Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at ASDA ynglŷn â phenderfyniad yr archfarchnad i gamu nôl o’i haddewid i werthu cig eidion 100% Prydeinig ffres ychydig wythnosau ar ôl gweithredu’r addewid.
Daw’r llythyr ar ôl i ffermwyr o bob rhan o Gymru gysylltu â’r undeb i fynegi eu dicter a’u siom.
Mae UAC wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o ASDA ar sawl achlysur drwy gydol y pandemig i drafod pwysigrwydd cefnogi cynhyrchwyr o Gymru a’r DU ar adeg pan oedd cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang yn gyfnewidiol iawn.
Felly, roedd yr ymrwymiad i werthu llaeth, tatws a chig eidion ffres 100% o Brydain yn dilyn gwerthu cyfran fwyafrifol y manwerthwr wedi'i groesawu.
Mewn llythyr at ASDA, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Serch hynny, mae’r penderfyniad diweddar i dynnu nôl o’r addewid i werthu cig eidion 100% Prydeinig ffres ar ôl dim ond dau fis o wneud hynny wedi bod yn sioc i aelodau UAC, yn enwedig o ystyried y ffaith bod manwerthwyr mawr eraill wedi ymrwymo i gynnal addewidion o’r fath er gwaethaf amodau presennol y farchnad.”
Er bod sector cig coch y DU wedi gweld prisiau calonogol dros y deuddeg mis diwethaf, ysgrifennodd Mr Roberts, rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun y toriadau sydd eisoes wedi’u gwneud i daliadau cymorth fferm yn Lloegr, costau mewnbwn uwch, problemau’r gadwyn gyflenwi y mae ASDA hefyd wedi profi ac ansicrwydd ynghylch mwy o fiwrocratiaeth, cefnogaeth amaethyddol y dyfodol ac effaith cytundebau masnach.
“Er enghraifft, yn ystod yr wythnos yn diweddu 1 Ionawr 2022 roedd pris pwysau marw Prydain Fawr ar gyfer yr holl wartheg ar gyfartaledd 10% yn uwch flwyddyn ar ôl blwyddyn tra bod prisiau gwrtaith Prydain Fawr ym mis Tachwedd 2021 ar gyfartaledd 153% yn uwch na lefelau 2020.
“Yn sgil yr ansicrwydd a’r ansefydlogrwydd mawr sy’n wynebu diwydiant amaethyddol y DU, mae UAC yn annog ASDA i ailystyried ei hymrwymiad i werthu cig eidion 100% Prydeinig ffres er mwyn rhoi sicrwydd i gynhyrchwyr y DU na fyddan nhw’n cael eu disodli yn y dyfodol,” ysgrifennodd Llywydd yr Undeb.