Trychineb Cwm Penmachno i Dafydd Gwyndaf yw gweld y gymuned Gymreig yn dirywio.
Mae mewn sefyllfa unigryw i sylwi ar y newidiadau ar draws y cenedlaethau. “Fi yw’r drydedd genhedlaeth ar y fferm hon ac roedd y teulu yn y cwm cyn hynny. Mae fy ngwreiddiau yn ddwfn iawn yma yng Nghwm Penmachno” meddai.
Mae Dafydd yn cofio pan oedd y cwm bron yn gyfan gwbl Gymraeg ac yn gresynu dros y newidiadau: “Sefydlwyd cangen gyntaf erioed yr Urdd yma, roedd yna ddau gapel ac eisteddfodau blynyddol yn cael eu cynnal yn y pentrefi. Rwy'n cofio'r teulu cyntaf o Loegr yn dod i fyw yma ac ymhen ychydig wythnosau roedd y ddau blentyn yn rhugl yn y Gymraeg. Roedd hi’n naill a’i hynny neu ddim oherwydd prin ein bod ni'n gallu siarad unrhyw Saesneg o gwbl.”
“Bob wythnos mae yna newid yma fel petaent yn cymryd drosodd ym mhob man. Roedd tŷ ar werth ar y briffordd yn y pentref yn ddiweddar ac mae person o Gaerlŷr wedi ei brynu am bris sydd y tu hwnt i gyrraedd pobl leol, ac maent wedi ei droi’n AirBNB. Dim ond am ryw wythnos yr oedd ar y farchnad. Enghraifft arall yw’r tŷ capel, ac unwaith eto, nid wyf yn credu ei fod wedi bod ar y farchnad am wythnos. Fe werthodd am dros bedwar can mil ac maent yn ei adnewyddu nawr. A fydd hwn yn AirBNB arall, pwy a ŵyr?"
Nid yw Dafydd yn gwrthwynebu newid ond mae’n teimlo na ddylai hynny fod ar draul diwylliant a’r gymuned leol, ac mae’n mabwysiadu’r un agwedd tuag at ffermio.
Mae Dafydd, sydd tan yn ddiweddar wedi bod yn ffermio diadell o 1,000 o ddefaid a 30 o wartheg sugno Duon Cymreig ar 1,000 o erwau yng Nghwm Penmachno, yn rhoi pwyslais enfawr ar brynu cynnyrch lleol fel arwydd syml o ansawdd.
“Gallaf ddilyn fy nghynnyrch o eni’r anifail i’r plât. Arferai gŵr o Fae Colwyn brynu'r stoc gennyf. Arferai eu tewhau a chyflenwi cigyddion Pointen yn Hen Golwyn. Roeddent yn gwerthfawrogi'r ffaith y gallent eu dilyn drwy’r holl broses” meddai.
“Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn cyflenwi cigydd lleol yn Llanrwst, sef O.E. Metcalfe, yn uniongyrchol. Nid oes unrhyw beth yn cael ei wthio yn ormodol. Mae'r milltiroedd bwyd yn isel iawn, dim mwy na deuddeg milltir. Yn aml iawn gallwch ddilyn y cynnyrch o’r fferm yr holl ffordd lawr i westai ym Metws y Coed. Mae'n syml ond mae'n gweithio. Cig eidion da o Gymru.”
Mae Dafydd yn cofio amser pan oedd y gadwyn fwyd hyd yn oed yn fwy lleol: “Byddai lladd-dŷ yn y pentref. Byddai un ym Mhenmachno hefyd, dim ond tair milltir i ffwrdd. Arferai’r cigydd fynd o amgylch yr ardal gyda’i fan mor bell ag Ysbyty Ifan.
“Roedd yna groser hefyd a fyddai’n mynd o amgylch y ffermydd mewn fan ddwywaith yr wythnos. Os oeddech chi eisiau mwy o unrhyw beth, fe allech adael nodyn wrth y giât neu ddweud wrth rywun yn y capel ar ddydd Sul, a byddech chi'n siŵr o'i gael.”
Arweiniodd at ysbryd cymunedol aruthrol. Mae'n egluro: “Nid oedd y fath beth â chontractwyr bryd hynny oherwydd byddech chi'n gwneud gwaith i gymydog ac fe fyddent yn gwneud rhywbeth i chi. Er enghraifft, adeg cynaeafu gwair: ni fyddech yn poeni am help llaw oherwydd unwaith y byddai'r chwarel wedi cau am y dydd ac y byddent wedi bwyta eu te, roedd gan y chwarelwyr eu ffermydd i fynd i helpu, yr un rhai bob blwyddyn."
Nid yw Dafydd yn un sydd yn gwrthod arferion modern ond mae’n dyheu am y dyddiau a fu pan oedd y gymuned Gymreig yn gryfach o lawer yn y cwm.
Er ei fod yn teimlo bod y bygythiad enfawr o brynu tir ar gyfer coedwigaeth yn broblem sydd ar fin digwydd, mae'n annog cydweithredu.
“Does gen i ddim byd yn erbyn plannu coed mewn egwyddor, rydw i wedi plannu gwrychoedd a chorneli bach ac yn y blaen fy hun o dan amrywiol gynlluniau, ond nid carpedi o goed conwydd ble mae popeth yn marw oddi tanynt yw'r ffordd ymlaen. Pan blannwyd y coed cyntaf ar dir cyfagos i Lechwedd Hafod trodd fy nhad ein defaid i mewn i’r blanhigfa dros y gaeaf” meddai.
“Dywedodd y Prif Goedwigwr yn y pentref mai ble roedd y defaid yn pori o dan y coed, nhw oedd y coed gorau yn y cwm oherwydd bod y gwreiddiau yn cael eu gwthio i lawr yn ddyfnach i’r pridd gan draed y defaid. Byddai eu tail hefyd yn helpu i ffrwythloni'r coed a byddent yn clirio'r gordyfiant o'r coed a oedd yn arbed amser a gwaith i'r gweithwyr.
“Dywedodd y Coedwigwr mai nhw oedd y coed gorau a thalaf yn y cwm. Yn anffodus nid dyma sydd ar y gweill ar gyfer coedwigo tir yn y dyfodol gan na fyddant eisiau da byw yn pori o dan y coed. Beth bynnag maent yn ei benderfynu ar lefel Genedlaethol, mae angen iddynt ymgynghori â chymunedau cyn i unrhyw waith gael ei wneud, fel arall byddwn ni'n colli mwy o gymunedau i goedwigaeth.”