Bedair milltir i'r de o Fachynlleth, yn swatio yn nyffryn Dyfi ac ar gyrion mynyddoedd y Cambrian mae Fferm Cefn Coch, cartref Dr Joseph Hope. Mae'r fferm tua 200 i 250 metr uwchben lefel y môr ac mae'r tir yn codi i'r de a gallwch gerdded i gopa Pumlumon heb weld ffordd na thŷ.
Mae gan y fferm 40 erw o borfa a choetir sy'n llawn rhywogaethau, ac ar hyn o bryd mae Joe yn prynu 50 erw arall yn Ynyslas. Yn newydd-ddyfodiad, mae'n cadw buches fach o Wartheg yr Ucheldir, dim ond 12 sydd ganddo ar hyn o bryd. Mae’r 4 mochyn Saddleback x Baedd Gwyllt hefyd yn brysur yn clirio rhedyn a mieri er mwyn adfer y tir nôl ar gyfer pori.
Symudodd Joe i Gefn Coch ychydig dros 6 mlynedd yn ôl, gan adael bywyd yng Nghaeredin, a gyrfa yng Ngerddi Botaneg Frenhinol Caeredin lle bu’n gweithio fel cennegydd. I ddechrau, bu’n rhenti’r caeau i gymydog er mwyn pori defaid a gwartheg, a dim ond 3 blynedd yn ôl y prynodd ei wartheg cyntaf - 3 buwch a lloi. Roedd yn newid mawr ond gwirionodd ar fywyd amaethyddol.
“Roeddwn am gael fy nwylo'n fudr! Roedd gweithio yn y Gerddi Botaneg yn fraint wirioneddol ond yn waith deallol iawn. Roeddwn i eisiau gwneud yn hytrach nag arsylwi yn unig. Etifeddais arian o werthu fferm fy mam-gu yn Awstralia ac nid oeddwn am ei fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau. Mae gen i ddiddordeb maith mewn cadwraeth a chefn gwlad a des i yma i ofalu am yr hyn a oedd yn ymddangos i mi fel darn arbennig o dir. Ymhen amser, penderfynais mai'r ffordd orau o wneud hynny oedd trwy barhau i ffermio'n sensitif,” esboniodd Joe.
Gyda gwerthfawrogiad o fioamrywiaeth, natur a'r rôl y mae da byw yn ei chwarae wrth gynnal ecosystemau iach, mae Joe wedi archwilio'r cefn gwlad o'i gwmpas, gan ddefnyddio'i arbenigedd fel ecolegydd. Daeth o hyd i dirwedd yn llawn bywyd gwyllt; mae'r coetir ymhellach lawr y dyffryn yn un o'r goreuon ar gyfer cennau yn y sir.
“Mae cennau yn rhan bwysig iawn o fioamrywiaeth ar ochrau gorllewinol Prydain. Nhw yw sêr anhysbys ein hecosystemau. Mae'r mwsoglau, llysiau'r afu a'r cennau’n elfennau o'n bioamrywiaeth y mae'n debyg bod Cymru fwyaf arbennig ar eu cyfer. Mae'r coetir ar y fferm yn llai hynafol nag ymhellach i lawr yr afon felly nid oes gennym ni gymaint o'r hen genau coedwig brin, ond mae gennym ni gasgliad iach o rywogaethau yma,” meddai Joe.
“Mae gennym rywbeth prin ofnadwy: darn o gen llygad euraidd (Teloschistes chrysophthalmus) yn tyfu ar goed afalau bach surion. Dyma’r unig enghraifft hysbys yn hanner gogleddol Cymru gyfan a hefyd yr enghraifft fwyaf gogleddol ym Mhrydain,” ychwanegodd.
Dywed Joe, pan fyddwn yn siarad am ‘bioamrywiaeth’, mae’r mwyafrif o bobl yn dychmygu dyfrgwn, gwalch y pysgod a thegeirianau. Y rhywogaethau mawr neu giwt - yn enwedig adar a mamaliaid - sy'n cael y sylw mwyaf. “Mae hynny'n ddealladwy oherwydd mae'r rhywogaethau hyn yn odidog ac yn ysbrydoledig. Ond nid yw llawer o'r cennau a'r mwsoglau sy'n tyfu yma i'w cael mor helaeth yn unrhyw le arall yn y byd. Mae gan Gymru gyfrifoldeb rhyngwladol am y rhywogaethau yma gan gynnwys cadw'r ecosystemau sy'n eu cefnogi'n iach.”
“Mae'n hanfodol ein bod ni'n cadw'r rhywogaethau hyn, sy’n brin yn fyd-eang mewn cyflwr da. Maent wedi cymryd miliynau o flynyddoedd i esblygu, i gyflawni’r union beth sydd ei angen. Ond maent hefyd yn cyflawni swyddogaethau allweddol yn eu hecosystemau o ran cadw lleithder, yn cylchu maetholion, ac yn darparu cynefin ar gyfer rhywogaethau eraill. Er enghraifft, mae’r cen gwyrddlas hyd yn oed yn sefydlogi nitrogen o’r atmosffer ac yn cyfrannu at ffrwythlondeb yr ecosystem honno,” meddai Joe.
Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr am fioamrywiaeth, ychwanegodd Joe, yw ei fod yn ffynhonnell anhygoel o gymhlethdod. “Mae gan bob un o’r rhywogaethau hyn ei fioleg gymhleth ei hun a phrin ein bod yn deall sut y maent yn cyfrannu at ecosystemau na sut y gallent fod o gymorth i ni yn y dyfodol. Mae cennau, yn benodol, yn cynhyrchu ystod enfawr o gyfansoddion biolegol sydd yn aml yn hollol unigryw. Dangoswyd bod gan lawer ohonynt ddefnydd meddygol posibl. Mae'n drysorfa o bosibiliadau anhysbys ac rwy'n ceisio ffermio mewn ffordd sydd yn eu hamddiffyn,” esboniodd.
Yr allwedd i gadw popeth yn gweithio mewn cytgord yw cynaliadwyedd, meddai Joe: “Mae cynaliadwyedd, fel cysyniad, yn cyfeirio at arferion y gallwch chi fod yn eu gwneud am byth heb effeithio’n negyddol ar allu cenedlaethau’r dyfodol i gynnal eu hunain yn yr un modd. Mae hynny’n golygu edrych ar holl effeithiau’r hyn rydych chi’n ei wneud a sut maent yn cyfrannu at lefel fyd-eang.
“Gall dull ymddangos yn gynaliadwy yn y tymor byr i ganolig os oes modd ei ailadrodd yn gorfforol. Ond os, er enghraifft, ei fod yn defnyddio llawer o danwydd ffosil, yna efallai y byddwn yn cwestiynu pa mor gynaliadwy ydyw mewn gwirionedd, oherwydd mae yna swm cyfyngedig o danwydd ffosil ar ôl yn y ddaear ac mae eu llosgi yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o arferion anghynaladwy - ym mhob diwydiant, nid yn unig ffermio - neu byddwn yn wynebu newid trychinebus yn yr hinsawdd. Yr her serch hynny yw gwneud ffermio sy'n amgylcheddol gynaliadwy yn ariannol gynaliadwy hefyd. Rhaid i ffermio gefnogi bywoliaethau neu mae'n anymarferol ar unwaith. Mae angen i'r llywodraeth chwarae ei rhan yn hyn, oherwydd nid yw'r prisiau bwyd cyfredol yn adlewyrchu costau cynhyrchu cynaliadwy.”
Wrth ddisgrifio ei system ffermio dywed Joe ei fod yn fodel dwyster isel sydd wedi'i gynllunio i adael i natur ffynnu ochr yn ochr â ffermio. “Roedd y fferm eisoes yn dipyn o hafan ar gyfer bywyd gwyllt pan gyrhaeddais yma, gyda llawer o goed maes a gwrychoedd wedi tyfu’n fawr. Rwy'n manteisio ar hyn, ac yn ceisio gwella hynny trwy symud yn fwriadol tuag at system amaeth-goedwigaeth wedi'i ddylunio. Bydd gan wahanol rannau o'r fferm wahanol arddulliau o goed-borfeydd - er enghraifft mae fy nghae mawr, Cae Mawr, yn cael ei rannu gan wrychoedd, i 8 neu fwy o badogau llai, y gellir eu pori mewn cylchdro.
“Bydd y gwrychoedd yn llawn rhywogaethau, gyda’r rhai sy’n agosach at y tŷ yn cynnwys coed a llwyni sy’n darparu ffrwythau a chnau megis mafon, cyrens duon, a chnau cyll, yn ogystal â rhywogaethau llai cyfarwydd fel y ‘jostaberry’ a cheirios cornelian. Wrth symud i fyny'r allt bydd y ffocws ar rywogaethau brodorol fel drain a chelyn, ond yn gwyro ychydig tuag at y rhai sy'n flasus ar gyfer da byw. Rwy'n awyddus bod yr anifeiliaid yn cael budd o ddail y gwrychoedd fel rhan o'u diet, felly rwy'n ychwanegu pethau fel Pisgwydden dail bach a Llwyfen lydanddail sydd ddim mor niferus mor bell i fyny'r dyffryn ar hyn o bryd. Rydyn ni hefyd yn mynd i blannu rhai coed afalau a ddiogelir yn unigol, i gynhyrchu seidr ar y fferm mewn blynyddoedd i ddod.”
Dewiswyd brîd Gwartheg yr Ucheldir am nifer o resymau. “Fel rhywun sy’n newydd i ffermio mae’n wych bod nhw ddim angen llawer o ofal. Maent yn ddigon hapus i dreulio’r gaeaf allan ac yn bwyta'r borfa fel y daw - maent yn gwneud yn dda ar dir garw, felly dwi ddim yn cael fy ngwthio tuag at ddefnyddio gwrteithwyr, a fyddai'n lleihau gwerth cadwraeth y glaswelltir.
“Mewn gwirionedd, Gwartheg yr Ucheldir yw yn un o'r bridiau gorau ar gyfer pori er lles cadwraeth, felly maent yn gweithio dros fioamrywiaeth. Yn ogystal â hynny, maent yn lloia’n hawdd ac maent yn dawel. Maent yn brydferth iawn hefyd - mae pawb yn hoff iawn ohonynt!”
Mae Joe yn meddwl llawer am les yr anifeiliaid ac yn cydnabod rôl bwysig lladd-dai lleol bach yn y broses. “Mae gen i nifer fach o wartheg, felly rydw i'n eu hadnabod i gyd yn unigol. Rwy'n meddwl sut y bydd yr holl benderfyniadau a wneir ar y fferm yn effeithio arnynt. Un golled fawr yw colli lladd-dy a chigydd lleol Will Lloyd. Roedd yn anhygoel o werthfawr i mi oherwydd ei fod ddim ond 4 milltir i ffwrdd ac roedd ganddo enw da am fod mor dda gyda'r anifeiliaid. Rwy’n sicrhau bod yr anifeiliaid hyn yn cael bywyd da ac mae’n bwysig i mi eu bod yn cael marwolaeth dda hefyd.”
Er gwaethaf dod o ongl gadwraeth i ddechrau, mae cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel hefyd yn amcan allweddol i Joe. “Mae amaethyddiaeth yn cael ei feirniadu llawer yn y cyfryngau ar hyn o bryd, ond wrth gwrs rydyn ni’n parhau i fod angen bwyd! I mi, mae’r heriau y mae amaethyddiaeth yn eu hwynebu gyda chynaliadwyedd yn rhan o broblem lawer mwy gyda chymdeithas ddiwydiannol, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael a hynny’n gyfrannol gyda systemau doethach.”
“Mae rhai pobl yn cefnogi’r trywydd diwydiannol, lle rydyn ni'n cynhyrchu ein bwyd mewn ffatrïoedd ac yn ail-wylltio ein cefn gwlad, ond rydw i eisiau archwilio'r hyn y gellir ei wneud i integreiddio cynhyrchu bwyd iach â chynnal amgylchedd iach. Yn sicr does gen i ddim yr atebion i gyd, rydw i'n ceisio dysgu wrth fynd ymlaen, yn enwedig gan ffermwyr hŷn. Os edrychwch ar y ffermydd bach o gwmpas yma, fe wnaethant gynhyrchu bwyd mewn ffordd nad oedd yn ddwys am ganrifoedd. Rwy'n credu mai dyma mae'r rhan fwyaf o bobl ei eisiau: ffermydd hardd gyda natur lewyrchus yn cynhyrchu bwyd gwych."