Y Gogarth - mynydd calchfaen sy'n ymestyn 207 metr uwchben lefel y môr ac sy'n cael ei gydnabod fel Parc Gwledig, Ardal Cadwraeth Arbennig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a rhan o'r arfordir treftadaeth. Gyda golygfeydd ar draws Môr Iwerddon ac Ynys Môn heb fod ymhell, does dim rhyfedd fod ei dirwedd garw yn denu dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Ond mae'r Gogarth yn fwy nag atyniad i dwristiaid yn unig. Mae'n gartref i’r bugail a thenant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dan Jones, a 650 o ddefaid. Dan yw ceidwad Fferm Parc ers 5 mlynedd, ac mae'n gofalu nid yn unig am y 145 erw sydd wedi'u cynnwys gyda'r fferm, ond mae'n helpu i reoli cyfanswm o 900 erw, sydd â hawliau pori ar gyfer 416 o ddefaid ynghyd ag ŵyn.
Ganwyd Dan ar fferm deuluol fach yn Ynys Môn, ac wedi bod yn angerddol am ffermio erioed. “Roedd fy rhieni eisiau i mi wneud rhywbeth gwahanol ond roeddwn i wir eisiau ffermio. Es i goleg Llysfasi ac yna i Brifysgol Aberystwyth i astudio amaethyddiaeth. Roeddwn bob amser eisiau bod yn fos arnaf fy hun ac wrth fy modd yn gweithio gydag anifeiliaid, felly roedd hwn yn ddatblygiad naturiol iawn.”
Prynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Fferm Parc yn 2015, ac roedd yn bryniant pwysig gan fod cynlluniau ar y gwell bryd hynny i droi’r fferm 150 erw yn gwrs golff, a chyda hynny byddai'r defaid wedi gorfod mynd. Mae'r defaid yn breswylwyr hanfodol ar y Gogarth, gan sicrhau bod hawliau pori yn cael eu cynnal a bod y dirwedd a’r fioamrywiaeth yn ffynnu.
Yn ffermwr defaid ucheldir traddodiadol, mae Dan yn ffermio mewn ffordd sy’n rhoi natur yn gyntaf. Mae cynhyrchu bwyd yn cael ei wneud mewn ffordd gynaliadwy, naturiol yma. Nid yw'n ddwys, ac mae'n mynd law yn llaw â gofalu am yr amgylchedd. “Mae'r ffordd hon o ffermio wedi bod yn ffordd naturiol o ffermio yng Nghymru ers cenedlaethau. Efallai y bydd rhai yn ei ystyried ychydig yn hen ffasiwn. Ond dyma’r ffordd ucheldir traddodiadol Cymreig. Mae hynny'n golygu ein bod ni'n gweithio gyda natur a chyda'r tymhorau ac nid yn eu herbyn. Nid ydym yn defnyddio unrhyw wrtaith anorganig ac yn ategu'r defaid cyn lleied â phosibl fel y gallant ddefnyddio eu hamgylchedd naturiol i gynhyrchu bwyd,” esboniodd Dan.
Ers argyfwng y traed a’r genau gostyngodd niferoedd y defaid ar y Gogarth, sefyllfa debyg ledled ucheldiroedd Cymru, gan ddod â llu o heriau gyda hynny. Cafodd y gostyngiad yn nifer y defaid yma effaith niweidiol ar y dirwedd hanesyddol hon, a gwelwyd llystyfiant trwchus o laswelltir tal a thwmpathog sy'n cael ei ddominyddu gan rywogaethau bras o borfa yn cymryd drosodd. “Mae porfa hir fras yn mygu perlysiau llai er enghraifft, ac roedd yn effeithio ar rywogaethau planhigion pwysig eraill fel y Creigafal a’r Rhwyddlwyn Pigog sydd gennym yma. Roedd yn cael sgil-effaith ar yr holl fioamrywiaeth a natur a dyna pam y cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddefaid er mwyn pori’r tir mewn ffordd draddodiadol,” meddai Dan.
“Oherwydd ein bod ni ar galchfaen, rydyn ni'n cael rhai planhigion diddorol yma sydd ddim yn byw yn unman arall ar y ddaear. Mae yna un planhigyn yma sy'n bwysig iawn o ran cadwraeth sef Creigafal y Gogarth, creigafal brodorol. Mae'n un o'n planhigion gwyllt prinnaf, a dim ond chwe llwyn gwyllt gwreiddiol o'r creigafal brodorol hwn sy'n wybyddus yn y byd. Mae'r chwe llwyn gwyllt yn tyfu yma. Mae gennym ni blanhigion pwysig eraill fel y Rhwyddlwyn Pigog (veronica spicata) hefyd ac mae angen i ni ofalu am y planhigion hynny,” ychwanega.
Pan brynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y fferm, cynhaliwyd arolwg ohoni a mesurwyd y fioamrywiaeth. Mae'r fferm bellach yn cael ei monitro bob dwy flynedd ac mae Dan yn falch o ganlyniadau eleni. “Cynhaliwyd arolwg ym mis Mehefin eleni ac mae’r niferoedd yn edrych yn dda iawn. Mae blodau gwyllt a nifer yr infertebratau wedi cynyddu. Mae'n mynd i'r cyfeiriad cywir ac rydyn ni wedi cyflawni cryn dipyn mewn 5 mlynedd yn unig,” meddai.
Gan fod y Gogarth yn cael ei gydnabod fel parc gwledig, SoDdGA ac APP (Ardal Planhigion Pwysig) mae'n cael ei reoli gan y cyngor lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, ac mae Dan yn gweithio’n agos gyda nhw. Mae hefyd yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Plantlife Cymru sydd wedi prynu’r ddiadell gynefin ar gyfer y fferm. “Roedd Plantlife Cymru eisiau sicrhau bod y pori’n iawn a bod y ddiadell gynefin yn medru pori ar y Gogarth yn y dyfodol. Pe bawn i’n gadael a ffermwr newydd yn dod, byddai’r ddiadell gynefin honno’n aros, gan sicrhau pori ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai Dan.
Ni fyddai'r tir yma yn ffynnu nac yn cefnogi'r amrywiaeth o rywogaethau sydd yma oni bai am geidwaid y tir fel Dan Jones. Mae gweithio gyda'r RSPB a gweithredu strategaethau pori penodol wedi croesawu cynnydd mewn rhai rhywogaethau penodol. “Mae'n lle anhygoel i adar ac mae'r RSPB yn chwarae rhan fawr. Cytunais i bori 2 o'r caeau ar y fferm yn eithaf trwm trwy gydol y flwyddyn i ddarparu'r tir chwilota delfrydol ar gyfer y frân goesgoch. Pan ddeuthum yma gyntaf roedd yna 6 pâr bridio ond yn yr arolwg diwethaf roedd yna 7 pâr bridio. Nid yw’n swnio fel llawer ond mae’n gyflawniad gwych,” meddai.
Mae rhan o'r Gogarth hefyd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac mae Dan yn gweithio'n agos gyda nhw hefyd i bori eu safleoedd. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru warchodfa natur yma hefyd sydd â'r creigafal arni. Mae'r rhannau hyn o'r tir angen dull pori gwahanol, eglura Dan. “Rwy’n pori’r parseli tir hyn ar wahanol adegau o’r flwyddyn fel bod y glaswellt lawr, ac yna rwy’n mynd â’r defaid oddi yno, fel bod modd i rywogaethau planhigion arbennig fel y Creigafal y Gogarth ffynnu. Un o'r heriau mawr yma yw siarad â'r sefydliadau mawr hynny a sicrhau bod pawb yn cytuno. Hyd yn hyn, serch hynny mae'n gweithio'n dda.”
O ran cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, wrth ofalu am yr amgylchedd, mae ffermwyr fel Dan Jones yn arwain y ffordd. “Mae gwahaniaeth enfawr o ran sut rydw i'n cynhyrchu cig a'r mannau bwydo mawr ledled y byd. Mae'n rhwystredig pan rydyn ni'n cael ein trin yr un fath. Mae newid yn yr hinsawdd yma ac mae angen i ni wneud rhywbeth yn ei gylch. Ond mae angen i ffermio Cymru sefyll lan drosto'i hun ac arddangos yr holl bethau da rydyn ni'n eu gwneud. Nid ydym yn ceisio lladd y byd, rydym yn cynhyrchu bwyd wrth helpu'r blaned, natur a bywyd gwyllt a gwneud yr ardal yn hyfryd i bawb,” meddai.
Mae'r defaid ar y bryniau'n chwarae rhan hanfodol yma, o ran sicrhau’r cyflenwad bwyd a chadwraeth. “Mae angen i ni gadw’r defaid ar y bryniau i gadw planhigion pwysig i ffynnu. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o orbori sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Mae’n rhaid cael cydbwysedd. Mae popeth mewn bywyd yn ymwneud â chydbwysedd a dyna dwi'n ceisio ei wneud yma.
“Bydd yn rhaid i ni blannu mwy o goed ond mae'n bwysig bod y goeden iawn yn yr ardaloedd cywir. Yn ôl pob tebyg, nid yw rhai o ffermydd dwys y tir isel mor amrywiol o ran bywyd gwyllt a natur, ond dyna'r tir sy'n cynhyrchu'r mwyaf o fwyd. Rhaid gwneud penderfyniad rhwng cael bwyd a natur a chadwraeth a'i gydbwyso. Rydym yn gwneud cymaint ag y gallwn mewn gwirionedd. Nid yw cael gwared a ffermio a gadael i bopeth dyfu'n wyllt yn gweithio. Mae angen i ni reoli ein tirwedd a rheoli'r pori, wrth fwydo poblogaeth sy'n tyfu o hyd.”
O ran dietau a bwyd pobl, mae Dan yn credu'n gryf mewn dewis personol, cyn belled â'i fod yn wybodus ac nad yw'n cael ei arwain gan wybodaeth annoeth a data amheus. “Dewis personol yw diet pawb, ac os ydyn nhw eisiau bod yn fegan mae hynny'n iawn. Ond mae addysg yn hollbwysig. Mae angen i ni ddangos i bobl o ble mae eu bwyd yn dod, ac mae gwahaniaeth rhwng systemau cynhyrchu. Mae diet cytbwys yn bwysig iawn i'ch iechyd a hefyd i'n planed."
Mae Dan yn siarad o brofiad ac wedi gweld pa mor bwysig yw diet cytbwys pan gymerodd ran mewn ras feiciau dygnwch eithafol gan gwblhau 1200 milltir yn ystod yr haf. “Mae angen protein o ansawdd da arnom a dim ond cymaint o ffacbys y gallwch eu bwyta i gynnal eich hun a sicrhau’r swm cywir o brotein. Mae cig a llaeth yn rhan hanfodol o'r diet os ydych chi am osgoi dewisiadau amgen a gynhyrchir yn gemegol. Mae gennym ni ddewis o ran yr hyn rydyn ni'n ei fwyta a dylem ystyried ble a sut mae'r bwyd hwnnw'n cael ei gynhyrchu a pha mor gynaliadwy yw hynny."
Mae'r sgwrs ynghylch cynaliadwyedd yn ennill momentwm gyda COP26 yn agosáu. I Dan, mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn golygu system fwyd y gellir ei chynnal am byth mewn cylch blynyddol heb niweidio'r amgylchedd. “Mae cynaliadwy yn golygu nad yw’n cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd a dyna beth rydyn ni’n ei brofi yma bob dydd, bob blwyddyn. Ond mae’n rhaid i ni addysgu ein defnyddwyr ynglŷn â sut rydyn ni’n cynhyrchu’r bwyd,” meddai.
Yn denu dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn, y Gogarth a Fferm Parc, yw'r ail atyniad naturiol yr ymwelir ag ef amlaf yn y wlad, yn agos iawn tu ôl i’r Wyddfa. Mae hynny'n rhoi cyfle gwych i Dan addysgu pobl o wahanol gefndiroedd a dangos iddynt sut mae pethau'n cael eu gwneud yma. “Rhan o fy rôl yma yw ymgysylltu â'r cyhoedd, ac rwy'n ceisio cyfleu'r neges hon i'r cyhoedd. Rydw i hefyd yn dangos i grwpiau sut rydyn ni'n ffermio. Rwy'n aml yn synnu am gyn lleied y mae pobl yn ei wybod am gynhyrchu bwyd. Pan fydd pobl yn mynd i brynu cyw iâr o'u harchfarchnad mewn deunydd lapio plastig, nid ydyn nhw'n meddwl o ble mae wedi dod. Dyma'r bobl y mae angen i ni dargedu. Rydw i hefyd yn croesawu grwpiau ysgol yma ac rydw i wir yn mwynhau esbonio cynhyrchu bwyd a sgwrsio gyda'r plant,” meddai.
O ran addysgu pobl, ni ellir anwybyddu pŵer y cyfryngau cymdeithasol ac mae'n darparu teclyn arall i Dan helpu i ledaenu stori gadarnhaol ffermio da byw yng Nghymru. “Mae cyfryngau cymdeithasol mor ddylanwadol ac yn aml rwy’n gweld gwybodaeth ffug sydd â’r nod o wneud arian i gorfforaethau mawr am resymau amheus, yn seiliedig ar ffeithiau anghywir. A dyna pam rydw i ar Trydar - i sefyll lan dros ffermio ac egluro sut rydyn ni'n cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yma. Y dyddiau hyn, os ydych chi'n ei hoffi ai peidio, bydd pobl yn edrych ar ble maen nhw'n mynd ar gyfryngau cymdeithasol yn gyntaf. Felly i mi mae'n bwysig rhannu'r delweddau hyn o'r Gogarth a sut rydw i'n ffermio oherwydd dyna le mae profiad ein hymwelwyr yn cychwyn. Maen nhw'n gwybod pam fod y defaid yma cyn iddyn nhw ddod ac maent yn deall ein stori.”
Yn y dyfodol mae Dan yn gobeithio sefydlu busnes arlwyo ei hun ar y fferm, gan werthu cynhyrchion cig oen a gwlân, yn ogystal â mêl a gynhyrchir yn lleol. “Mae gen i rai cychod gwenyn i helpu gyda pheillio, ac rwy'n gobeithio gwerthu ychydig o fêl yn fuan. Ar hyn o bryd dim ond digon i’n dibenion ni sydd, ond mae'n wych. Yr adeg hon o'r flwyddyn, mêl grug sydd yn bennaf oherwydd dyna beth sy'n blodeuo ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio cael ychydig mwy o wenyn yn fuan. Rwyf wedi cadw gwenyn ers 4 blynedd bellach ac mae'n eithaf pleserus. Mae'r hyn maen nhw'n ei wneud yn anhygoel. Maent yn waith caled ac yn cymryd llawer o amser ond byddwn yn annog unrhyw un i gael ychydig o gychod gwenyn ar y tir er mwyn ein hamgylchedd.”