Ychydig filltiroedd y tu allan i Raeadr Gwy, yng Nghanolbarth Cymru, yn swatio rhwng cwm Elan ac afon Gwy, mae fferm Nannerth Fawr, cartref Andre ac Alison Gallagher. Mae'r tŷ fferm un cae o lan yr afon sy’n 2 filltir ac mae'r tir yn ymestyn o'r afon i'r tir comin. Mae'n dir amrywiol ac mae'r fferm 200 erw yn cynnwys 103 erw o laswelltir, gan gynnwys ardaloedd gwlyptir, 62 erw o borfa goed, a 30 erw o goetir, mewn 9 cae ar wahân. Ar hyn o bryd mae'r cwpwl yn ffermio 200 o ddefaid, yn cadw ychydig o geffylau a dofednod, yn ogystal â geifr Boer ar gyfer cig.
Prynodd Andre ac Alison y fferm dros 30 mlynedd yn ôl, trwy dendr wedi'i selio. Heb unrhyw brofiad blaenorol o ffermio, roedd yn rhaid i’r cwpwl ddysgu wrth fynd ymlaen. Mae Alison yn cofio: “Roedd y fferm mewn cyflwr adfeiliedig pan gafodd ei brynu. Nid oeddem yn gwybod y byddem yn llwyddiannus tan y diwrnod y gwnaethom ei gymryd drosodd ac roedd yn dipyn o sioc wrth i wyna gychwyn y diwrnod canlynol yma ar y fferm. Cawsom ein plymio'n syth i wyna yn yr awyr agored ond llwyddwyd yn weddol dda rwy'n credu. Roedd yn help mawr i gael ffrindiau a chymdogion i gael cyngor a chefnogaeth ffermio.”
Yn ogystal â gwella'r fferm ac adnewyddu adeiladau a thŷ'r fferm, mae'r cwpwl wedi gweithio i gynnal cynefinoedd amrywiol a chefnogi bioamrywiaeth ar y fferm. Pan brynon nhw'r fferm roedd llawer o goetir yno’n barod, ffensiwyd hwnnw i ffwrdd, yn ogystal â chreu coetir pellach dros y blynyddoedd. Felly gwarchodwyd y coetiroedd hynafol presennol, derw yn bennaf, ac yn 2013 plannodd y cwpwl hectar arall o rywogaethau brodorol ar lain fach o dir.
Yn 2014 plannwyd 3.5 hectar arall o rywogaethau brodorol ac amgylchynu rhywfaint o’r coetir derw presennol, a oedd gyda'i gilydd yn gyfanswm o 10 hectar. “Fe wnaethon ni adael llennyrch a llwybrau bach fel nad yw'r coetir yn rhy drwchus. Gyda'i gilydd, mae yna gyfanswm o 10,000 o goed. Rydyn ni hefyd wedi gwneud llawer o waith adfer gwrychoedd,” meddai Alison.
“Ar hyn o bryd rydym yn cychwyn ar gynllun i blannu 11 hectar o gonwydd a chollddail cymysg ar ran ogleddol pellaf y fferm. Mae'n serth iawn yno gyda llawer o redyn yn gorchuddio’r mynydd. Mae'n anodd iawn i dda byw ei reoli felly mae'n gwneud synnwyr sefydlu coetir yno. Roeddem hefyd eisiau gwneud y fferm yn fwy cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Roeddem yn teimlo bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i gynhyrchu rhywfaint o incwm yn y dyfodol yn ogystal â'r agwedd gadwraeth,” ychwanega Andre.
Mae cynaliadwyedd y fferm yn bwysig i Andre ac Alison ac mae gofalu am y tir yn chwarae rhan fawr yn hynny. Eglura Alison: “Mae gennym fferm fynydd traddodiadol gyda hanes o fewnbynnau isel megis cemegolion a gwrtaith ac mae'r fferm bellach wedi bod yn organig ers 13 mlynedd.
“Cawsom rai problemau gyda’r ddiadell a etifeddwyd gennym, yn bennaf clwy’r traed a dannedd drwg. Rydyn ni wedi gwella'r ddiadell ac wedi delio â'r problemau hynny. Rydym hefyd yn cael gwared ar ddefaid sy'n tanberfformio ac rydym yn ddetholus iawn yn ein bridio. Mae'r defaid bellach yn edrych yn dda ac yn iach.”
Yn gyffredinol, mae'r cwpwl yn anelu at arferion ffermio cynaliadwy, llai o gost wrth fagu'r da byw, ac i'r system fod yn fewnbwn isel. Rydyn ni wedi torri nifer y defaid i lawr i tua chwarter yr hyn roedden nhw yn wreiddiol ac mae'n ymddangos eu bod nhw'n gwneud yn llawer gwell. Mae'r defaid yn fwy, maent yn dewach, ac mae'r ŵyn yn gwneud yn well hefyd. Erbyn hyn mae yna lawer o borfa ar eu cyfer ac rydyn ni'n eu symud o gwmpas mwy. Rydyn ni'n gwneud gwair ein hunain ar y dolydd gwair hynafol a dim ond yn bwydo gwair ac ychydig o ddwysfwyd ynghyd â mwynau dros y gaeaf, yn enwedig ar gyfer defaid sy'n disgwyl ac yn magu efeilliaid,” esboniodd Andre.
O ran gofalu am laswelltir y fferm, mae Andre yn falch o'r dolydd hynafol yma yn Nannerth. “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cynnal ein dolydd hynafol. Ar ôl bod mewn cynllun Ardal Amgylcheddol Sensitif, ac yna yn Tir Gofal yn y gorffennol, rydyn ni nawr yn Glastir Uwch, felly dydyn ni ddim yn torri'r dolydd gwair hynny tan ganol mis Gorffennaf. Nid ydym yn eu pori am fis ar ôl hynny ac ddim yn defnyddio gwrtaith wedi'i brynu i mewn. Rydyn ni ond yn defnyddio calchfaen daear, a hynny os oes angen,” meddai.
Dangosodd arolwg a gynhaliwyd ar y dolydd flynyddoedd lawer yn ôl fod dros 60 o rywogaethau o blanhigion yn tyfu yno. Er bod y cnwd yn ysgafn, dywed Andre fod y borfa cystal ag y gall fod. “Mae'n well o lawer gan y defaid a'r geifr y gwair i unrhyw beth arall. Roedd yn rhaid i ni brynu ychydig o fyrnau llynedd, er mwyn ychwanegu at y porthiant, ac nid oedd gan y geifr ddiddordeb yn y rhygwellt. Maent wedi cael eu sbwylio’n fawr nawr.”
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n dod yn ôl yn fuan i wneud arolwg arall, gan gynnwys y mwsoglau a rhai cen prin iawn sy'n tyfu yn y coed ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld beth fyddant yn darganfod. Mae'n debyg ein bod ni mewn hinsawdd ficro yma, mewn tipyn o bant wrth ymyl yr afon a rhwng y mynyddoedd, mae'n ymddangos bod hyn yn rhwystro’r llygredd aer, sy'n ddiddorol oherwydd ein bod ni'n weddol agos at yr A470,” ychwanega Alison.
Mae tua 66 rhywogaeth o adar yn galw'r tir o amgylch y fferm yn gartref iddynt ac mae Andre ac Alison wrth eu bodd gyda’r adar sy’n ymweld dros yr haf, fel Gwybedog Brith a’r Tingoch. “Maent yn nythu yma, yn magu’r rhai bach ac yna'n mynd i ffwrdd eto. Gosodais 150 o focsys adar tua 20 mlynedd yn ôl ac yn rhyfeddol roedd gan y 50 cyntaf adar ynddynt o fewn wythnos,” meddai Andre.
Mae’r gwyfyn Cliradain Cymreig hefyd yn ffynnu yn Nannerth Fawr. “Mae’n defnyddio’r coed bedw aeddfed yn agos at yr afon. Gallwn weld lle maent wedi gwneud tyllau a’r crysalis yn dod allan. Mae’r tir wedi cael ei ffermio’n helaeth ers amser maith ac mae’n braf gweld cymaint o amrywiaeth o rywogaethau yma,” meddai Alison.
Er bod y cwpwl yn cefnogi bioamrywiaeth yn frwd ac yn ymwybodol iawn o ddirywiad rhywogaethau, maent yn cydnabod rôl bwysig da byw. “Pe na bai’r tir yma yn cael ei bori byddai wedi gordyfu yn gyflym iawn. Yn y gwlyptiroedd yr ydym wedi'u sefydlu, mae gwellt y gweunydd a'r brwyn wedi lledaenu'n rhy helaeth a gallent feddiannu'r 5 hectar cyfan. Rydym nawr yn bwriadu torri a phori mwy o'r gwlyptir a'r pwll.
“Yn y gwlyptiroedd rydym wedi creu 15 pwll sy'n darparu cynefin da i 17 rhywogaeth o was y neidr, amffibiaid a rhai adar dŵr. Mae'r gwlyptiroedd yn cael eu pori gan 2 ferlen ond mae angen i ni gynyddu ychydig ar yr anifeiliaid sy’n pori. Mae'n rhaid i chi gael rhywfaint o stoc sy’n pori, fel arall mae'n troi'n jyngl gwyllt a does dim byd yn ffynnu,” esboniodd Andre.
Ychwanegodd Alison: “Rydym yn ceisio gwneud cymysgedd o bethau. Ffermio sy'n cyd-fynd â chadwraeth, cadwraeth sy'n cyd-fynd â ffermio. Roeddem yn lwcus yma; roedd y gwlyptiroedd i lawr y gwaelod gyda mawndir, coetiroedd brodorol gyda derw hynafol wrth ymyl yr afon. Rydyn ni wedi adeiladu ar y rheini, ac mae hynny wedi cynyddu bioamrywiaeth ar y fferm.”
Gan gadw amgylcheddau iach mewn cof, mae Andre ac Alison hefyd yn cadw gwenyn. “Mae blodau'r ddôl yn darparu porthiant i'r gwenyn sy'n beillwyr hanfodol yn y gadwyn fwyd. Mae gwenyn mêl hefyd yn hoffi bwydo ar y grug lleol ac rydym wedi plannu coed pisgwydden deilen fach sy'n dda iawn ar gyfer y pryfed peillio cynnar. I’w cysur nhw a'n un ni, fe wnaethon ni adeiladu tŷ gwenyn y llynedd, sy'n amddiffyn y cychod gwenyn rhag stormydd, gwynt a glaw,” meddai Andre.
O ran cynhyrchu bwyd, mae'r cwpwl yn glir na fyddai unrhyw beth heblaw da byw yn gweddu i'r tir. “Nid oes gennym lawer o opsiynau o ran yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu yma. Rydyn ni'n rhy uchel i dyfu llysiau a chnydau eraill yn llwyddiannus ond yr hyn y gallwn ni ei dyfu yw porfa. Mewn gwirionedd, mae magu da byw yn addas ar gyfer ein fferm ac mae porfa yn sinc carbon. Mae gan ein hanifeiliaid fywyd da, rydyn ni'n organig ac mae'r da byw yn cael eu bwydo ar borfa. Cyn belled ag y mae'r cig yn mynd, mae mor iach ac mor gynaliadwy ag y gall fod,” meddai Alison.
"Fel eiriolwyr cryf dros fwyd o ansawdd da, rydyn ni'n osgoi bwydydd a chig wedi'i brosesu'n drwm. Mae'n dda clywed bod pobl yn gynyddol yn gwneud dewisiadau cynaliadwy yn y bwyd maent yn ei brynu a'u diet. Yn ein barn ni, mae'n well cael cig lleol o ansawdd da dwy neu dair gwaith yr wythnos na chig o ansawdd gwael wedi'i brosesu bob dydd. Mae ffermio da byw, yn ein ffordd ni yma yng Nghymru, yn weddol gynaliadwy a byddwn yn annog defnyddwyr sy'n pryderu i chwilio am gynnyrch Cymreig sydd wedi ei dyfu yma, ” meddai Andre.
Gyda chyngor cyson i ffermwyr i arallgyfeirio er mwyn goroesi ac yn manteisio ar brofiad blaenorol o redeg gwesty fe wnaeth Andre ac Alison arallgyfeirio i fythynnod gwyliau hunanarlwyo gan ddechrau bron i 30 mlynedd yn ôl. “Mae ffermio yn galed iawn, yn enwedig ar gyfer ffermydd llai fel ein un ni. Mae'n rhaid i'r mwyafrif arallgyfeirio i gadw pethau i fynd. Ychydig iawn o ffermydd sydd o gwmpas yma sydd wedi goroesi ar incwm ffermio yn unig. Gyda'r newidiadau i'r system gymorth a chytundebau masnach posib gyda gwledydd sydd â safonau gwahanol, ni fydd chwarae teg. Felly rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein busnes twristiaeth fferm amrywiol, gan geisio gwella rhywbeth bob blwyddyn,” esboniodd Alison.
“Pan ddaethon ni yma roedd yn amlwg bod hwn yn lleoliad delfrydol i bobl ddod ar wyliau. Mae ffermio wir yn cyd-fynd gyda thwristiaeth. Nid yw pobl yn gweld anifeiliaid fferm mwyach a dim ond yn meddwl am ffermio fel yr hyn a welant ar y teledu, gan gynnwys ffermydd gwartheg dwys, heb borfa o gwbl. Mae ein gwesteion yn cael teimlad go iawn o beth yw fferm fynydd yng Nghymru,” meddai Andre.
Gyda thwristiaid o bell ac agos yn dod i aros yn Nannerth, mae Andre ac Alison yn mwynhau'r cyfle i ddangos i bobl beth yw pwrpas ffermio yng Nghanolbarth Cymru. “Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod yma yn hoff iawn o'r anifeiliaid ac mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn sut mae ffermio yn yr ardal hon yn gweithio. Maent eisiau fferm go iawn ac rydyn ni'n fwy na pharod i helpu ein gwesteion i ddeall yn well beth yw pwrpas ffermio, cadwraeth a chynhyrchu bwyd yma,” ychwanegodd.
“Mae ffermio yn waith caled ac mae llawer o feddwl ac ymdrech yn mynd i mewn i'r hyn rydych chi'n ei wneud ar gyfer y dyfodol. Pe byddech chi'n cyfrifo beth oedd eich incwm, byddai’n ddau swllt a chwe cheiniog (hanner coron) yr awr mewn hen arian. Mae pobl wrth eu bodd â'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma ac yn rhyfeddu bob amser at y gwahanol sgiliau sy'n rhaid i chi eu cael a'r ffaith eich bod chi allan bob dydd waeth beth yw'r tywydd.
“Mae pobl hefyd yn hoffi helpu gydag wyna ac mae llawer wedi cael amser gwych yn helpu dros y blynyddoedd - rwy’n credu mai 27 mlynedd o wyna yw’r record ar gyfer un teulu. Mae'r plant yn cymryd rhan ac maent yn gwirioni gyda'r broses geni, bondio a sugno. Maent yn dysgu trwy weld a gwneud - mae'n ymarferol!
“Cadw twristiaeth i fynd, gofalu am y tir, hyrwyddo bioamrywiaeth a chynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon yw'r hyn y mae bod yn gynaliadwy yn ei olygu i ni,” meddai Alison.
“Mae yna gyfrifoldeb ehangach hefyd oherwydd ei bod yn hanfodol bwysig helpu i wyrdroi newid hinsawdd a dirywiad rhywogaethau er mwyn cynnal y blaned rydyn ni i gyd yn dibynnu arni. Gweithio ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer y genhedlaeth nesaf yw'r hyn y mae ffermwyr wedi'i wneud erioed. Mae bellach yn bwysicach nag erioed,” ychwanega Andre.