Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) sgyrsiau cadarnhaol gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, gyda’r prif sylw ar blannu coed a phrynu tir Cymru at ddibenion gwrthbwyso carbon gan fusnesau o’r tu allan i Gymru.
Mae UAC wedi derbyn adroddiadau gan aelodau bron yn wythnosol bod ffermydd cyfan neu ddarnau o dir yn cael eu prynu gan unigolion a busnesau o'r tu allan i Gymru at ddibenion plannu coed er mwyn buddsoddi yn y farchnad garbon gynyddol neu wrthbwyso eu hallyriadau eu hunain yn hytrach na cheisio lleihau eu hôl troed carbon yn y lle cyntaf.
“Trafodwyd ein pryderon parhaol ynglŷn â’r mater hwn mewn cyfarfod diweddar o Gyngor yr Undeb. Roedd yr aelodau’n teimlo’n gryf y dylai Llywodraeth a Senedd Cymru gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r mater hwn trwy ryw fath o fecanwaith rheoli,” meddai Llywydd UAC, Glyn Roberts.
Pwysleisiodd Llywydd yr Undeb ymhellach fod gwerthu carbon fel hyn yn peryglu tanseilio gallu ffermydd, amaethyddiaeth Cymru neu Gymru gyfan i ddod yn garbon niwtral.
“Pan fydd darn o dir fferm yn cael ei werthu a’i blannu â choed nid yw bellach ar gael yn swyddogol i’r sector amaethyddol ar gyfer gwrthbwyso allyriadau, ac os bydd rhywun yn plannu coed ar dir Cymru ac yn gwerthu'r carbon y tu allan i Gymru, yna ar bapur mae hyn yn dal i gyfrannu at dargedau statudol fel y mae'n ymddangos yn Rhestr Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr Cymru - ond mewn gwirionedd mae'r math hwn o gyfrif carbon dwbl ond yn hwyluso cynhyrchu carbon gan fusnes y tu allan i Gymru, a thrwy hynny yn amddifadu busnesau Cymru o'r cyfle i ddefnyddio'r carbon hwnnw i wirioneddol wrthbwyso allyriadau Cymru.” meddai.
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn croesawu cadarnhad y Gweinidog Julie James yn y cyfarfod bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r mater hwn ac yn edrych i mewn iddo, ac yn rhannu llawer o bryderon UAC.
Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cyfran gynyddol o arian cynllun Glastir – Creu Coetir Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i dalu am blannu coed ar dir ffermio Cymru a brynwyd gan fuddsoddwyr gyda chyfeiriadau y tu allan i Gymru. Cadarnhaodd y ffigurau hefyd fod yr ardaloedd a blannwyd gan fuddsoddwyr o'r fath ar gyfartaledd lawer gwaith yn fwy na'r hyn a blannir gan y rhai sydd â chyfeiriadau Cymreig.
“Cadarnhawyd ein pryderon parhaol mewn ymateb diweddar gan Lywodraeth Cymru i gwestiwn Senedd gan lefarydd amaethyddiaeth Plaid Cymru, Cefin Campbell, a ddatgelodd, rhwng cyfnod ymgeisio 8 a 10 cynllun Glastir – Creu Coetir (Tachwedd 2019) a (Tachwedd 2020) tyfodd y nifer o ymgeiswyr â chyfeiriadau y tu allan i Gymru o 3% i 8%,” meddai Mr Roberts.
Datgelwyd hefyd, rhwng cyfnod ymgeisio 8 (Tachwedd 2019) a 9 (Mawrth 2020) bod cyfran y tir a dderbyniwyd ar gyfer y grant Glastir – Creu Coetir yn dilyn ceisiadau o'r tu allan i Gymru wedi codi o 10% i 16%.
Mae'r ffigurau hefyd yn datgelu bod arwynebedd cyfartalog y tir a blannwyd â choed gan ymgeiswyr Glastir – Creu Coetir o'r tu allan i Gymru yn 96 hectar yn ystod y tymor plannu diwethaf, o'i gymharu ag arwynebedd cyfartalog o 17 hectar a blannwyd gan ymgeiswyr â chyfeiriadau yng Nghymru.
“Yn ystod y cyfarfod trafodwyd nifer o faterion eraill, gan gynnwys sut y gallwn sicrhau bod y goeden iawn yn cael ei phlannu am y rheswm iawn yn y lle iawn, a’r argyfwng ail gartrefi sy’n wynebu ein cymunedau gwledig.
“Diolchwn eto i’r Gweinidog am y cyfarfod adeiladol ac edrychwn ymlaen at barhau â’r trafodaethau hyn er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i Gymru ynglŷn â’r holl faterion sy’n dod o fewn ei phortffolio,” ychwanegodd.