yr hyn sy’n amlwg i ni a’r diwydiant amaethyddol yw bod yn rhaid cydnabod ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y fferm, cadwraeth a dal a storio carbon trwy ddefnydd tir i wrthbwyso allyriadau amaethyddol yn hytrach nag fel endidau ar wahân.”
Wrth gerdded o amgylch y fferm, clywodd Mr Skates ymhellach fod y fferm, fel llawer o rai eraill yn ei etholaeth ac ar draws Cymru, yn ddibynnol iawn ar gynllun y Taliad Sengl a bod angen rhyw elfen o sicrwydd ar gynllun yn y dyfodol i sicrhau bod yna ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
Ychwanegodd Edwin Jones: “Mae gwir angen i ni wybod sut fydd dyfodol cymorth fferm yn edrych. Mae hyn o'r pwys mwyaf os ydym am sicrhau bod ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yma yng Nghymru. Nid oedd cynllun Glastir yn addas ar gyfer y fferm pan gafodd ei gyflwyno, ac nid yw plannu coed ychwaith yn opsiwn i ni mewn gwirionedd.
“Rhaid i unrhyw gynllun cymorth amaethyddol yn y dyfodol felly gydnabod mai dim ond rhan o’r ateb yw taliadau am nwyddau cyhoeddus, ac y bydd angen taliad sylfaenol i danategu’r cymunedau a’r economïau lleol, yn ogystal â chynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon.”
Wrth siarad am yr effeithiau ehangach y mae busnesau fferm fel Tŷ Mawr yn eu cael ar yr economi wledig, dywedodd Teleri Fielden, Swyddog Polisi UAC: “Mae’r holl elw a gynhyrchir gan y fferm hon yn cael ei wario yn y gymuned leol. Rhaid pwysleisio bod pob punt a dderbynnir gan ffermydd Cymru yn cynhyrchu llawer mwy o bunnoedd i fusnesau eraill - mecanyddion, carwyr, contractwyr, marchnadoedd da byw ac ati - sy'n golygu bod buddion economaidd cymorth fferm yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r buarth ac yn werth biliynau i economi Cymru bob blwyddyn.
Pwysleisiodd swyddogion yr undeb ymhellach fod traean o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd gwledig lle mae ffermio, a busnesau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth, yn chwarae rhan hanfodol mewn economïau lleol.
“Pan ystyriwn yr effaith bellgyrhaeddol y mae amaethyddiaeth yn ei chael, rydym yn naturiol yn pryderu am gytundebau masnach, fel yr un sy'n cael ei gwblhau gydag Awstralia ar hyn o bryd, a all ganiatáu mewnforio bwyd rhad a gynhyrchir i safonau sy'n llawer is na'r rhai sy'n ofynnol gan ffermwyr Cymru,” ychwanegodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sir UAC Meirionnydd.
Clywodd Mr Skates ymhellach nad oes prinder enghreifftiau o wahaniaethau sylweddol rhwng safonau Cymru ac Awstralia, gan gynnwys safonau lles anifeiliaid is yn Awstralia o ran cludo a magu anifeiliaid, safonau olrhain anifeiliaid is yn Awstralia a safonau amgylcheddol is yn Awstralia. Crybwyllwyd llawer ohonynt gan elusennau a grwpiau amgylcheddol a lles anifeiliaid sy'n gwrthwynebu'r cytundeb fasnach.
“Yn syml, pe bai ffermwr o Gymru yn gweithredu’r arferion rheoli tir ac anifeiliaid sy’n gyffredin yn Awstralia, byddent yn wynebu erlyniad ac o bosib yn mynd i’r carchar. Rhaid i ni beidio â chaniatáu i hyn ddigwydd,” ychwanegodd Huw Jones.
Wrth fynd i’r afael â phryderon mawr am y rheoliadau NVZ Cymru gyfan ar gyfraddau stocio, lefelau cynhyrchu bwyd a chostau cyfalaf cysylltiedig, dywedodd Gareth Parry, Swyddog Cyfathrebu Polisi UAC: “Rhaid i’r cynnig diweddar a basiwyd gan y Senedd gael ei ystyried yn gam i’r cyfeiriad cywir wrth fynd i’r afael â’r pryderon y mae’r Undeb wedi tynnu sylw atynt dro ar ôl tro ynglŷn â’r rheoliadau hyn, na ellir ond eu disgrifio fel defnyddio gordd i dorri cneuen. Bydd UAC yn ymgysylltu â'r Pwyllgor unwaith y bydd wedi'i greu ac rydym yn gobeithio y gallwn symud ymlaen yn yr ysbryd o gydweithrediad â Llywodraeth Cymru er mwyn dyfodol pawb."