Mae ffermwyr o Geredigion, Caerfyrddin a Sir Benfro wedi tynnu sylw at bryderon y diwydiant, gan gynnwys dyfodol polisi amaethyddol Cymru a TB, mewn cyfarfod gyda Cefin Campbell, yr Aelod Senedd ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan Meirion Rees, aelod o Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i rieni, Val a Meurig Rees ym Mhenrallt Meredith, Ffynnon-groes, Eglwyswrw.
Dechreuwyd y busnes ffermio teuluol gan rieni Meirion, Val a Meurig, dros 40 mlynedd yn ôl. Yn fferm laeth yn wreiddiol, ac wedi i’r teulu orffen godro tua 20 mlynedd yn ôl, bu’r teulu’n cadw gwartheg sugno a defaid.
Aeth Meirion i'r Brifysgol yng Nghaerdydd i astudio peirianneg sifil a threuliodd 10 mlynedd yn gweithio ar wahanol brosiectau peirianneg ym mhob rhan o'r wlad. Fodd bynnag, roedd bob amser yn cadw diddordeb yn y fferm ac yn helpu pan allai. Wyth mlynedd yn ôl symudodd yn ôl i'r fferm yn llawn amser.
Nid yw'r teulu bellach yn cadw gwartheg eu hunain oherwydd y broblem TB yn yr ardal. Maent yn gofalu am 650 erw ynghyd â hawliau tir comin ac yn canolbwyntio ar ffermio defaid, gan gadw 2,000 o ddefaid magu Mynydd Cymreig.
Wrth siarad â Cefin Campbell am ddyfodol polisïau amaethyddol, pwysleisiodd Meirion Rees, er bod darparu nwyddau cyhoeddus yn rhan o’r ateb o ran cynllun cymorth amaethyddol yng Nghymru yn y dyfodol, rhaid darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermydd teuluol, cefnogaeth ar gyfer cymunedau gwledig a swyddi Cymru a hwyluso amaethyddiaeth gynaliadwy hefyd.
“Mae llawer o’r pryderon a gododd yr Undeb mewn ymateb i ymgynghoriad Brexit a’n Tir 2018 heb gael sylw eto, ac mae’r dyddiad ar gyfer cwblhau’r Bil Amaethyddiaeth Cymru derfynol a’i roi ar waith yn prysur agosáu. Rwy’n nerfus wrth feddwl am ein dyfodol a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda ffermwyr a'r Undeb i adeiladu cynllun sy'n gweithio i'n diwydiant ac i Gymru,” meddai Meirion Rees.
Mae UAC wedi bod yn glir bod yn rhaid cadw math o daliad sylfaenol mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol o ystyried bod tua 80% o ffermwyr Cymru yn dibynnu ar y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i gynhyrchu elw.
“Rhaid i ffermydd fod yn hyfyw yn ariannol ac yn fasnachol er mwyn darparu canlyniadau amgylcheddol er budd Cymru. Ni allwn fynd yn wyrdd os ydym yn y coch,” ychwanegodd Meirion.
Pwysleisiodd Meirion ymhellach pa mor bwysig yw Tir Comin Glastir i'w fusnes a'r system ffermio. Mae'r tir yn gymysgedd o fynydd ac iseldir ac mae'n cynnwys hawliau pori ar Fynydd Preseli a thir y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghastell Martin, cytundeb sydd wedi bod mewn grym ers dros 60 mlynedd.
Mae hawliau pori’r tir comin yn hanfodol i lwyddiant y busnes. “Mae gennym ni gytundeb Glastir Tir Comin mewn grym sy’n golygu bod stoc yn cael eu symud oddi ar Fynydd Preseli rhwng mis Tachwedd a dechrau mis Mawrth. Mae’r cynllun wedi bod yn bwysig wrth helpu i reoli’r mynydd gan fod rhai costau a cholledion ynghlwm wrth ei reoli,” meddai.
Wrth feddwl am y dyfodol, mae Meirion yn poeni sut y bydd cynlluniau amaethyddol y dyfodol yn gweithio ar dir comin. Dywedodd: “Mae'n hanfodol bod tir comin yn cael ei reoli'n weithredol, ac ar hyn o bryd mae Glastir Tir Comin ochr yn ochr â'r taliad sengl yn cynorthwyo ffermwyr fel fi i barhau i reoli cynefinoedd y tir comin trwy bori. Mae angen i ni weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall sut y gellir ymgorffori'r gweithgaredd amgylcheddol pwysig hwn mewn i gynllun nwyddau cyhoeddus.”
Roedd Meirion yn glir ni fydd pobl yn cadw defaid ar y tir os na allant wneud arian ohonynt. “Mae angen cydbwysedd yn y cynllun rhwng cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd a darparu nwyddau cyhoeddus,” meddai.
Tynnodd swyddogion yr undeb sylw hefyd at y broblem barhaus gyda TB yn yr ardal, gan bwysleisio nad oedd y polisi cyfredol yn gweithio o ystyried y gyfradd ail-heintio uchel barhaus.
Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Benfro, Rebecca Voyle: “Er bod UAC yn gyffredinol yn cefnogi mesurau cyffredinol fel profion TB blynyddol a chyn-symud, mae cryn bryder yn bodoli ynghylch cymesuredd rhai mesurau a’r cyfyngiadau economaidd difrifol y maent yn eu gosod ar ffermydd.”
Nodwyd bod treialon brechu gwartheg wedi cychwyn ar ran Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill fel rhan o strategaeth hirdymor tuag at gyflwyno brechlyn o bosibl erbyn 2025.
“Gall brechu gwartheg, ar y cyd â phrawf DIVA defnyddiadwy, weithredu fel mesur ataliol a chwarae rhan hanfodol tuag at gyflawni targed 2041 Llywodraeth Cymru ar gyfer bod yn glir o TB yn hytrach na’r dull ‘adweithiol’ cyfredol. Fodd bynnag, ni ellir ystyried hyn fel yr unig ateb gan ei fod yn parhau i fod yn un dull o reoli TB yn unig. Mae UAC yn parhau i gefnogi dull cyfannol o reoli TB yng Nghymru sy'n cael ei arwain gan wyddoniaeth yn hytrach na gwleidyddiaeth tymor byr,” ychwanegodd Mrs Voyle.