Mae’r ffermwr llaeth o Sir Fôn William Williams, sydd wedi bod yn amaethu un o ffermydd cyngor y sir am fwy na 30 mlynedd, yn dweud mai teuluoedd amaethyddol yw sylfaen ein cymunedau lleol, ac yn hanfodol wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy a hefyd er mwyn lliniaru newid hinsawdd.
Ers yn ifanc mae William wedi gwirioni ar gynhyrchu llaeth, ac yn gofalu am ei fuches odro o 200 yng Nghlwch Dernog Bach, Llanddeusant, sy’n uned 400 erw o dir rhent ac 80 erw o dir a berchnogir yn breifat. “Cefais fy magu ar fferm laeth ac roedd fy nhad yn arfer godro 6 buwch. Fe’m hysbrydolwyd i gychwyn godro cyn gynted ag y medrwn,” meddai William.
Cychwynnodd William gyda dim ond 25 o wartheg godro, gan ehangu’r fuches wrth i’r cwotâu llaeth ddirwyn i ben, ond er gwaetha’r cynnydd mewn niferoedd ar ei fferm, mae’n dweud ei bod mor gynaliadwy ag y medr fod. “Rwyf o’r farn bod ein dull ni o ffermio llaeth yn gynaliadwy iawn. Rydym wedi bod yn amaethu yn y ffordd hon ers mwy na 50 mlynedd. Mae gennym ni fwy o wartheg ar ein daliad bellach ond, mae’n bwysig cofio, ar un adeg roedd mwy o ffermydd yn y cyffiniau hyn, tua 10 ohonynt. Roedd gan bawb lefelau stoc is, gyda buches o tua 10-20 buwch. Mae’r ffermydd hynny bellach wedi’u huno yn unedau mwy o faint, felly mae gennym lai o ffermydd, ond yr un nifer o wartheg yn yr ardal, i’r un nifer o erwau.”
Mae William yn bendant bod y newidiadau mewn amaethyddiaeth wedi cael effaith ar y gymuned leol. “All neb wneud bywoliaeth yn godro 20 o wartheg heddiw. Roedd yn rhaid i ni addasu ac mae hyn wedi newid cymunedau. Mae ysgolion wedi cau hefyd. Roedd 4 ysgol leol arfer bod yma, nawr 1 ysgol fawr sydd. Mae’r ffermydd llai o faint wedi mynd, yn debyg iawn i’r ysgolion bach. Mae’n drist mewn gwirionedd ac yn dangos mai ffermydd teuluol sy’n cadw cymunedau lleol yn fyw, yn ogystal â’n diwylliant a’r iaith Gymraeg,” meddai.
Mae William yn ffyddiog wrth sôn am ofalu am dir, bod y pridd yn iach a bod digonedd o borfa’n tyfu. Mae’r teulu’n tyfu india-corn a defnyddir gwrtaith o’r gwartheg a hynny heb ddefnyddio gwrtaith artiffisial. “Mae gennym bridd trwm yma, sy’n wych am dyfu porfa. Fodd bynnag mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gadw’r gwartheg oddi ar y caeau yn y gaeaf, er mwyn diogelu’r pridd. Felly cedwir y gwartheg dan do dros y gaeaf a rhoddir silwair ac india-corn fel porthiant.
“Mae’r gwartheg yn hanfodol er mwyn rheoli iechyd y pridd a chadw ecosystemau i ffynnu. Mae eu gwrtaith naturiol yn denu pryfed, sy’n cynorthwyo i’w ymddatod, yn gwella’r tir ac ansawdd y pridd gan hefyd fwydo’r ecosystem, o adar i ddraenogod. Mae gennym gydbwysedd da yma rhwng anifeiliaid yn pori ac yn cael eu cadw dan do, sy’n gweithio i’r tir a’r gwartheg.”
Nid yw cadw da byw da do yn cyfaddawdu eu hiechyd a lles, mae William yn awyddus i’w ddweud. “Mae gan ein gwartheg pob cysur sydd ei angen arnynt. Digon o aer glân, digon o le er mwyn symud o amgylch ac mae gennym fatiau rwber 2 fodfedd i’w cadw’n gysurus. Mae gennym system golau awtomatig hefyd, sy’n cynnau am 4 y bore ac yn diffodd am 10 y nos. Ar ddiwrnod tywyll mae hefyd yn cynnau yn ystod y dydd er mwyn i’r gwartheg gael y golau cywir.
“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n milfeddyg er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn iach. Wrth ystyried diet y gwartheg dros y gaeaf, rydym yn gweithio gyda maethegydd sy’n cymryd samplau o’r india-corn a silwair, ac yna’n gwneud gwaith er mwyn gweld beth yw’r cymysgedd gorau i’r gwartheg. Maent yr un mor hapus dros y gaeaf ag y maint dros fisoedd yr haf.”
Mae William yn teimlo braidd yn rhwystredig wrth ystyried nwyon tŷ gwydr a’r effaith mae’r diwydiant llaeth yn ei gael ar yr hinsawdd, oherwydd y diffyg ymwybyddiaeth o’r gwahaniaeth rhwng carbon deuocsid a methan. “Gan amlaf cyfartaledd byd eang a ddefnyddir wrth drin a thrafod allyriadau amaethyddol, sy’n gamarweiniol. Wrth gwrs fod newid hinsawdd yn broblem frys i bob un ohonom. Heb amheuaeth yn fy marn i mae angen lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ymhob sector, ac mae angen i bob gwlad chwarae ei rhan. Nid plannu coed ar dir lle medrir cynhyrchu bwyd yw’r ateb, oherwydd fydd hynny’n golygu gorfod mewnforio mwy o fwyd, o wledydd nad ydynt yn cadw i’r un safonau sydd gennym ni yma.”
Mae methan yn nwy pwysig yn yr amgylchedd, fodd bynnag mae William yn dadlau bod pwyntio’r bys at amaethyddiaeth yn gwneud rhai rhagdybiaethau cwbl anghywir. “Nid amaethu anifeiliaid sy’n bennaf gyfrifol am greu methan, ac yn gyffredinol mae data yn nodi fod ffermio da byw yn gyfrifol am tua chwarter yr allyriadau. Hefyd, mae carbon deuocsid yn cymryd canrifoedd i ddadfeilio yn yr atmosffer. Mae llosgi tanwydd ffosil hefyd yn ychwanegu i’r stoc nwy. Mae methan fodd bynnag yn nwy llifol sy’n dadfeilio’n gyflym ac, os yw’r cydbwysedd yn iawn, mae’n rhan o gylch sy’n bresennol yn naturiol. Felly mae’n anghywir dweud bod y ddau yn debyg.”
Mae cyfraniad da byw i allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y DU yn debyg i ganran allyriadau nwyon tŷ gwydr o wastraff bwyd o gartrefi a busnesau (5%), ac yn llawer iawn is na’r hyn ddaw o drafnidiaeth (27%) neu gyflenwadau ynni (21%). Mae gwartheg a defaid yn y DU ddim ond yn cyfrif am 5.7% o’r allyriadau NET II (isel iawn) ac mae’r ffigwr hwnnw’n lleihau’n barhaus.
Ni ddylid rhoi’r bai am newid hinsawdd ar ffermio yng Nghymru, meddai William. “Yma ar y fferm er enghraifft, rydym nawr yn cynhyrchu mwy o laeth gyda llai o wartheg, felly rydym eisoes yn gweithio tuag at ein nodau sero-net. Bellach mae ein gwartheg yn cynhyrchu mwy o laeth ac mae cyfartaledd ein buches, a oedd arfer bod yn 5 neu 6 mil litr fesul buwch y flwyddyn 30 o flynyddoedd yn ôl, wedi codi i tua 9 mil litr fesul buwch y flwyddyn. Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud dros y blynyddoedd i wella geneteg, effeithlonrwydd bwyd, a systemau cynhyrchu ac rwy’n meddwl gall ffermwyr fod yn rhan o’r datrysiad i daclo newid hinsawdd, ac nid y broblem.”
Mae’r teulu’n cymryd ei gyfrifoldeb i ofalu am yr amgylchedd o ddifrif, gan weithio gyda’i brynwr llaeth Glanbia ar archwiliad carbon er mwyn gweld sut allant wella’r hyn a wneir.
“Rydym wedi cynnal archwiliad carbon yma ar y fferm ac rydym yn aros am y canlyniadau wrth Glanbia. Yr hyn sy’n fy nharo i fel problem yw nad oes dull safonol o archwilio ôl troed carbon. Mae angen ffordd safonol o fesur, a gobeithio bydd Llywodraeth y DU a Chymru yn medru dod o hyd i ffordd o’n cynorthwyo â hyn,” meddai William.
Mae ffermwyr yma yng Nghymru eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol trwy ddal a storio carbon yn y pridd a’r gwrychoedd, a thrwy dorri allyriadau, ac mae William o’r farn pan mae’n dod i archwiliad carbon, dylid hefyd gymryd rôl porfeydd a gwrychoedd i ystyriaeth wrth gyfrifo storio carbon, yn hytrach na dibynnu’n unig ar brosiectau plannu coed anferth.
“Nid plannu ymhob man yw’r ateb o ran cynyddu storio ein carbon a delio gyda newid hinsawdd. Oes mae gennym ddarnau o dir y medrwn eu defnyddio, a byddwn yn gwneud hynny, ac mae gan y rhan fwyaf o ffermydd dir ymyol at y defnydd hynny, ond mae’r holl werthu ffermydd hyn ar hyn o bryd a defnyddio’r tir cynhyrchiol hwnnw, tir gellir cynhyrchu bwyd arno, ar gyfer plannu coed ddim yn gwneud synnwyr. Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy o bryder yw mai busnesau mawr o’r tu allan i Gymru sy’n prynu’r tir amaethyddol a phlannu coed arno er mwyn gwrthbwyso allyriadau carbon, a hynny heb iddynt newid eu harferion a dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.”
Meddai William, mae’n rhaid i gynnyrch llaeth barhau yn y gadwyn fwyd, er mwyn diogelwch bwyd a rhesymau maeth. “Nid ydym am weld ein hunain mewn sefyllfa mewn blynyddoedd i ddod lle nad oes gennym ffermwyr llaeth mwyach. Mae’r goblygiadau allai hyn ei gael ar ein diogelwch bwyd yn frawychus. Dylid hefyd ystyried bod ymgyrchoedd sy’n pardduo un grŵp bwyd, p’un ai fod hynny’n llaeth neu’n gig, yn gwneud ychydig iawn o synnwyr. Yr unig beth y mae hyn yn ei wneud yw rhyddhau’r allyrwyr carbon diwydiannol mwyaf o’u cyfrifoldeb.
“Mewn gwirionedd, dylid annog cwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut a lle mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu. Mae gan gynnyrch llaeth stori dda i’w hadrodd. Fel sector rydym yn gwneud cynnydd o ran yr amgylchedd ac ar yr un pryd rydym yn bwydo poblogaeth sy’n gynyddol dyfu. Mae’r sector llaeth yn un hynod bwysig o ran diogelwch bwyd, yn enwedig oherwydd bod mwy na 6 biliwn o boblogaeth y byd yn bwyta’n cynnyrch a’n cynhwysion.
“Mae ffermwyr llaeth Cymru, y DU a’r byd yn rhan o’r datrysiad cynaliadwy, a medrwn fod yn rhan o systemau bwyd cynaliadwy’r dyfodol.”