Mae cangen Caernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru wedi llwyddo i godi swm aruthrol o arian at elusen gyda’i digwyddiadau brecwast ffermdy unwaith eto.
Llwyddodd y digwyddiadau, a gynhaliwyd yn Siop Fferm a Chaffi Abersoch, Sarn Bach, Pwllheli; Fferm Bryn Hynog, Llannor, Pwllheli a Chaffi Anne, Marchnad Da Byw Bryncir, Bryncir i godi dros £3000 ar gyfer elusen ddewisol Llywydd UAC – Sefydliad DPJ, a Chronfa’r Goron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Er gwaethaf cyfyngiadau Covid, denodd yr achlysur gefnogaeth wych gan y cymunedau lleol ac mae'r arian yn parhau i lifo mewn.
Dywedodd Cadeirydd Sir Gaernarfon, John Hughes: “Unwaith eto mae’n rhaid diolch i’r gwragedd fferm, eu teuluoedd a’u ffrindiau am ddarparu brecwastau bendigedig gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Diolchwn i Sion a Delyth Edwards, Dylan a Jackie Williams ac Anne Franz a’u timau gweithgar am eu hymdrechion ardderchog sydd wedi codi gymaint o arian at elusennau haeddiannol iawn.
“Yn ogystal hoffwn ddiolch i’r holl fusnesau lleol isod am eu cefnogaeth a rhoddion amhrisiadwy, a hefyd i bawb a fynychodd y tri digwyddiad, heb eu cyfraniad hwy byddai wedi bod yn amhosib casglu swm mor anrhydeddus”.
Gweler yma restr o’r busnesau a gyfrannodd at y digwyddiadau brecwast yng Nghaernarfon:
K.E. Taylor Daughter & Son, Cricieth; O.G. Owen a’i Fab, Caernarfon; Oinc Oink, Llithfaen; Cig Ceirion, Sarn; Siop Fferm Gerlan, Penygroes; Hufenfa De Arfon, Rhydygwystl; Welsh Lady, Y Ffôr; Becws Islyn, Aberdaron; Llechwedd Meats, Llangefni; Cotteswold Dairy; Llaeth y Llan - Village Dairy, Llannefydd; Wyau Llŷn Eggs, Pwllheli; Wyau Fron Oleu, Tremadog; Wyau Desach, Clynnog Fawr; Y Cwt Wyau, Hirwaun; Morrisons Caernarfon; Caffi Idris, Cricieth; Cigoedd y Llain, Pwllheli; Oren, Porthmadog; R & H Evans, Pwllheli; R & I Jones, Caernarfon; Cegin Nani; Henllan Bakery, Dinbych; Poblado Coffi; Caffi Tŷ Newydd, Uwchmynydd; Blas ar Fwyd, Llanrwst; Oriel Plas Glyn y Weddw; Total Produce, Lerpwl; Dwyfor Coffi; Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn