Gall cymunedau Gogledd Cymru'n awr dderbyn y newyddion plismona lleol personol diweddaraf, yn dilyn lansio gwasanaeth negeseuon am ddim newydd sbon – Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru.
Heddlu Gogledd Cymru ydy'r heddlu cyntaf yng Nghymru i lansio'r system rhybuddion sydd wedi'i ariannu fel rhan o Gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref. Mae'r system yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd gan sawl heddlu arall yn rhannau eraill o'r DU ac mae wedi gweld canlyniadau cadarnhaol a mwy o ymgysylltu gyda chymunedau.
Mae Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn sydyn ac yn syml i gofrestru ac mae'n rhoi llais i'r cyhoedd ar ein blaenoriaethau plismona cymdogaethau. Mae'r system yn cynnwys gwasanaeth negeseuon sy'n caniatáu defnyddwyr i ddweud wrthym am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae hwn hefyd yn llwyfan gwych i fagu cipolwg gwirioneddol ar weithgarwch yr heddlu yn eich ardal a'r hyn rydym yn ei wneud i ymdrin ag unrhyw broblemau. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cynorthwyo trigolion deimlo'n fwy diogel yn eich cartref, allan yn y gymuned ac yn y gwaith.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes: "Rydym yn falch o lansio Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru a fydd yn ffurfio rhan allweddol o'n Plismona Lleol. Mae'n wasanaeth negeseuon cymunedol am ddim i bobl sy'n byw a gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae'n cynorthwyo'n cymunedau i ddal fyny â'r newyddion, rhybuddion, apeliadau, digwyddiadau ymgysylltu a'r gweithgarwch plismona cyffredinol gan eich timau heddlu lleol.
"Yr hyn sy'n gwneud Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru mor ddefnyddiol yw bod unigolion yn gallu dewis pa wybodaeth yr hoffent ei dderbyn gennym ni a sut y byddent yn hoffi ei dderbyn. Boed hynny ar e-bost, neges destun neu neges llais – nid oes angen iddynt gael cysylltiad â'r rhyngrwyd – eu dewis nhw ydyw.
"Nid sianel ddarlledu ydy Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn unig, lle mai ond ni sy'n dweud wrthych chi. Mae'n system negeseuon dwyffordd fel bod gennym ffordd ychwanegol o wrando ar yr hyn gan ein cymunedau i'w ddweud."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth: "Bydd Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn rhoi'r cyfle gwych i'n cymunedau roi adborth i'w tîm plismona cymdogaethau lleol ar y problemau sydd o'r pwys mwyaf iddynt. Bydd yn ein cynorthwyo ni i weithio gyda'n gilydd i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU.
"Mae'n llawer gwell na hen gynllun gwarchod y gymdogaeth OWL oherwydd mae'n rhoi sianel gyfathrebu uniongyrchol i bobl at yr heddlu, fel y gellir rhannu gwybodaeth yn gyflym ac effeithiol.
"Bydd swyddogion plismona lleol yn codi ymwybyddiaeth am y cynllun ac rwyf yn annog trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gofrestru ar gyfer y system.
"Neilltuwch amser i gofrestru gyda Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru. Mae'n gyflym, yn syml ac yn gyfan gwbl am ddim."
Dewch i wybod mwy am Rybudd Cymunedol Gogledd Cymru a chofrestrwch drwy fynd ar y wefan yma: www.NorthWalesCommunityAlert.co.uk