Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn arall o heriau i'r diwydiant amaethyddol, ond fel bob amser, rydym wedi gorchfygu’r rhwystrau a ddaeth ar ein traws ni. Dechreuodd ein blwyddyn mewn ffordd wahanol iawn i’r arfer - aeth yr wythnos frecwast ffermdy yn rhithwir, gan nad oedd digwyddiadau personol yn bosibl o hyd oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Serch hynny, llwyddodd y tîm i godi miloedd ar gyfer ein helusen y DPJ Foundation. Rydym nawr yn edrych ymlaen at gael brecwast naill ai'n bersonol neu’n rhithwir yn y Flwyddyn Newydd, felly cadwch lygad allan am wybodaeth sy'n lleol i chi a chysylltwch â'ch swyddfa sirol am ragor o fanylion.
Ymunodd ein timau, gan gynnwys staff o Wasanaethau Yswiriant FUW Cyf i frwydro yn erbyn iechyd meddwl gwael wrth iddynt ymuno ag eraill i gymryd rhan yn her # Run1000 i ysbrydoli cymunedau gwledig i fynd allan i gefn gwlad i helpu wella eu hiechyd meddwl. Enillydd yr her i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o filltiroedd oedd Cymru a chyfrannodd tîm grŵp UAC Cyf gyfanswm o 1,156 milltir at y 64,785 milltir a gofnodwyd ar draws pob tîm ledled y byd.
O'r cychwyn cyntaf roeddem yn cymryd rhan mewn gwaith amgylcheddol a bioamrywiaeth, gan annog aelodau i gymryd rhan yng Nghyfrif Adar Tir Fferm Mawr yr Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Chadwraeth Bywyd Gwyllt (GWCT) ac amlygu'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud ar ffermydd ledled Cymru. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr a gobeithio y bydd llawer ohonoch yn cymryd rhan eto'r flwyddyn nesaf.
Yn fwy diweddar, roedd UAC yn falch o gynnal lansiad Cynllun Gweithredu Gylfinir Cymru/Curlew Wales, gyda'r nod o achub rhywogaeth y mae aelodau'n poeni'n fawr amdani. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwaith amgylcheddol a wnaed gan ein ffermwyr, roedd yna rwystredigaeth gan fod aelodau'n profi’n uniongyrchol, nid yn unig newid hinsawdd ond diffyg gweithredu gan awdurdodau.
Er enghraifft, achoswyd llifogydd difrifol dros gannoedd o erwau o dir aelodau Meirionnydd yn Llanfrothen ger Porthmadog, o ganlyniad i Afon Croesor yn gorlifo unwaith eto i'r Ardal Draenio Fewnol gerllaw, sydd i fod i gael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru - gan achosi difrod aruthrol i beth o’r tir amaethyddol gorau yn yr ardal.
Yn fuan wedyn, roedd yna broblem fawr arall yn ein hwynebu - cyflwyno Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. O hyd, gellir ond disgrifio hyn fel brad enfawr o'r diwydiant, ac un y gobeithiwn y bydd y pwyllgor sy'n edrych arno nawr yn ei gywiro.
Yn wir, gwnaethom fynegi ein siom aruthrol gydag Aelodau’r Senedd a fethodd â chefnogi cynnig i ddirymu’r rheoliadau ar ôl i’r cynnig gael ei drechu o 30 pleidlais i 27 - cefnogaeth a gafodd ei throi o fewn wythnosau yn dilyn lobïo helaeth, pan bleidleisiodd Aelodau o’r Senedd newydd yn unfrydol i adolygu'r rheoliadau. Serch hynny, mae'r penderfyniad i dorri a gludo deddfwriaeth hen ffasiwn deg ar hugain oed yr UE a ddyluniwyd i fynd i'r afael â phroblemau mewn ardaloedd a ffermir yn ddwys i lyfrau statud Cymru yn bryder mawr i bawb sy'n deall pwrpas datganoli Cymru, ac nid yw’n sefyllfa ar hyn wedi newid.
Ar ddechrau’r flwyddyn, ac mewn undod mae nerth, fe wnaethom ymuno â NFU Cymru a CFfI Cymru i alw ar y Gweinidog, Lesley Griffiths AS, i oedi ac ailystyried yr hyn y dylai polisi yn y dyfodol ei gyflawni i bobl Cymru.
Gwnaethom hefyd fynegi pryderon ynghylch cyfeiriad polisi amaethyddol Cymru yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru). Gwrthodwyd y cynigion allweddol ar gyfer dyfodol cefnogaeth amaethyddol yng Nghymru a nodwyd yn y Papur Gwyn, a galwon ni am ddatblygu polisi dilys i Gymru i fodloni amcanion Cymru. Yn ganolog i gynigion Llywodraeth Cymru byddai camau i gyflymu rheolau a chyfyngiadau, a seilio taliadau cymorth fferm ar gyflawni buddion amgylcheddol fel aer glân, ansawdd dŵr a chynefin bywyd gwyllt yn unig.
Roedd methiant Papur Gwyn Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru i gyfeirio at gapio taliadau hefyd yn gywilyddus a chododd bryderon mawr fod cam am nôl oddi wrth y polisi yn cael ei ystyried. Gadewch inni felly obeithio bod y Cytundeb Cydweithrediad Llafur - Plaid Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar a'i ymrwymiad i daliadau sefydlogrwydd yn gosod cydbwysedd mwy priodol sy'n cydnabod peryglon anwybyddu anghenion cymdeithasol ac economaidd ffermwyr.
Yn ogystal â'n hymgysylltiad gwleidyddol, fe wnaethom gynnal cyfres o hystingau lle gallai ffermwyr holi darpar ymgeiswyr Senedd Cymru ledled Cymru cyn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai. Yn unol ag etholiadau Senedd Cymru, gwnaethom amlinellu'r materion mawr sy'n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd i'r wasg a lansio ein maniffesto Etholiad Senedd Cymru.
Yn ein maniffesto etholiad yn 2016 gwnaethom rybuddio am yr heriau digynsail a oedd yn wynebu Aelodau newydd y Senedd a Llywodraeth, ac yn y pum mlynedd ers hynny, nid yn unig bod yr heriau wedi dod i'r fei ond fe’i gwaethygwyd ac ychwanegu atynt.
Mae gwireddu ffurf lawer caletach o Brexit nag a addawyd gan y rhai a fu’n lobïo dros ein hymadawiad o’r UE wedi cyfyngu mynediad i’n prif farchnadoedd allforio ar y cyfandir mewn ffyrdd sydd ond yn dechrau cael eu teimlo, tra bod y pandemig Covid-19 parhaus wedi newid ein bywydau y tu hwnt i adnabyddiaeth - gan dynnu sylw at freuder cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang a phwysigrwydd sector ffermio cryf y dylai ein marchnadoedd domestig allu dibynnu arno am gynhyrchion safonol.
Er bod materion o'r fath wedi bod y tu hwnt i reolaeth ein gweinyddiaethau datganoledig i raddau helaeth, roedd ymateb Llywodraeth Cymru i'r ansicrwydd a'r heriau a wynebai ein sector amaeth ar brydiau yn ddryslyd ac yn wrthgyferbyniol, yn anad dim o ran ei awydd am gostau a chyfyngiadau cynyddol sylweddol wrth eirioli diwygiadau di-baid a heb eu profi o bolisïau cymorth gwledig. Yn y cyfamser, mae toriadau Llywodraeth y DU i gyllid gwledig Cymru - mewn gwrthgyferbyniad uniongyrchol ag addewidion a wnaed dro ar ôl tro gan y rhai a oedd o blaid Brexit - wedi ychwanegu at y pwysau ar amaethyddiaeth Cymru, yr economi wledig a Llywodraeth Cymru.
Mae UAC yn parhau i fod yn glir bod ffermydd teuluol Cymru wrth wraidd ein heconomi wledig, ein diwylliant a'n tirwedd, gan gefnogi cannoedd ar filoedd o swyddi a degau o filoedd o fusnesau sy'n ymwneud â diwydiant cyflenwi bwyd Cymru, a gwneud cyfraniadau di-rif eraill i les trigolion Cymru a'r DU - buddion sy'n ganolog i hynny yw cynhyrchu bwyd, ein nwydd mwyaf gwerthfawr ochr yn ochr â dŵr.
Mae’n rhaid i hynny ddigwydd mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r angen i liniaru newid hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd ac wrth wraidd datblygu polisi ar gyfer Llywodraeth a Senedd Cymru, ond rhaid i ddyheadau o'r fath gael eu dymheru gan y wybodaeth bod newidiadau ysgubol sy'n tanseilio ein ffermydd teuluol a chynhyrchu bwyd ond yn symud cynhyrchu i wledydd sydd â safonau lles anifeiliaid is ac olion traed byd-eang ac amgylcheddol uwch.
Yn hytrach na theimlo bod pryderon o'r fath wedi'u hystyried a gweld mesurau cymesur yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu ein diwydiant, mae llawer yn ystyried y cyfeiriad presennol fel bradychiad o ddatganoli sy'n bygwth y diwydiant amaethyddol yn uniongyrchol, a'r diwylliant, yr iaith a'r ffordd o fyw sydd â chysylltiad cynhenid â chynhyrchu bwyd Cymraeg. Gyda hyn mewn golwg, ni wnaethom ymddiheuro o gwbl wrth dynnu sylw at rwystredigaeth ein haelodau ynghylch diffyg polisïau pwrpasol Cymru ynghylch cynigion cynllun ffermio yn y dyfodol a mynd i'r afael â materion ansawdd dŵr a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae ffermwyr Cymru yn falch o gynhyrchu bwyd o safon flaengar drwy’r byd i safonau amgylcheddol, iechyd a lles anifeiliaid a diogelwch bwyd heb ei ail, ond mae angen rheoleiddio'r rhain mewn modd cymesur sydd ddim yn mygu arloesedd, ddim yn creu cyfyngiadau na ellir eu cyfiawnhau ac ddim yn gosod ffermwyr Cymru o dan anfantais gystadleuol ddifrifol yn erbyn cynnyrch amaethyddol gwledydd eraill. Mae pryderon o'r fath yn arbennig o berthnasol mewn oes pan mae Llywodraeth y DU yn mynd ati i geisio llofnodi cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu sy'n llawer is na'r rhai sydd eisoes yn ofynnol gan gynhyrchwyr bwyd Cymru.
Er bod y dyhead y bydd codi safonau ymhellach yn rhoi mantais gystadleuol i’n cynhyrchwyr mewn marchnadoedd ecsgliwsif yn ddealladwy, mae hefyd yn naïf o ystyried yr hyn y mae’r data yn ei ddweud wrthym - bod pris yn parhau i fod yn brif gymhelliant pan fydd defnyddwyr yn gwneud eu dewisiadau bwyd. Ochr yn ochr â materion a blaenoriaethau allweddol eraill a amlinellwyd gan UAC gwnaethom annog Llywodraeth a Senedd Cymru i ddatblygu polisïau pwrpasol, wedi'u teilwra sy'n adlewyrchu realiti byd-eang o'r fath yn ogystal ag anghenion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru a saith Nod Llesiant Cymru; polisïau sy'n cynnal ein safonau sydd eisoes yn uchel wrth sicrhau nad yw cynhyrchwyr Cymru yn cael eu tanseilio mewn ffyrdd sy'n arwain at fewnforio mwy o fwyd gan y rhai sydd â safonau llawer is na'n rhai ni.
Yna fe wnaethon ni gwrdd ag arweinwyr amaeth y prif bleidiau gwleidyddol yn y cyfnod yn arwain at etholiadau Senedd Cymru, gan dynnu sylw at bryderon y diwydiant a phrif ofynion ein maniffesto.
Mae'r Undeb wedi, a bydd yn parhau i ddwyn y pleidiau i gyfrif ar eu hymrwymiadau i ffermio a gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod polisïau'r dyfodol yn cefnogi ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy - er budd yr economi wledig, yr amgylchedd, diogelu’r cyflenwad bwyd a'n diwylliant a thraddodiadau gwledig unigryw.
Parhaodd cytundebau masnach i fod yn destun pryder mawr eleni. Cyfarfu ein haelodau o Sir Drefaldwyn, yn ogystal â Chymdeithas Proseswyr Cig Prydain (BMPA) â'r AS Craig Williams, aelod o'r Pwyllgor Masnach Ryngwladol, i drafod yr effaith y mae Brexit yn ei chael ar allforion cig. Yma gwnaethom dynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau di-dariff sy'n achosi problemau mawr i allforwyr. Roedd llawer os nad y mwyafrif o allforwyr yn cadw llwythi i’r isafswm neu'n penderfynu peidio ag allforio o gwbl yn ystod wythnosau cyntaf mis Ionawr - na ddaeth yn syndod i ni.
Gan aros gyda chytundebau masnach, nid yw’n unrhyw gyfrinach ynglŷn â sut yr ydym yn ystyried y posibilrwydd o gytundebau masnach rydd â gwledydd fel Seland Newydd ac Awstralia ac wedi codi'r pryderon hyn yn rheolaidd gyda gwleidyddion ledled Cymru, ar ffermydd, mewn cyfarfodydd rhithwir ac mewn tystiolaeth a roddir yn ysgrifenedig ac ar lafar i Ymchwiliadau’r Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.
Yn y cyfarfodydd a dogfennau hynny, ac mewn amryw o ddatganiadau i’r wasg rydym wedi pwysleisio i ba raddau y mae polisïau masnach Llywodraeth y DU, ynghyd â phenderfyniadau ar faterion fel masnach fyw, yn awgrymu parodrwydd bwriadol neu anfwriadol i danseilio ffermio a diogelwch bwyd y DU yn gyfnewid am fuddion dibwys i'r economi.
Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hun, a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol, yn dangos bod buddion economaidd y DU o’r cytundebau masnach sy’n cael eu trafod yn fach iawn ac y byddant yn ffafrio gwledydd eraill lawer mwy na’n rhai ni.
Wrth i Y Tir fynd i brint rydym yn aros am ganlyniad y sgyrsiau brys rhwng y DU a'r UE sydd â'r nod o oresgyn y problemau a achosir gan Brotocol Gogledd Iwerddon - problemau sy'n tynnu sylw at beryglon rhuthro mewn i gytundebau rhyngwladol eraill heb ystyriaeth gofalus - ac yn naturiol yn gobeithio ni fydd y rhethreg ynghylch rhyfel fasnach rhwng y DU a'r UE a fydd yn ddinistriol i ddegau o filoedd o fusnesau'r DU, yn anad dim ffermwyr Cymru, yn dod yn realiti.
Codwyd digon o bryderon ynglŷn â’r ymgynghoriad ar gludo ac allforio anifeiliaid byw, ac roedd yr Undeb yn glir na ddylid gwahaniaethu yn erbyn ffermwyr trwy wahardd allforion pan fydd gan y rheini mewn gwledydd eraill ac o amgylch y byd fasnach rydd, ac yn rhydd i symud anifeiliaid mewn ffyrdd sy'n disgyn ymhell islaw'r safonau uchel sydd gennym yn y DU - rhywbeth a ddisgrifiodd yr Undeb fel rhagrith llwyr.
Disgrifiwyd penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu i fewnforion o’r UE osgoi gwiriadau tan 2022 a thu hwnt gan lawer yn y diwydiant, gan gynnwys ni, fel ergyd i lawer o gynhyrchwyr y DU, ac wedi niweidio sefyllfa negodi’r DU ei hunan dros welliannau sydd yn helpu allforwyr y DU.
Er bod gwiriadau trylwyr wedi bod ar waith ar gyfer allforion bwyd y DU i'r UE ers Ionawr 1 2021, bydd gwiriadau cyfatebol ar gynhyrchion bwyd a fewnforir o'r UE yn cael eu cyflwyno'n raddol dros gyfnod a fesurir mewn blynyddoedd, oherwydd methiant y DU i adeiladu safleoedd archwilio ffiniau a pharatoi ar gyfer proses a gychwynnodd, gan roi mantais glir i fewnforwyr a pheryglu camau cyfreithiol Sefydliad Masnach y Byd gan wledydd y tu allan i'r UE.
Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom hefyd ymuno â chyfarfod bwrdd gron gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig George Eustice AS, lle gwnaethom bwysleisio'r angen am eglurder ar gyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru.
Felly, yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gwnaethom groesawu cyhoeddiad y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS, y bydd ffermwyr yn parhau i dderbyn y Cynllun Taliad Sylfaenol tan 2023 ac y bydd estyniad dwy flynedd i gytundebau Glastir Uwch, Tir Comin Glastir a Glastir Organig. Diolch byth bod dyraniad cyllid Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd yn Adolygiad Gwariant yr hydref, yn ddigonol i ganiatáu i hyn ddigwydd - ond nid yw hynny'n tynnu oddi ar y rhwystredigaeth bod y cronfeydd hynny, am yr ail flwyddyn yn olynol, yn sylweddol is na'r hyn a addawyd ym maniffesto'r Ceidwadwyr, gan olygu erbyn 2025 bydd amaethyddiaeth a datblygu gwledig Cymru gyfanswm o oddeutu £248 miliwn ar gollwd nag y byddai wedi bod pe byddem wedi cadw cyllideb 2019, fel yr addawyd gan Lywodraeth y DU.
Heb golli golwg ar yr hyn sy'n bwysig o ran poeni da byw, fe wnaethom gynnal gweminar i fynd i'r afael â'r digwyddiadau parhaus ledled Cymru. Roedd yn ddigwyddiad addysgiadol a fynychwyd yn dda, a helpodd i egluro pa wasanaethau y gall Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf. eu darparu i aelodau pe byddent yn gweld bod yna ymosodiad yn digywdd ar eu da byw. Clywsom ymhellach gan dîm Trosedd Gwledig Heddlu Gogledd Cymru am y gyfraith a'r hyn y gallant ei wneud i erlyn y rhai sy'n methu â chadw rheolaeth ar eu cŵn.
Yn fuan wedi hynny, croesawyd cyhoeddiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths, y bydd rôl Cydlynydd Trosedd Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru gyfan yn cael ei sefydlu. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu cyllid ar gyfer y rôl beilot 12 mis ac mae wedi ysgrifennu at holl Brif Gwnstabliaid Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd i annog penodi Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru gyfan.
Ers penodi Rob Taylor i'r rôl rydym wedi cwrdd ag ef a heddluoedd eraill ledled Cymru yn rheolaidd i sicrhau y gellir cadw ein cymunedau gwledig a ffermio yn ddiogel. Wrth inni agosáu at COP 26 ac Uwchgynhadledd System Fwyd y Cenhedloedd Unedig (UNFSS), helpodd ein hymgyrch 'Gwarcheidwaid Tir Cymru' aelodau i fynd i'r afael â honiadau camarweiniol gan amrywiol grwpiau am y rôl y mae ffermio da byw yn ei chwarae mewn perthynas â newid hinsawdd a'r amgylchedd.
Rydym wedi cydnabod yn gyson y bygythiad a gynrychiolir gan newid hinsawdd a'r angen i weithredu. Mae hyn yn amlwg o edrych yn ofalus ar ein maniffestos a'n dogfennau polisi a gyhoeddwyd dros yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd 2021 felly yn flwyddyn bwysig i'r mathau hyn o sgyrsiau. Roedd Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig a COP26 ar fin cael eu cynnal.
Gwnaethom ymgysylltu â'r sgyrsiau hyn ar lefel ryngwladol a rhannu rhai pryderon â diwydiannau eraill ledled y byd am y naratif a'r uchelgeisiau ehangach a nodir mewn dogfennau a chynlluniau anamlwg sy'n anelu at fynd i'r afael â newid hinsawdd a dulliau cynhyrchu bwyd anghynaladwy canfyddedig.
Y rhesymeg y tu ôl i’n hymgyrch ‘Gwarcheidwaid tir Cymru’ felly oedd mynd i’r afael â’r honiadau cynyddol camarweiniol hynny gan y cyfryngau, gwleidyddion a grwpiau lobïo gwrth-gig eraill ynglŷn â rôl ffermio da byw mewn perthynas â newid hinsawdd a llygredd. Byddwn hefyd yn mynd i'r afael â rhai chwedlau sy'n bodoli ynghylch safonau iechyd a lles anifeiliaid gwael. Amlygodd yr ymgyrch ymhellach fod ffermwyr Cymru yn ymateb i'r her o wella iechyd pridd a chynyddu deunydd organig mewn priddoedd, gwelliannau sy'n cynrychioli cyfleoedd pellach i storio mwy o garbon.
Cyflawnir y gwelliannau hyn, a amlygwyd gan yr ymgyrch, trwy batrymau pori da byw penodol a chyfnodau gorffwys. Roedd yr ymgyrch hefyd yn glir bod angen yr opsiynau, y canllawiau a'r gwobrau cywir i annog mwy o ffermwyr i fabwysiadu systemau o'r fath. Gan mai ffermwyr yw'r cyswllt mwyaf dibynadwy yn y gadwyn gyflenwi, maent yn y sefyllfa orau i gyfleu eu straeon gan helpu i fynd i'r afael â phryderon defnyddwyr a dylanwadu ar agendâu gwleidyddol.
Diolch felly i'r holl aelodau hynny sydd wedi cefnogi ein hymdrechion i adrodd stori gadarnhaol ffermio trwy gydol y flwyddyn. Fe wnaeth yr ymweliadau a’r astudiaethau achos hyn hefyd ein helpu i egluro’n llawn y byddai cynllun cymorth amaethyddol yn y dyfodol sy’n canolbwyntio’n llwyr ar Nwyddau Cyhoeddus a chanlyniadau amgylcheddol yn seiliedig ar ffactorau amgylcheddol cymhleth a dealltwriaeth wael yn gamgymeriad. Ac wrth i'r sgyrsiau newid hinsawdd ddwysau, buom yn trafod rhinweddau ac anfanteision cyfyngu ar faint o gredydau carbon y gellir eu gwerthu o dir Cymru, cwotâu masnachu carbon a dulliau eraill y gellid eu defnyddio yng Nghymru.
Yn wir, yn ystod cyfarfod o'n Pwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol, mynegodd yr aelodau bryder mawr y gallai cyfran fawr o'r carbon sydd wedi'i gloi a'i storio ar dir Cymru gael ei werthu i wledydd a chwmnïau eraill y tu allan i Gymru, gan danseilio gallu amaethyddiaeth Cymru neu hyd yn oed Cymru yn ei chyfanrwydd i ddod yn garbon niwtral. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at bryderon parhaus bod ffermydd o Gymru yn cael eu prynu gan gwmnïau o’r tu allan i Gymru er mwyn cyfnewid am garbon Cymru.
Gwnaethom gyfarfod â Gweinidogion perthnasol, gan gynnwys y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y Dirprwy Weinidog Lee Waters a grwpiau gwleidyddol ehangach i godi'r holl bryderon hyn. Roedd hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni barhau i dderbyn adroddiadau gan aelodau bron yn wythnosol bod ffermydd cyfan neu ddarnau o dir yn cael eu prynu gan unigolion a busnesau o'r tu allan i Gymru, at ddibenion plannu coed er mwyn buddsoddi yn y farchnad garbon gynyddol neu wrthbwyso eu hallyriadau eu hunain - yn hytrach na cheisio lleihau eu hôl troed carbon yn y lle cyntaf. Yn anffodus, pwnc arall a'n cadwodd ar flaenau ein traed eleni, yw'r argyfwng TB parhaus.
Nid oedd un cyfarfod a gawsom ar fferm yn mynd rhagddo heb i aelod dynnu sylw at yr effaith ddinistriol y mae'r afiechyd hwn yn ei gael ar eu busnes ac iechyd meddwl. Felly roeddem yn rhwystredig unwaith eto gan y datganiad a wnaed gan y Gweinidog Materion Gwledig ynghylch y Rhaglen Dileu TB.
Cyhoeddodd y Gweinidog ymgynghoriad 12 wythnos, ‘Rhaglen Ddiwygiedig ar gyfer Dileu TB’ sy’n amlinellu cynigion polisi yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r afiechyd yng nghwartheg Cymru. Gyda'r achosion o TB yn cynyddu mewn Ardaloedd TB Isel yng Nghymru, mae y tu hwnt i rwystredigaeth mai'r unig ymateb sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn yw gosod rheolaethau gwartheg a beichiau profi cynyddol ar ein teuluoedd ffermio gweithgar.
Mae cytundeb rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru i weithio ar y cyd am y tair blynedd nesaf ar 46 o bolisïau lle mae budd cyffredin yn codi nifer o obeithion - er fy mod yn amau efallai mai yn y manylion bydd y diafol. Mae'r cytundeb yn ymdrin ag ystod enfawr o egwyddorion, gan gynnwys caffael lleol, ail gartrefi, plannu coed, llygredd amaethyddol, yr iaith Gymraeg a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'r cytundeb yn nodi y bydd cyfnod pontio yn cael ei gyflwyno wrth i'r system taliadau fferm gael ei diwygio felly bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod a thu hwnt i'r tymor hwn yn y Senedd.
Rydym wrth gwrs yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a gwleidyddion o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei ddatblygu mewn ffordd sy'n parchu'r ymrwymiad i daliadau sefydlogrwydd yn llawn. Fel y gallai aelodau ddisgwyl, byddwn yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau er mwyn ceisio'r dyfodol gorau i'n ffermydd teuluol.
Ar nodyn olaf eleni, hoffwn ddiolch i'n Rheolwr Gyfarwyddwr newydd Guto Bebb, ein swyddogion a chadeiryddion pwyllgorau ac wrth gwrs i'n staff ar draws grŵp UAC am eu holl gwaith caled. Yn ystod blwyddyn arall o weithio o bell rwy'n credu bod pawb wedi gwneud gwaith anhygoel wrth wasanaethu ein haelodau, lobïo ac amlygu'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ar ran aelodau a chwsmeriaid. Byddaf yn codi gwydraid i chi i gyd ddydd Nadolig ac yn gobeithio y cewch chi fwynhau Nadolig Llawen a heddychlon a hoffwn ddymuno'r gorau i chi ar gyfer y Flwyddyn Newydd.