Yn gorwedd o fewn Gwarchodfa Natur 400 acer Waun Las ger Caerfyrddin, mae clytwaith o weirgloddiau llawn blodau, coetiroedd a rhaeadrau ysblennydd – a fferm Pantwgan. Mae’r fferm organig hon yn rhan o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac mae’n cael ei rhedeg dan lygad barcud y rheolwr fferm arweiniol, Huw Jones. Mae gofalu am yr amgylchedd, cynnal cynefinoedd amrywiol a chynhyrchu bwyd yn hollbwysig.
Yma mae Huw yn gofalu am fridiau traddodiadol megis Gwartheg Duon Cymreig a defaid Balwen. Gan ddisgrifio’r rôl maent yn ei chwarae yn rheoli’r cynefinoedd a’r warchodfa natur dywed: “Maen nhw’n gwbl allweddol i’r hyn ry’n ni’n ei wneud yma. Ry’n ni’n ffermio i gael bioamrywiaeth, dyna pam ry’n ni ‘ma. Ond wrth ffermio i gael bioamrywiaeth mae’n rhaid ichi gael da byw, mae ‘na gysylltiad annatod rhwng y ddau.”
Gyda niferoedd cymharol isel o dda byw, sef dim ond 70 o wartheg dros yr haf a 60 o famogiaid, mae’r fferm wedi bod yn organig am yr un mlynedd ar hugain diwethaf. Gydag ond ychydig o adeiladau i gadw’r defaid a’r gwartheg, mae Huw yn defnyddio’r fuches a’r ddiadell i’w potensial eithaf ar y 360 acer o laswelltir parhaol.
“Bydd llawer o bobl, o weld yr aceri sydd gennym yn erbyn y lefelau stocio, yn meddwl nad oes gennym ddigon o stoc o bell ffordd, ac mi all hynny fod yn wir. Ond heb y defaid a’r gwartheg, a’r pori wedi’u dargedu a wneir ganddynt, ni fyddai’r dirwedd hon gennym. “Heb yr anifeiliaid hyn yn pori, ac yn rheoli’r glaswelltir fel y maent, yn syml, fydden ni ddim â’r dirwedd amrywiol sydd gennym heddiw,” ychwanega Huw.
Sefydlwyd y fferm yn 1998, pan gymerodd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol y brydles ar y tir. Cenhadaeth graidd yr ardd o’r dechrau oedd bioamrywiaeth, addysg a chadwraeth. “Roedd angen y tir ffermio arnom i gyflawni’r genhadaeth honno. Felly, mi sefydlwyd y fferm yn gynnar iawn yn ystod y blynyddoedd cyntaf, ac ers hynny rydym wedi gweithio tuag at gadwraeth, bioamrywiaeth ac addysg,” esbonia.
Cyn dechrau ar ei yrfa ffermio amser llawn, aeth Huw i goleg amaethyddol. Ond am nad oedd ffermio’n talu’n dda, doedd dim digon o waith i’w gadw ar fferm 90 acer ei rieni ar ôl iddo raddio. “Doedd dim gwaith o gwmpas ar ffermydd lleol felly mi fues i’n gweithio mewn ffatri ychydig filltiroedd i lawr y ffordd. Rhywbeth dros dro oedd hynny i fod, ond treuliais pedair blynedd yno, doedd e’ ddim yn iawn ar fy nghyfer i. Ro’n i am ffermio. Fel mae’n digwydd, daeth y swydd hon ar gael pan o’n i’n gadael y ffatri ac mi fachais ar y cyfle. Sa’i ‘di edrych nôl,” meddai Huw. 17 mlynedd yn ddiweddarach dyw e’ dal ddim wedi edrych yn ôl, ac mae’n llawn balchder am y gwaith sy’n cael ei wneud ar dir fferm Pantwgan.
“Mae’n dda iawn fan hyn. Mi wnaethon ni sefydlu’r Warchodfa Natur Genedlaethol yn ôl yn 2008. Roedden ni am iddo fod yn SoDdGA i ddechrau, ond ar yr adeg honno doedd ganddon ni mo’r nifer o rywogaethau oedd eu hangen. Yn y pen draw roedd hynny’n beth da iawn oherwydd mae’r cyfyngiadau a ddaw yn sgil statws SoDdGA yn rhai llym iawn ac mi gafon ni statws Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn 2008,” meddai Huw.
Cadw’r Warchodfa Natur Genedlaethol i fynd ac i ffynnu yw canolbwynt y gwaith sy’n cael ei wneud yma, ond ni fyddai dim o hyn yn digwydd heb y da byw, oherwydd maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer pori sydd wedi’i dargedu. Beth sy’n dda yma yw bod gennym ddigon o hyblygrwydd i dreialu pethau newydd. Mi allwn ni roi cynnig ar unrhyw beth a ddymunwn, mwy neu lai, ac ry’n ni’n treialu prosiectau ar raddfa fach,” esbonia Huw.
Budd arall i’r Warchodfa Natur Genedlaethol a’r ffordd mae’n cael ei rheoli drwy arferion pori yw’r mathau amrywiol o Gapiau Cwyr sydd i’w gweld ar y caeau erbyn hyn.
“Ry’n ni wedi cofnodi dros 40 o fathau gwahanol o ffwng glaswelltir ar un o’n caeau, gyda 10 ohonynt â’r un statws cadwraeth rhyngwladol â llewpard yr eira, arth y gogledd, ych gwyllt Ewropeaidd a’r orangwtan Swmatraidd.
“Mae’r Capiau Cwyr hyn, sy’n brin yn rhyngwladol, wedi dechrau lledaenu ar draws y safle ers inni ddechrau rheoli’r fferm mewn ffordd organig, ac yn sgil y pori strwythuredig a wnawn ni,” meddai Huw.
I gynnal a gwella bioamrywiaeth ymhellach, nid yw’r tir yn cael ei aredig ac fe’i cedwir yn borfa barhaol. Hefyd, mae gweirgloddiau’n llawn blodau gwyllt wedi dod yn eu hôl, dros ardal o 40 acer erbyn hyn. Ac mae ‘na fwy i weirgloddiau blodau gwyllt nag y tybiwn. Esbonia Huw: “Ry’n ni’n gwneud gwaith ymchwil DNA eithaf diddorol yma, yn edrych ar fywyd ym mhriddoedd ein gweirgloddiau o’i gymharu â gwarchodfeydd natur a glaswelltir mwy dwys mewn rhannau eraill o Gymru. Ry’n ni’n gobeithio deall mwy am y ffordd mae ein ffermio llai dwys o fudd i’r bioamrywiaeth o dan ein traed, a sut mae’n creu ecosystem ffermio mwy cydnerth.
“Mae ‘na ddiddordeb cynyddol hefyd yn y ffaith bod gweirgloddiau gwair neu borfa barhaol â strwythur gwreiddiau gwell, sy’n helpu i gloi carbon yn y pridd. Mae bron fel coedwig tanddaearol.
“Wrth reswm, os ydych chi’n tyfu coed, yna ar ryw adeg mi fyddwch chi’n torri’r coed hynny i lawr, sy’n rhyddhau llawer o’r carbon sydd wedi’i storio. Ar y llaw arall, os oes gennych chi dir pori parhaol sy’n cael ei reoli gan dda byw, mae’r carbon yn cael ei ddal yno’n barhaol. Mae hynny’n well o lawer i’r amgylchedd dros y tymor hir. Pe bai pawb yn rheoli’r borfa a’r glaswelltir yn y ffordd honno mi fyddai gennym ddyfodol llawer gwell yn fy marn i.”
Hefyd, mae gwirfoddolwyr cadwraeth yn monitro amrywiaeth y rhywogaethau yn y gweirgloddiau. “Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud llawer o waith yn edrych ar y gweirgloddiau, ac yn cadw cofnod o’r rhywogaethau gwahanol neu rywogaethau newydd sydd gennym yno. Dros y blynyddoedd ar un o’n gweirgloddiau gwair, mi ddechreuon ni gydag ychydig o fathau gwahanol o degeirian ac yna ymhen blynyddoedd, roedd gennym dros 1000 o degeirianau yn un cae,” medd Huw.
Nid yw’r gwaith ar y gweirgloddiau gwair yn dod i ben yn y fan honno, a gwnaed llawer o ymchwil ar wneud gwair gwyrdd. Mae’r fferm erbyn hyn yn gwneud elw da yn gwerthu hadau blodau gwyllt i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, penseiri tirlunio, a phobl sy’n rheoli cloddiau ffyrdd.
Gan esbonio’r broses, dywed Huw: “Os ydyn ni am dargedu math arbennig o flodyn – fel crib ceiliog er enghraifft, sy’n dda iawn – mae’n ffynnu ar laswelltir. Mae fel parasit sy’n helpu i adfer gweirgloddiau gwair. Rydym yn torri hwnnw ym mis Medi gyda pheiriant torri gwair amaethyddol, yna’n ei gasglu gyda wagen borthiant ag ochrau iddi, ac yn ei symud i’r ardal lle rydym am greu gweirglodd newydd.
“Yna byddwn yn ei chwalu ar draws y glaswelltir hwnnw gyda pheiriant gwasgaru tom sy’n arllwys o’r cefn. Wedi hynny byddwn yn dechrau trin y cae arbennig hwnnw fel gweirglodd wair, sy’n golygu na fydd unrhyw stoc yn ei bori o ddiwedd Ebrill ymlaen.
“Ry’n ni’n gadael i’r blodau dyfu, i wneud eu rhan, a gollwng eu hadau. Yna byddwn un ai’n ei bori, neu yn ei dorri a’i gasglu, oherwydd beth sydd ei angen yw lleihau’r maetholion gymaint â phosib ar y cae hwnnw a gadael i natur wneud ei gwaith.
“Ar ôl dwy neu dair blynedd mi ddaw’r crib ceiliog i’r golwg. Mi fydd hwnnw’n ffrwydro’n sydyn, wrth iddo fwydo oddi ar yr holl fathau egnïol eraill o laswellt. Yna, ymhen amser, bydd yr holl rywogaethau eraill yn dechrau cyrraedd am fod yr holl laswellt tâl wedi mynd ac mae’r dirwedd yn fwy agored iddyn nhw dyfu.
“Mae llawer o bobl a sefydliadau eraill â diddordeb yn hyn, ac mae’n dod yn ffynhonnell incwm ychwanegol ar y fferm. Maen nhw am brynu’r hadau ac ry’n ni’n gallu eu gwerthu iddyn nhw. Mae’n ffynhonnell fach gyffrous iawn.”
Am fod y rhan fwyaf o’r tir o fewn parc, mae Huw yn gweld bod yna fudd mewn coed, ac mae’n awyddus i gynyddu maint y carbon sy’n cael ei ddal ar y fferm. Dywed: “Nid yw plannu coed yn rhywbeth gwrthun o gwbl. Ry’n ni wrthi’n gyson yn plannu gwrychoedd ac mae ‘na gryn dipyn o blannu coed sbesimen yn digwydd yma hefyd. Dy’n ni ddim yn dweud bod plannu coed yn beth gwael. Dim ond bod yr ymchwil yn awgrymu bod porfa barhaol yn dal mwy o garbon na choed. Felly mae’n rhaid cael y goeden iawn yn y lle iawn.”
Gyda’r holl waith a wneir ar y fferm, mae cynaliadwyedd yn allweddol. Fodd bynnag, mae Huw yn teimlo y gallent wneud mwy i wella’u hygrededd o ran cynaliadwyedd. “Dy’n ni ddim yn agos at fod mor gynaliadwy ag yr hoffwn i fod. Ry’n ni’n dal i ddefnyddio offer sy’n rhedeg ar ddiesel a dy’n ni ddim yn defnyddio ynni solar a gwynt gymaint ag yr hoffwn. Mae hynny’n rhywbeth ry’n ni’n edrych arno, a’r gobaith yw newid y seilwaith,” meddai.
Fodd bynnag, nid cadwraeth yw’r unig ystyriaeth yma ar y fferm. Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yr un mor bwysig i Huw. “Ry’n ni’n hoffi cadw popeth mor lleol â phosib. Mae cwtogi ar y milltiroedd bwyd yn beth mawr i mi. Roedd gennym gynllun bocs cig uniongyrchol cyn daeth Covid, oedd yn gweithio mor dda. Yn anffodus, mi ddaeth hwnnw i ben yma, ond mi fydden i’n hoffi ei ail-sefydlu.
“Yn amlwg, mae hynny hefyd yn creu cysylltiad arall rhyngom ni â’n cwsmeriaid a’n hymwelwyr. Mae gwerthu’r cig yn uniongyrchol o’r fferm, drwy’r Ardd Fotaneg, yn ddelfrydol ar gyfer y berthynas honno. Gall pobl weld ble mae’r bwyd yn cael ei gynhyrchu wrth iddyn nhw gerdded o gwmpas.”
Mae’r fferm mewn sefyllfa unigryw am fod gan ymwelwyr fynediad uniongyrchol at y tir, a gallant weld y da byw drostyn nhw’u hunain. Mae Huw o’r farn bod hyn yn bwysig o ran y ffordd mae pobl yn gweld y diwydiant. “’Ry’n ni’n newid meddylfryd cymaint o bobl am amaethyddiaeth a ffermio, a sut mae’n gweithio yn nhermau bioamrywiaeth, a’r cysylltiad sydd rhwng y ddau.
“Mae llawer o bobl yn llawn amheuon wrth ddod yma, ond maen nhw’n treulio hanner awr neu awr yn cwrdd ag oen, yn cwrdd â dafad, ac yn dysgu sut mae’r rheiny o fudd i fioamrywiaeth. Pan fyddan nhw’n gadael, mae ganddyn nhw ddealltwriaeth gwbl wahanol o amaethyddiaeth a sut mae’n cydfynd â’r amgylchedd.”
Un sgil-gynnyrch ar y fferm y mae Huw’n awyddus i ddod o hyd i ddefnydd pellach ohono yw gwlân y defaid Balwen. Ar hyn o bryd mae’n cael ei ddefnyddio yn yr Ardd Fotaneg yn unig i’w roi o gwmpas y planhigion fel dull naturiol o gadw’r falwen ddu i ffwrdd, ond mae’n gobeithio y gellir ei ddefnyddio i wneud dillad a rygiau. “Am fod gan y ddafad Balwen gnu du, nid yw’r Bwrdd Gwlân yn fodlon ei gymryd, ac yn bendant nid yw’n fodlon talu amdano. Mae bron â bod yn gynnyrch gwastraff inni yn anffodus.
“Ry’n ni wedi chwilio, yn ofer, am bobl all ein helpu i’w nyddu i greu rygiau, siwmperi, carthenni, unrhyw beth y gallwn ei werthu yn y siop neu ar y wefan. Yn anffodus, ry’n ni wedi methu â dod o hyd i unrhyw un, felly ar hyn o bryd mae’n cael ei ddefnyddio yn y brif ardd yn unig. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer hynny ond byddem yn hoffi dod o hyd i ffordd o’i droi’n gynnyrch ymarferol, fel bod pobl yn gallu defnyddio gwlân – gwlân pur – yn hytrach na phrynu stwff synthetig.
Mae Huw yn llawn cyffro am ddyfodol fferm Pantwgan. Dywed: “Mae dyfodol y fferm yn gyffrous. Mae gennym gymaint o gyfleoedd i dreialu pethau, i edrych ar y wyddoniaeth ac ystyried sut allwn ni fwydo poblogaeth sy’n tyfu o hyd mewn ffordd gynaliadwy. Rhaid inni sicrhau cydbwysedd rhwng cadwraeth â bwydo pobl, ac rwy’n hynod o gyffrous fy mod i’n rhan o’r broses o ddod o hyd i atebion i’r broblem honno.”