Yn swatio ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ychydig filltiroedd o drefi hanesyddol Beddgelert a Phenrhyndeudraeth, mae Hafod y Llyn Isaf, fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r daliad 110 erw yn gartref i Teleri Fielden a’i gŵr Ned Feesey, 100 o ddefaid ac 20 o wartheg. Brwyn a dolydd gorlifdir sy'n llawn rhywogaethau yw'r tir yma’n bennaf, gan ei fod 3 metr yn unig uwchben lefel y môr. Ers talwm roedd yn rhan o'r aber, cyn i'r cob gael ei adeiladu ym Mhorthmadog. Mae'r pridd yn dywodlyd ac yn cyflwyno rhai heriau i'r cwpwl ifanc.
A hwythau ddim o gefndir ffermio traddodiadol, roedd yn rhaid i Teleri a Ned brofi eu hunain i'w landlordiaid, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i gael eu derbyn fel y tenant-ffermwyr yma. Trwy waith caled a phenderfyniad, mae'r cwpwl wedi sicrhau tenantiaeth busnes fferm 10 mlynedd. Cyn symud yma, roedd Teleri yn ffermio yn Llyndy Isaf yn Nantgwynant ar ysgoloriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r CFfI. Roedd yn ysgoloriaeth am flwyddyn yn wreiddiol i helpu ffermwyr ifanc i gael troed ar yr ysgol ond arhosodd am 3 blynedd yn rhedeg y fferm fynydd 600 erw, yn cadw defaid Mynydd Cymreig, gwartheg Duon Cymreig ac yn gwneud llawer o waith cadwraeth.
Meddai Teleri: “Ni chefais i na Ned ein magu ar fferm felly roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i naill ai tenantiaeth, cytundeb ffermio cyfran neu ddaliad cyngor, a diolch byth, daeth Hafod y Llyn ar gael yn ystod yr haf roeddwn i'n gadael Llyndy Isaf fel ysgolor y fferm yno. Gwnaethom gais amdano a mynd trwy broses ymgeisio hir ac yn y pen draw roeddem yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae'r ddau ohonom yn parhau i weithio oddi ar y fferm hefyd."
Ar ôl cymryd awenau’r fferm ym mis Hydref 2020, mae'r cwpwl wedi dechrau o’r dechrau i gynyddu’r stoc. “Rydyn ni'n adeiladu ein stoc yn araf. Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddrud i brynu defaid - mae pawb wedi bod yn dathlu'r prisiau, doedden ni ddim cymaint! Felly roedd yn rhyddhad mawr pan gawsom gynnig prydlesu defaid gan ffermwr cyfagos a oedd am ein helpu ni. Rydym yn datblygu’r fuches sugno ac mae gennym gymysgedd go iawn o wartheg. Rydyn ni'n ceisio gweithio allan pa fridiau sy'n gweithio orau ar gyfer ein math ni o system ffermio,” esboniodd Teleri.
Mae'r system ffermio yn bwysig i Ned a Teleri, gyda'r ffocws ar gadwraeth wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon. “Pori cadwraeth sy’n gyfrifol am fy nghael mewn i ffermio. Nid fi yw'r ffermwr mwyaf profiadol o bell ffordd, na'r un mwyaf medrus, ac nid oes gennym lawer o gyfalaf i fuddsoddi yn ein system, ond mae'r rhan fwyaf o'r ffermydd rydw i wedi gweithio arnyn nhw wedi cael ffocws ecolegol. Gweithiais ar fferm ymchwil yn Ffrainc a oedd yn canolbwyntio ar amaethyddiaeth ecolegol. Roedd Llyndy hefyd yn fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwnaethom lawer iawn o waith cadwraethol yno hefyd,” meddai.
Mae'r gwartheg yn chwarae rhan hanfodol yn yr agweddau rheoli tir a chadwraeth yma ar y fferm a phrynwyd y bridiau gan ffermwyr eraill sydd hefyd yn ymwneud â phori cadwraeth. “Rydyn ni’n pori ar amryw o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac ar ardal eang o ucheldir ac o fewn coetiroedd. Hefyd, nid oes gennym unrhyw siediau i gadw’r gwartheg o dan do dros y gaeaf felly mae angen iddynt fod yn galed, yn dawel, yn hawdd eu casglu ac yn gallu gaeafu allan. Mae gennym Belted Galloways, gwartheg Henffordd, gwartheg Duon Cymreig, Dexters, gwartheg Byrgorn, Shetland, White Galloway, Byrgorn Gwyn - mae'n gymysgedd dda. Mae gennym hefyd ddefaid Romney a Defaid Mynydd Cymreig,” eglura Teleri.
Mae'r pori Cadwraeth yn golygu ychydig bach o wartheg ar ardal fawr i ganiatáu aildyfiant ac i goed a llwyni ddod trwyddo. Mae'r anifeiliaid, meddai Teleri, yn bwysig iawn er mwyn darparu cymysgedd o gynefinoedd. “Mae'r gwartheg yn pori rhai ardaloedd yn galetach nag eraill ac yn gadael rhannau eraill.
“Mae'n creu clytwaith o gynefinoedd mewn ardal, megis porfeydd agored lle maent wedi pori a lle mae blodau'n cael cyfle i ddod drwodd, ond mae'n parhau i ganiatáu dilyniant ddigwydd mewn ardaloedd eraill. Mae'n llawer o waith, oherwydd os oes gyda chi nifer fach o wartheg mewn ardal fawr mae'n rhaid i chi ddod o hyd iddynt. Dyna pam mae rhywfaint o daliad i ni wneud hynny mewn rhai ardaloedd. Mae'n cymryd llawer o amser i chwilio am wartheg ymhlith y mieri ond maent yn dda iawn am wella bioamrywiaeth, yn enwedig yn yr ardaloedd uchel sydd ddim wedi gweld gwartheg ers amser maith,” meddai.
Mae'r glaswelltir yma'n llawn rhywogaethau ac mae'r da byw yn rhan o reoli a chynnal yr amgylchedd. “Rydyn ni'n defnyddio'r gwartheg a'r defaid i bori ar rai adegau o'r flwyddyn ac yna'n sicrhau bod gan y tir gyfnod gorffwys hir fel y gall pethau flodeuo, mynd yn hir ac i'r hadau ddod ac yna mae'r anifeiliaid yn ei bori eto.
“Rydyn ni'n defnyddio'r anifeiliaid fel teclynnau cadwraeth i wella bioamrywiaeth a gwella ardaloedd. Mae'n cadw ffrwythlondeb y tir hwnnw hefyd. Chi’n sylwi arno’n syth. Rydyn ni’n pori ychydig o goetir sydd ddim wedi gweld anifeiliaid ers amser maith ac rydych chi'n mynd yno nawr ac mae cymaint mwy o bryfed a chwilod yn dilyn y gwartheg. Mae eu tail hefyd yn bwydo'r pridd a biota.”
Er mwyn gwella'r tir fferm ar gyfer bioamrywiaeth ymhellach a helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, mae'r Parc Cenedlaethol wedi darparu coed ifanc i Ned a Teleri ar gyfer gwrychoedd a choed unigol ychwanegol ar hyd y ffiniau hefyd. “Y gaeaf hwn mae Ned yn mynd i geisio gosod helyg/amaeth goedwigaeth mewn i ddôl frwynog iawn. Mae gennym ni dir gwlyb iawn ac maent yn tyfu mor dda yma. Rydych chi'n cymryd toriadau oddi arnynt, gosod nhw yn y ddaear ac maent yn tyfu. Byddwn yn rhoi cynnig ar hynny oherwydd mae gennym ddiffyg seleniwm a chopr yma ac mae helyg i fod i fod yn dda iawn am ddarparu hynny. Mae Ned yn dweud ein bod yn edrych fel bod ni’n ffermio hipi ond rydym wedi darllen am ba mor llwyddiannus ydyw yn Seland Newydd, felly gobeithio y bydd yn gweithio!” meddai Teleri.
Gyda'r tir yn rhan o'r hen aber, mae'r fferm yn gweld effaith newid hinsawdd yn uniongyrchol. “Rydyn ni’n fferm eithaf peryglus o ran newid hinsawdd gan ein bod ni 3 metr yn unig uwchben lefel y môr, ac rydyn ni’n ddibynnol iawn ar y Bwrdd Ardaloedd Draenio Mewnol. Ers iddynt adeiladu'r cob ym Mhorthmadog, rydyn ni'n artiffisial sych ond mae rheoleidd-dra a difrifoldeb y llifogydd rydyn ni'n eu profi yma wedi cynyddu.
“Fe allwn ni gael storm gan mlynedd bob blwyddyn nawr. Y llynedd cawsom drafferth ofnadwy gyda llifogydd. Roeddwn i’n ymwybodol bod hwn yn ardal wlyb oherwydd rydw i wedi gweithio ar rywfaint o dir yn agos at y fferm hon yn y gorffennol. Pan gyrhaeddon ni yma cawson gyfnod tu hwnt o anodd. Mae'r dolydd ar hyd yr afon yn mynd o dan ddŵr uchder ffens, tua 4 troedfedd. Mae angen i chi fod yn gyflym iawn, symud yr anifeiliaid ac yna trwsio'r ffens ar ôl i'r dŵr fynd. Rhaid i chi fod yn ymwybodol iawn o lefelau'r afon a'r llanw hefyd, gan ei fod yn effeithio ar lefelau'r dŵr yma.
“Dyna hefyd pam rydyn ni’n treulio llawer o amser ac egni ar wella’r priddoedd yma. Mae'n bwysig bod gennym wartheg a defaid yma yn hytrach na chnydau. Mae angen gorchuddio'r pridd yma bob amser. Byddai'n beryglus aredig neu ail-hadu yma. Rhaid amddiffyn y pridd hwnnw. Dyna pam rydyn ni hefyd yn rhoi cyfnod gorffwys hir i'r caeau ac yn sicrhau bod gorchudd da arnyn nhw cyn i ni fynd mewn i'r gaeaf.
“Os daw’r llifogydd i mewn yn gyflym, mae angen symud yr anifeiliaid i le diogel yn syth. Rydyn ni wir ar reng flaen newid hinsawdd.”
Er bod y cwpwl yn gadwraethwyr brwd ac yn gweld budd amlwg o blannu coed, maent yn realistig ynghylch yr hyn sydd ei angen. “Mae hon yn ardal goediog iawn a’r cynefinoedd sydd ar goll yw dolydd sy’n llawn rhywogaethau a blodau gwyllt a phorfeydd gwlyb agored. Ni fyddai'n syniad da i blannu coed yn llwyr a chymryd yr arian sydd ar gael ar gyfer coetir ar hyn o bryd. Yr hyn sydd ei angen ar fywyd gwyllt yma yw tir pori agored, blodau a hadau ar gyfer yr adar. Dyna beth rydyn ni'n canolbwyntio arno. Mae'n cyd-fynd yn berffaith â chynhyrchu cig eidion a chig oen hefyd,” esboniodd Teleri.
Cyn i Ned a Teleri gymryd awenau’r fferm, cynhaliodd ecolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol arolwg o'r planhigion a'r rhywogaethau ar y fferm - roedd y canlyniadau'n galonogol. “Mae gennym ni adar a rhywogaethau gwych fel Glas y Dorlan, dyfrgwn, a thylluan wen yma. Mae gennym hefyd walch y pysgod a llawer o bethau bach hefyd fel Carwy Droellenog, planhigyn prin y mae gennym lawer ohono yma yn y porfeydd gwlyb. Mae blodau Ffárwel haf hefyd yn brin ond mae gennym ni ychydig ohonynt. Mae yna gymysgedd dda yn barod ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ei wella ymhellach,” meddai Teleri.
Mae cadwraeth a gofalu am y tir yn chwarae rhan hanfodol yma yn Hafod y Llyn Isaf, fodd bynnag, mae Teleri a Ned hefyd yn awyddus i sicrhau nad yw cynhyrchu bwyd yn cael ei anwybyddu. “Mae’r gwartheg yn gwneud gwaith gwych gyda’r pori cadwraeth ond ar ddiwedd y dydd, mae’r cynnyrch y gallaf ei gael yn ôl oddi wrthynt o ran arian yn dod o’r bocsys cig eidion a chig oen rydyn ni’n eu gwneud, dim byd arall.
“Mae pobl eisiau prynu’n lleol a chefnogi rhywbeth sy’n gwella’r amgylchedd hefyd. Mae'r bocsys cig eidion wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae hynny'n galonogol iawn. Rydyn ni'n mynd â bustach i Cig Eryri, y lladd-dy bach teuluol lleol, maent yn lladd a thorri, ac yna rydyn ni'n ei labelu a'i ddosbarthu. Maent yn mynd allan mewn bocsys 5kg, sy’n cynnwys briwgig, byrgyrs, stêcs, darnau o gig a chigoedd stiwio. Mae pobl yn eu prynu'n lleol o'r fferm neu weithiau rydyn ni'n defnyddio negesydd i'w hanfon ymhellach i ffwrdd. Rydyn ni'n gwneud yr un peth gyda’r bocsys cig oen,” meddai Teleri.
Gyda chefndir mewn marchnata, mae Teleri yn defnyddio'i sgiliau i’r eithaf ac yn ychwanegu gwerth at eu cynnyrch. “Mae gennym niferoedd bach o stoc ac ardal fach o dir felly mae'n gwneud synnwyr ychwanegu gwerth lle mae modd gwneud hynny. Mae pobl yn cofrestru i dderbyn e-byst ar ein gwefan, yna'n cael e-bost pan fydd gennym gig ar gael. Mae'r grwpiau Facebook lleol wedi bod yn gefnogol iawn, fel Beddgelert a Llanfrothen, ac mae llawer o'r bocsys wedi mynd allan trwy'r grwpiau Facebook hynny."
Mae Teleri yn glir nad yw systemau ffermio fel rhai nhw yn addas ar gyfer pob fferm, oherwydd mae yna lawer o bethau sy’n amrywio ac mae gwerthu’n uniongyrchol yn llawer o waith. “Mae llawer o bobl wedi dweud eu bod nhw eisiau prynu’n lleol. Nid yw'n gweithio i bawb ond gyda’n system ni a'n sgiliau, mae'n gwneud synnwyr bod ni’n eu defnyddio. Os yw’r cwsmer yn chwilio am gynnyrch Cymreig yn benodol oherwydd eu bod yn ymddiried yn y system gynhyrchu honno, yna mae hynny’n gadarnhaol - p'un ai bod hynny’n digwydd trwy'r archfarchnad neu’n dod yn uniongyrchol o’r fferm. Mae llawer ohono'n dibynnu ar ymddiriedaeth a gwybod o ble mae'r bwyd yn dod; ymddiried yn y bobl sy’n gyfrifol am y cynnyrch.
“Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma yn dod â ni un cam yn nes at bobl. Rwy'n adnabod fy nghwsmeriaid a gallwch ofyn am adborth, mae hynny'n braf iawn. Rwy'n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol cryn dipyn felly mae llawer o focsys yn cael eu harchebu ymhellach i ffwrdd ac yn cael eu hanfon trwy negesydd. Mae pobl wedi dilyn y stori drwodd ac maent eisiau'r cynnyrch ar y diwedd. Mae'n braf cynhyrchu rhywbeth y mae pobl ei eisiau, oddi ar y cynefinoedd sydd gennym yma.”
Gwerthodd y bocsys cig allan yn gyflym, ac mae Teleri yn meddwl bod hynny oherwydd bod ganddyn nhw'r gallu i ddangos i bobl ac adrodd eu stori. “Unwaith mae pobl yn ei ddeall ac yn ei weld, maent am ei fwyta. Pam na fyddech chi? Yn enwedig i bobl sy'n mwynhau Cymru fel cyrchfan i dwristiaid - dyna beth rydych chi'n ei weld o'ch cwmpas a'r hyn rydyn ni'n ei gynhyrchu. Nid yw wedi dod ymhell, nid oes ganddo lawer o gydrannau neu wedi'i brosesu'n drwm."
Gan weithio oriau hir a rhoi eu holl amser ac egni yn y fferm, mae Teleri yn teimlo'n rhwystredig gyda'r sgwrs negyddol sy'n aml yn amgylchynu'r diwydiant. “Cyn i bobl farnu a gwneud rhagdybiaethau o'r hyn sy'n digwydd ar y fferm, dewch i weld beth rydyn ni'n ei wneud. Mae'n anodd iawn sefyll yma, ymysg y blodau a’r coetir, a’r gwartheg yn cnoi cul yn hapus a meddwl fel arall.
“Gyda'r cynnyrch rydyn ni'n ei gynhyrchu, y cig eidion a'r cig oen, mae ganddo restr gynhwysion syml iawn: porfa, dŵr, coed a blodau. Dyna beth maent yn bwyta, ac os edrychwch chi ar y cynhwysion hynny a beth sy'n mynd i mewn iddo ac edrych ar yr allbynnau - cynefinoedd a bioamrywiaeth, arian yn dod i mewn i’r economi wledig, bwyd maethlon, teulu a'r gymuned leol yn cael eu cadw'n fyw ac ati, mae'n anodd pwyntio'r bys pe bydden nhw'n dod yma i weld y cyfan.
“Oes, wrth gwrs, mae yna lawer o bethau y gallwn ni eu gwneud i'w wella. Nid wyf wedi cyfrifo ôl troed carbon eto a gwn fod ein gwartheg yn cymryd mwy o amser i besgi nag eraill. Mae yna lawer o bethau y gallwn ni eu gwella ond mae'n rhaid i ni fod yn fwy hyderus yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud eisoes a siarad amdano. Mae Ned a minnau yn meddwl yn gyson am sut a ble y gallwn wella pethau o ran cynhyrchiant a'r amgylchedd. Dyna le mae ein holl amser, egni ac arian yn mynd i. Mae’n ymwneud a meddwl am ffyrdd o wella ein fferm, ac rydych chi wedi gwirioni cymaint ag ynghlwm wrth y darn hwn o dir nes eich bod chi am ei wella ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dyna beth yw ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Gwella'r tir ar gyfer y dyfodol ac mae ffermwyr yn dda am wneud hynny.”