Boed hynny o goedwigaeth, newidiadau demograffig yn y gymuned neu bolisïau’r llywodraethau, mae ein hardaloedd mwyaf anghysbell yn wynebu heriau a bygythiadau posib nas gwelwyd erioed o'r blaen.
Yn fwy nag erioed, mae ffermwyr yng Nghymru yn gyfrifol am ddiogelu ein tir a’n cymunedau ac mae Cwm Penmachno yn enghraifft berffaith o hyn.
Yn fasn o fryniau crwn ym mhen uchaf Dyffryn Conwy, roedd Cwm Penmachno yn gartref i gymuned amaethyddol o dyddynnod hunangynhaliol, gweithgar a llewyrchus.
Mae’r pentyrrau o wastraff llechi i’w gweld o hyd yn y cwm, yn atgoffa rhywun o’r chwareli hynny a sefydlwyd ym 1880. Mae'r ffermydd fel petai nhw wedi rhewi mewn amser, ond mae'r cefndir yn flanced werdd dywyll o goedwigaeth a blannwyd fel rhan o gytundeb i setlo trethi marwolaeth yr Arglwydd Penrhyn ym 1951.
Mae'r ffermwr lleol Robert Davies yn cofio ei dad, chwarelwr, yn arwyddo prydles ar fferm 240 erw oedd yn eiddo i'r Arglwydd Penrhyn na chafodd ei throsglwyddo fel rhan o gytundeb trethi marwolaeth, a gorchmynnwyd ef bron ar unwaith gan y llywodraeth i dyfu cnydau i helpu'r ymdrech ar ôl y rhyfel. Erbyn hyn, rhyngddynt, mae ganddo ef a'i fab Gwynfor fwy na 130 mlynedd o brofiad o ffermio yn y cwm.
Roedd y ffermydd i gyd yn dra gwahanol i’r hybiau technegol yr ydynt erbyn heddiw. Roedd y mwyafrif ohonynt yn cael eu hamaethu i dyfu bwyd i chwarelwyr a'u teuluoedd ac roedd ceffylau'n gwneud gwaith y fferm. Ond roedd pethau ar fin newid.
“Ym 1947 dechreuodd gwerthwr tractor ddod o amgylch yr ardal a llwyddodd i werthu un i Fferm Y Foel. Yn y blynyddoedd ar ôl hynny dechreuon ni gyd brynu tractorau. Yn y dyddiau hynny byddai Fergie Fach yn costio £325 a byddai aradr yn costio £25, felly am £350 roedd gennych yr offer i wneud y gwaith o aredig gymaint haws,’’ meddai Robert.
Fodd bynnag, nid oedd ceffylau yn gwbl ddiangen. Gofynnwyd yn aml i Robert helpu gydag achlysuron pwysig eraill yn y pentref. “Pan roedd angen mynd â’r hers i’r fynwent byddwn yn mynd â’r ceffyl i’w thynnu. Rwy’n cofio unwaith gofynnwyd i mi fynd i ddwy angladd ar yr un diwrnod ond cymerodd gwasanaeth yr angladd cyntaf ychydig yn hirach na'r disgwyl. Roeddwn yn gwybod bod gen i ail angladd i'w wneud felly roedd yn rhaid i mi frysio wrth dynnu’r hers.
“Roedd hi’n reit ddoniol clywed gan fy nhad wedi iddo fod yn gweithio yn y chwarel y dydd Llun canlynol bod llawer o’r galarwyr wedi bod yn cwyno fy mod yn mynd yn rhy gyflym gan eu bod yn ceisio cerdded y tu ôl i’r hers ac yn ei chael hi’n anodd cadw fyny. Bron yn rhedeg”.
I Dafydd Gwyndaf, sy'n byw tafliad carreg oddi wrth Robert, mae'r straeon am newid yn yr ardal yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall. Ef yw'r drydedd genhedlaeth i ffermio Llechwedd Hafod, ac mae ei deulu wedi byw yn y cwm ers ymhell cyn hynny.
Mae mewn sefyllfa unigryw i sylwi ar y newidiadau ar draws y cenedlaethau. “Fi yw’r drydedd genhedlaeth ar y fferm hon ac roedd y teulu yn y cwm cyn hynny. Mae fy ngwreiddiau yn ddwfn iawn yma yng Nghwm Penmachno” meddai.
Mae’n cofio pan oedd y cwm bron yn gyfan gwbl Gymraeg: “Sefydlwyd cangen gyntaf erioed yr Urdd yma, roedd yna ddau gapel ac eisteddfodau blynyddol yn cael eu cynnal yn y pentrefi. Rwy'n cofio'r teulu cyntaf o Loegr yn dod i fyw yma ac ymhen ychydig wythnosau roedd y ddau blentyn yn rhugl yn y Gymraeg. Roedd hi’n naill a’i hynny neu ddim oherwydd prin ein bod ni'n gallu siarad unrhyw Saesneg o gwbl.”
Mae'r awydd diweddar am gynaliadwyedd a lleihau milltiroedd bwyd yn rhoi gwên ar ei wyneb.
“Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn cyflenwi cigydd lleol yn Llanrwst, sef O.E Metcalfe, yn uniongyrchol. Nid oes unrhyw beth yn cael ei wthio yn ormodol. Mae'r milltiroedd bwyd yn isel iawn, dim mwy na deuddeg milltir. Yn aml iawn gallwch ddilyn y cynnyrch o’r fferm yr holl ffordd lawr i westai ym Metws y Coed. Mae'n syml ond mae'n gweithio. Cig eidion da o Gymru.”
Mae Dafydd yn cofio amser pan oedd y gadwyn fwyd hyd yn oed yn fwy lleol: “Byddai lladd-dŷ yn y pentref. Byddai un ym Mhenmachno hefyd, dim ond tair milltir i ffwrdd. Arferai’r cigydd fynd o amgylch yr ardal gyda’i fan mor bell ag Ysbyty Ifan.
“Roedd yna groser hefyd a fyddai’n mynd o amgylch y ffermydd mewn fan ddwywaith yr wythnos. Os oeddech chi eisiau mwy o unrhyw beth, fe allech adael nodyn wrth y giât neu ddweud wrth rywun yn y capel ar ddydd Sul, a byddech chi'n siŵr o'i gael.”
Wrth i fywyd yn y cwm esblygu a nifer y ffermydd yn dechrau lleihau oherwydd uno daliadau bach, roedd yn ymddangos y byddai coedwigaeth a’r coedwigoedd a oedd yn ehangu o hyd, yn arwydd o ddyfodol y cymunedau. Ni allai'r hyn a ddigwyddodd fod wedi bod mor wahanol.
Ar un adeg roedd Cyril Lewis yn ffermio cymaint â naw tyddyn yn yr ardal, pob un ohonynt yn arfer bod yn eiddo i'r Comisiwn Coedwigaeth, ond bellach wedi’u gwerthu. Mae'n cofio sut roedd Cwm Penmachno yn gymuned ffyniannus o ffermwyr a chwarelwyr llechi.
“Pan ddechreuodd y goedwigaeth yma, rhoddwyd gobaith inni, gan fynnu y byddai coedwigaeth yn cynnig mwy o waith nag amaethyddiaeth. Yn anffodus, nid dyna'r achos. Ar ôl i chi blannu'r coed, yn y DU mae'n cymryd tua deugain i hanner can mlynedd iddynt dyfu'n ddigon mawr i gael eu cynaeafu. Felly does bron dim gwaith ar y tir dros y cyfnod hwnnw o gwbl.
“Y dyddiau yma os oes angen gwneud unrhyw waith mawr yn y coedwigoedd mae contractwyr o bell yn cael eu cyflogi i wneud y gwaith. Rwy'n cofio 60 o bobl yn gweithio yn y Goedwigaeth ym Mhenmachno. Nid oes yr un yma erbyn heddiw a dim ond dau weithiwr coedwigaeth sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw ar draws Dyffryn Conwy gyfan.”
Felly, beth am y dyfodol? Mewn sawl ffordd, mae Cwm yn ficrocosm o ffermio tir uchel yn bennaf, system hybrid o ddarparu digon o fwyd o ansawdd uchel am bris isel, a gofalu am yr amgylchedd.
Nid yw'r haul wedi machlud yn y cwm eto, ac mae ffermwyr ifanc yn parhau i fod yn awyddus i ymgymryd â her ffermio fodern yng Nghwm Penmachno.
Yn eu plith mae Iwan Jones. Ond, fel cynifer o'i gyfoedion, mae'n ymgymryd â'r her yn rhan-amser.
Dwy flynedd yn ôl cymerodd ef a'i bartner Gwawr denantiaeth o fferm Carrog, tyddyn 80 erw yn rhan uchaf Cwm Penmachno. Mewn ffordd sydd yn dod yn fwy a mwy cyffredin yn y diwydiant, mae Iwan yn cyfuno'r brif fferm â darn arall o dir yn agosach at yr arfordir, a chanddynt hefyd hawl i bori 300 o ddefaid ar dir comin yn y Cwm, ac mae'n gobeithio cadw buches fach o wartheg bîff yn y blynyddoedd i ddod.
Mae hefyd yn gweithio pum niwrnod yr wythnos er mwyn ychwanegu at incwm y fferm. “Nid wyf yn credu y gallwn wneud hyn heb weithio’n llawn amser. Dyna’r brif ffynhonnell incwm, dyna be dwi’n wneud rŵan a dyna be dwi wedi arfer i wneud. Codi yn y bore, mynd i'r gwaith, dod adref ac yna gwneud ychydig o waith gyda'r nos. Rwy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith ar ddydd Sul” meddai.
Mae Credig Morgan yn un arall o'r genhedlaeth newydd, yn gweithio ochr yn ochr â'i rieni, Heddwyn a Buddug Morgan ar eu fferm 450 erw, Pen y Bont. Ond mae Credig wedi darganfod mai'r ffordd fwyaf effeithiol i fynd i'r afael â'r problemau a godir yn sgil y tir gwael, creigiog yw dibynnu ar y dulliau sydd wedi ennill eu plwyf ac sy’n ddibynadwy.
Ateb y teulu yw trin y tir yn y ffordd draddodiadol y mae wedi cael ei ffermio ers canrifoedd. Rhoi'r anifeiliaid caled yn gyntaf ac yna weithiau gorfod wynebu gwyntoedd iasoer a glaw mawr i sicrhau eu bod yn derbyn y gofal gorau.
“Mae'n ffordd ni’n eithaf traddodiadol yma. Mewnbwn isel; dyna sy'n ei wneud yn gynaliadwy. Ond mae'n waith caled iawn, nid oes llawer o bobl yn ei wneud" eglura Heddwyn.
Er gwaethaf y gwaith caled a chydwybodol sy'n cael ei wneud ar ffermydd ledled Cymru gan gynnwys yma yng Ngwm Penmachno, mae ffermwyr wedi cael digon o gael eu beio am holl broblemau cefn gwlad.
Mae Cyril Lewis yn teimlo bod dyfodol ffermio yn y cwm yn ddu iawn oni bai bod newidiadau polisi mawr yn cael eu mabwysiadu, ac mae’n tynnu sylw at rywbeth sy’n amlwg i rai: “Ni fuaswn eisiau bod yn ffermwr ifanc heddiw, yn edrych ar ddyfodol ffermio mwy fel ffermwr cadwraeth na ffermio i gynhyrchu bwyd.
“Un o’r problemau mwyaf yw bod yna ddatgysylltiad rhwng pobl ein trefi ac amaethyddiaeth. Pan welwn brinder bwyd, nid ydynt yn ei gysylltu â sut mae ffermio wedi ei orfodi i newid. Mae twristiaeth yr un fath. Mae pobl yn dod i Gymru oherwydd harddwch y lle. Nid yw'r harddwch hwnnw wedi dod i'r amlwg mewn pump, deg, neu hyd yn oed hanner can mlynedd. Mae wedi dod i’r hyn yr ydyw erbyn heddiw yn sgil cannoedd o flynyddoedd o sut y cafodd ei reoli.
“Fy mhryder mwyaf yw os bydd mwy o goed yn cael eu plannu yn y cwm, bydd yn gnoc arall, yn debyg i’r un a gawsom ym 1962. Rhaid inni osgoi hynny ar bob cyfrif er mwyn y gymuned. Os cynigir plannu coed yn y cwm yn y dyfodol, mae’n hanfodol bod yr awdurdodau yn ymgynghori â'r bobl leol cyn gwneud hynny."